The PDR logo
Mai 13. 2019

Adeiladu Cymuned Dylunio Gwasanaethau Caerdydd

Mae Dylunio Gwasanaethau Caerdydd (CSD) yn gymysgedd o unigolion sydd â diddordeb mewn dylunio gwasanaethau a oedd yn meddwl ei bod yn bryd creu rhwydwaith – mae Piotr a minnau yn ddau o’r wyth gwreiddiol. Yn ystod sgwrs ar noson wlyb ym mis Mawrth, dyma ddechrau cynllunio’r hyn y gallai’r gymuned hon fod ac roeddem am ei hagor i eraill. A ninnau eisiau cychwyn arni, roedd PDR wedi cyffroi i gynnal cyfarfod cyntaf CSD yn Milk & Sugar | Yr Hen Lyfrgell (ein cartref oddi cartref ar gyfer digwyddiadau) er mwyn dechrau archwilio’r potensial ar gyfer y gymuned hon.

Roedd yn bwysig iawn i ni greu awyrgylch cynhwysol – digwyddiad anffurfiol iawn â chroeso cynnes. Cawsom ychydig o gyflwyniadau cyflym (rhai wedi’u paratoi a rhai difyfyr), trafodaethau a gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar lunio dyfodol dylunio gwasanaethau yng Nghaerdydd. Roedd gennym syniad o beth yw CSD ar hyn o bryd, ond roeddem am wybod beth allai fod. Roedd gennym gwestiynau i’w gofyn. Ble allem ddatblygu? Beth oedd pobl am ei wneud?

Roeddwn i am weld ‘pwy ydych chi a ble ydych chi’, felly cydiais yn yr Instax ffyddlon ac ychydig o binnau Sharpie a dechreuais dynnu lluniau o’r rheiny a oedd am fod ‘ar y map’ fel petai. O amgylch yr ystafell, roeddem wedi gosod penawdau pynciau i gael syniad o’r hyn roedd pobl yn ei ddychmygu ar gyfer CSD, yn ogystal â’r pennawd ‘amrywiol’ ar gyfer unrhyw beth nad oedd yn ffitio i gategori.

Roedd Alistair, ein Harweinydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, wedi hwyluso gweithgaredd torri’r garw gwych ar gyfer y grŵp a oedd yn cynnwys dod o hyd i awdur ffaith ddifyr bersonol. O godwyr pwysau i’r clun sydd wedi torri record y byd i greithiau a achoswyd gan flociau Duplo, cymerodd bawb ran mewn sgyrsiau diddorol gan ddysgu ychydig mwy am ei gilydd. (Rwyf bellach yn gwybod pa mor gyffredin yw creithiau ar dalcennau, ond mae rhai a wnaed gan Duplo yn llai cyffredin…)

Mae gweithio ym maes dylunio gwasanaethau yn golygu, yn gyffredinol, fod gennych syniad bras o “ddylunwyr gwasanaethau” eraill, ond yn ôl pob tebyg, mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes dylunio gwasanaethau nad ydynt yn ddylunwyr gwasanaethau…neu efallai nad ydynt hyd yn oed yn gwybod bod hynny’n deitl swydd, ond mae hynny’n iawn. Roeddem wedi agor y rhwydwaith i unrhyw un yn ardal Caerdydd a’r cyffiniau sy’n gweithio ar ddylunio gwasanaethau ac sydd â diddordeb mewn dylunio gwasanaethau.

Roedd yn wych gweld cynifer o wynebau newydd – ac am amrywiaeth! Roedd gennym entrepreneuriaid, sefydliadau’r llywodraeth, darparwyr gwasanaethau, yn ogystal â darparwyr dylunio a phocedi o grwpiau rhyngddynt. Roedd cwrdd â phobl o’r un anian ond sydd â setiau sgiliau a chefndiroedd gwahanol yn rhywbeth roeddwn i’n bersonol am ei gael o’r digwyddiad hwn.

Gyda digonedd o ddanteithion a diodydd blasus yn eu dwylo, roedd pobl yn ymddangos yn gartrefol wrth sgwrsio am wasanaethau, dal i fyny â hen gysylltiadau a chwrdd â rhai newydd. Roedd ychydig o gyflwyniadau cyflym wedi ein helpu i ddod i adnabod ein gilydd ychydig yn fwy. Bellach, mae pawb yn gwybod am frwdfrydedd Alistair dros gynhwysiant, yn ogystal â’i esgidiau jeli anhygoel.

Yn sgil y digwyddiad, cafwyd consensws ynghylch rhannu arferion da a gwybodaeth. Y gobaith yw y bydd nid yn unig digwyddiadau bob chwarter ond sesiynau dal i fyny anffurfiol â thema bob mis i roi’r byd yn ei le. Gan mai’r ymateb yn fynych yw ein bod yn gosod safon eithaf uchel, rwy’n gyffrous iawn i weld beth y byddwn ni fel grŵp yn ei benderfynu ar gyfer y digwyddiad mawr nesaf (Gorffennaf/Awst o bosibl – i’w gadarnhau). Rwy’n credu ei bod yn ddiogel dweud bod pizza a chaws yn bendant yn bethau i ymchwilio iddynt ar gyfer dyfodol CSD!