The PDR logo
Awst 13. 2020

Archwilio’r Prosiect Clwstwr gyda’r Athro Andrew Walters

YR ATHRO ANDREW WALTERS, CYFARWYDDWR YMCHWIL, YN ESBONIO SUT MAE PDR YN GWEITHIO GYDA CLWSTWR I GEFNOGI DIWYDIANNAU CREADIGOL CYMRU.

Ymchwil a datblygu: mae’n gysylltiedig yn amlach â chorfforaethau mawr ond, mewn gwirionedd, mae’n broses fusnes werthfawr sy’n cynnig buddion i gwmnïau o bob maint. Yn y diwydiannau creadigol, lle mae’r angen i ymgysylltu, addysgu a diddanu yn gyson yn galw am arloesi, gallai mabwysiadu arferion ymchwil a datblygu fod yn hanfodol i ffyniant y sector.

Mae PDR yn bartner yn Clwstwr, sef un o’r naw rhaglen Clwstwr Creadigol sy’n cael eu hariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae Clwstwr yn canolbwyntio ar ddatblygu newydd-bethau yn y Diwydiannau Creadigol sy’n ymwneud â’r sgrin (profiadau ar gyfer y teledu, ffilm a dyfeisiau digidol yn bennaf) a newyddion.

SUT MAE PDR YN CEFNOGI CLWSTWR

Gan weithio gyda phartneriaid eraill Clwstwr, mae PDR yn darparu’r offer sydd eu hangen ar y sefydliadau sy’n rhan ohono i archwilio cynnyrch a gwasanaethau newydd. Gan fanteisio ar ein 26 mlynedd o brofiad o arloesi ym maes dylunio, rydym yn helpu cwmnïau creadigol Cymru i gael dealltwriaeth gryfach o’u marchnadoedd a’u cwsmeriaid, gan gefnogi’r broses o archwilio syniadau arloesol.

Rydym eisoes wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau addawol sy’n ystyried ffyrdd newydd a chyffrous o ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd. Mae pob prosiect wedi caniatáu i ni arfogi cwmnïau creadigol ag arferion ymchwil a datblygu syml y gellir eu rhoi ar waith, gyda’r bwriad o ysgogi twf ar gyfer busnesau unigol a’r sector creadigol ehangach.

SYNIADAU ARLOESOL

Rydym yn credu bod pob sefydliad sydd wedi cymryd rhan wedi elwa o’r prosiect Clwstwr. Mae pob cwmni wedi cyflwyno cysyniad unigryw a diddorol. Mae ambell i brosiect yn sefyll allan.

Mae The White Tent Company yn cynnal digwyddiadau dirgelwch llofruddiaeth. Roedd am ddatblygu profiad realiti estynedig a realiti rhithwir difyr i’w gwsmeriaid, gan ddefnyddio dyfeisiau llaw. I gwmni llai heb brofiad blaenorol o ymchwil a datblygu, roedd meddwl am brofi syniad cwbl newydd ychydig yn frawychus. Drwy ei gyflwyno i rai technegau syml a fforddiadwy, buan iawn roedd PDR yn gallu helpu The White Tent Company i gynnal ymchwil effeithiol.

Er mwyn canfod sut gallai’r gwasanaeth newydd hwn weithio’n ymarferol, aethom ati i annog y cwmni digwyddiadau i greu bwrdd stori o’i gysyniad a dod o hyd i ffyrdd o drafod ei syniadau gyda darpar gwsmeriaid. Fe wnaethom ni gyflwyno ffyrdd o ddatblygu prototeipiau cost isel a oedd yn helpu ei gwsmeriaid i ddychmygu cysyniadau newydd a chreu cyffro ymhlith ei gynulleidfa. Drwy fynd drwy’r broses hon, roedd y cwmni yn gallu deall pa elfennau o’i syniad yr oedd angen eu datblygu ymhellach. Hefyd, cafodd ddealltwriaeth werthfawr o ddiddordebau cwsmeriaid a’r mathau o brofiadau y byddent yn eu mwynhau.

Mae The Box
yn brosiect gan Omidaze, sef cwmni theatr yng Nghymru. Roedd yn awyddus i ddatblygu offer addysgol newydd i wella ymgysylltiad pobl ifanc â’r broses ddemocrataidd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut gall ymchwil a datblygu arwain at fuddion cymdeithasol yn ogystal â buddion economaidd.

Gyda chymorth PDR, nododd Omidaze ddryswch ymhlith pobl ifanc ynghylch eu cynrychiolwyr gwleidyddol lleol; nid oeddent yn sicr ynghylch beth oedd eu cynrychiolwyr yn ei wneud, sut gallent gynnig cymorth neu hyd yn oed sut i gysylltu â nhw. Hwylusodd prosiect The Box drafodaethau manwl gyda phobl ifanc, gan eu hannog i ddogfennu eu hymdrechion i gysylltu â’u cynrychiolwyr lleol. Dangosodd y canfyddiadau gyfleoedd i symleiddio’r broses i bobl ifanc, sydd yn eu tro wedi llywio ffocws y prosiect wrth symud ymlaen.

EFFAITH

Mae pob cwmni sydd wedi cymryd rhan wedi dysgu dulliau newydd a fydd yn ei helpu i arloesi, deall ei farchnad a thyfu ei fusnes. Bydd gan hyn fuddion parhaus i’r sefydliadau eu hunain ac i’r sector ehangach.

Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i ddatblygu dulliau ymchwil newydd sydd wedi’u haddasu ar eu cyfer.

Mae cysylltiadau gwerthfawr wedi cael eu meithrin ar draws diwydiannau creadigol Cymru diolch i’r prosiect Clwstwr. Rydym am gynnal y cysylltiadau hynny a gweld y buddsoddiad mewn arloesi yn parhau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda phrifysgolion, darlledwyr a’r gymuned greadigol ehangach ar brosiectau sydd o fudd i’r diwydiant ymhell ar ôl i’r prosiect Clwstwr pum mlynedd ddod i ben.

Dysgwch fwy am Clwstwr neu edrychwch ar bortffolio ymchwil a datblygu PDR.