The PDR logo
Mai 12. 2021

Archwilio Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a Chryfder Rhannu

Mae gan Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) y potensial i drosglwyddo busnesau, gan eu helpu i arloesi drwy ddylunio cynhyrchion a gwasanaethau, ymuno â marchnadoedd newydd ac, yn y pen draw, cynyddu eu refeniw.

Mae Julie Stephens, Rheolwr Masnachol a’r Athro Andrew Walters, Cyfarwyddwr Ymchwil yn PDR, yn trafod gwerth y Partneriaethau a’r ffordd y gall cymorth PDR helpu busnesau i ffynnu.

BETH YW PARTNERIAETH TROSGLWYDDO GWYBODAETH?

Mae’r cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn creu partneriaeth tair ffordd rhwng cwmni o’r DU, sefydliad academaidd ac unigolyn graddedig cymwys. Mae’r unigolyn graddedig yn rheoli prosiect gyda’r sefydliad academaidd yn mentora. Mae’r cynllun, a ariennir gan lywodraeth y DU, wedi bod yn weithredol ers 45 mlynedd a mwy.

SUT MAE PARTNERIAETHAU TROSGLWYDDO GWYBODAETH YN GWEITHIO?

Meddai Julie: "Mae’r cynllun yn helpu cwmnïau i ennill galluoedd newydd i gynyddu refeniw.

"Pan fyddwn ni’n cyfarfod gyda chwmni, rydyn ni’n trafod amcanion strategaethol. Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ymchwil, rydyn ni’n mynd ati wedyn i weld ble mae cwmnïau angen cymorth."

Mae PDR a’r cwmni’n cyflwyno cais KTP ar y cyd ac, os yw’n llwyddiannus, mae PDR yn arwain ar recriwtio, gan gyflwyno rhestr fer i’r cwmni i’w chymeradwyo. Fel arfer, mae’r cynllun yn para rhwng dwy a thair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r unigolyn graddedig yn aelod o dîm y cwmni i bob pwrpas, yn cael ei gyflogi drwy’r sefydliad academaidd sy’n cefnogi’r broses.

Mae Andrew’n crynhoi: "Mae’r Partneriaethau’n enghraifft anhygoel o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithredu yng ngwir ystyr y gair, er budd pob partner."

BETH SY’N GWNEUD PDR YN BARTNER GWERTHFAWR MEWN KTP?

Mae PDR wedi llywio proses ymgeisio gystadleuol KTP ar ran llawer o gwmnïau’r DU yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.

Mae Andrew’n credu y gellir priodoli llwyddiant PDR i’w strwythur unigryw: "Mae ein harbenigedd dylunio’n ymestyn i ymchwil academaidd ac ymgynghoriaeth. Mae KTPs yn ein galluogi i gymhwyso’r ddau arbenigedd hyn: sy’n ased wrth fynd ati i sefydlu potensial prosiect."

Mae cyfraniad PDR wedi arwain partneriaid mewn partneriaethau’r gorffennol at gyfleoedd newydd. Yn ôl Julie: "Oherwydd bod ein hymchwil dylunio’n seiliedig ar ymarfer dylunio o safon uchel, gallwn ganfod meysydd arloesi dyw busnesau heb eu harchwilio eto o bosibl. Mae hynny’n arwain at rai canfyddiadau gwerthfawr, ac yn llywio’r sail i gynhyrchion, gwasanaethau a modelau busnes newydd.”

BETH ALL CWMNÏAU EI DDISGWYL?

"Mae’r partneriaethau’n unigryw i gwmnïau unigol,” eglura Julie, "felly fel y disgwyl, mae canlyniadau’n amrywio. Gan gydweithio â graddedigion, rydyn ni’n tueddu i gyflwyno strwythurau newydd sy’n golygu y gellir arloesi mewn sefydliad. "Mae hyn yn rhoi hirhoedledd i brosiectau KTP y tu hwnt i oes y cynllun."

Ychwanega Andrew: "Unwaith y mae systemau newydd ar waith, yna rydyn ni’n dechrau rhoi newidiadau ar waith, boed hynny drwy ddatblygu gwasanaethau newydd i ategu cynhyrchion sydd eisoes yn bodoli neu amrywio’r hyn y mae cwmni’n ei gynnig."

PA GANLYNIADAU Y MAE PDR WEDI’U CYFLAWNI?

Yn ystod y tri degawd diwethaf, mae PDR wedi helpu llawer o bartneriaid i sicrhau dwywaith cymaint â’r buddsoddiad cychwynnol.

Un partner o’r fath yw Orangebox, gwneuthurwr dodrefn swyddfa yn y DU. Derbyniodd Orangebox gymorth PDR er mwyn adolygu ei broses dylunio a datblygu cynhyrchion a datblygu a lansio cynnyrch sy’n arwain y farchnad, gan gynyddu elw mwy na 35%.

Mae cyfraniad PDR tuag at broses datblygu cynhyrchion wedi cyflymu ein hamser cyrraedd y farchnad o sawl mis ac wedi arwain at ddull mwy soffistigedig o ddatrys heriau technegol.

EWAN TOZER | CYFARWYDDWR TECHNEGOL | ORANGEBOX

ARGRAFFIADAU OLAF

Gan gyfeirio at y cynllun, meddai Andrew: "Does dim modd gorddweud gwerth Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i fusnesau’r DU. Byddwn ni’n annog unrhyw arweinydd sy’n credu y gallai ei fusnes elwa o’r rhaglen i gysylltu â ni.”

CAMAU NESAF

Os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni.