The PDR logo
Medi 28. 2021

Cymwyso dylunio yn y diwydiannau creadigol

Ers 2019, mae PDR wedi gweithio gyda’r diwydiannau creadigol trwy’r Prosiect Clwstwr. Nod y prosiect yw creu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin.

Gan ddefnyddio’r dull diemwnt dwbl, rydym ni’n gweithio gyda chwmnïau i roi eu cwsmeriaid wrth galon pob dim gyda chyfres o offerynnau a fframweithiau, gweithdai a sesiynau.

Trwy helpu cwmnïau i gymhwyso dylunio yn eu prosesau, bydd y cwmnïau hyn yn gwneud dewisiadau gwell, mwy cynaliadwy ac felly’n creu gwell cynnyrch ar gyfer eu defnyddwyr.

Yn ein fideo diweddaf, buom yn siarad â Jo Ward, Dylunydd yn PDR, sy’n esbonio sut mae cael y gorau o’r sefydliadau yr ydym ni’n gweithio â nhw i fabwysiadu ffordd wahanol o feddwl dylunio.