The PDR logo
Medi 08. 2021

Golwg ar y Daith Dylunio Cynnyrch yn PDR

Drwy bartneru â'r tîm dylunio cynnyrch yn PDR, fe fyddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth agos â thîm amlddisgyblaethol byd-enwog sy'n cyflawni'n llwyddiannus, dro ar ôl tro, i rai o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd - sefydliadau nad oes angen perswadio arnyn nhw i gydnabod gwerth strategol dylunio.

Ar gyfer y sefydliadau partner hyn, rydym yn dylunio ac yn datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau cenhedlaeth nesaf sy’n ystyrlon, yn llwyddiannus yn fasnachol ac yn cael eu gyrru gan mewnwelediad. Yn ogystal â chreu datrysiadau sy'n wirioneddol gysylltu â defnyddwyr a marchnadoedd heriol, mae ein partneriaid o'r farn bod y broses o weithio gyda PDR yn galonogol, yn werth chweil ac yn aml yn ysbrydoledig.

Y DAITH DYLUNIO CYNNYRCH

Rhaid dweud bod pob prosiect yn PDR yn hollol unigryw, yn enwedig gan ein bod yn cwmpasu sbectrwm eang o sectorau. Ac er bod pob prosiect yn wahanol, mae'r daith yn tueddu i ddilyn strwythur tebyg: Dealltwriaeth ac Ymchwil > Diffinio Cyfle > Dylunio Cysyniad > Datblygu Dylunio a Pheirianneg > Prototeipio > Cwblhau Cynnyrch > Lansio.

Mae'r daith datblygu cynnyrch yn cychwyn gyda ni yn ennill dealltwriaeth gyfoethog o'r heriau, gofynion y prosiect, uchelgeisiau, y farchnad a fwriadwyd, tueddiadau a diffiniad cyfle ar gyfer y cynnyrch newydd. Ar y cam hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'ch rhanddeiliaid perthnasol i gasglu mewnwelediadau cynnar sydd nid yn unig yn diffinio'r briff ac yn pennu manylebau prosiect, ond sy'n caniatáu i ni gael eglurder prosiect cyflawn i ddechrau gyda gweithgaredd dylunio cysyniad.

Yn dilyn ymlaen o'r gwaith mewnwelediad cynnar hwn, bydd ein tîm dylunio wedyn yn nodweddiadol yn llunio nifer o opsiynau a themâu cysyniad o’r safon uchaf, gan archwilio allbynnau a chyfleoedd sy'n codi. Yn y broses hon rydym yn archwilio opsiynau esthetig a phrofiad cynnyrch, ystyriaethau ergonomig, ffactorau dynol, cysylltedd emosiynol ynghyd â manylion megis lliw, ffurf, dewis deunydd a phwyntiau rhyngweithio defnyddwyr.

Ar ôl i gysyniadau cychwynnol gael eu gwerthuso a'u hystyried yn ofalus gan weithio'n agos gyda'n partneriaid, byddwn yn dechrau gyda datblygu dyluniad, mireinio a pheirianneg fanwl i'r cyfeiriad dylunio a ffefrir, gan sicrhau ein bod yn prototeip ac yn gwerthuso ac yn dilysu'n ofalus trwy gydol y broses nes ein bod yn cyrraedd cwblhau a gweithredu cynnyrch yn ofalus.

BETH SY’N ALLWEDDOL I LWYDDIANT DYLUNIO? PERTHNASAU GWEITHIO GWYCH

Mae'n bwysig i'n tîm arobryn ein bod yn ffurfio cysylltiadau hir dymor gyda'n cleientiaid, gan ein galluogi i gloddio'n ddwfn i gael dealltwriaeth gyfoethog o uchelgeisiau ac amcanion busnes, archwilio cyfleoedd masnachol presennol ac yn y dyfodol, ac ymateb i'r anghenion defnyddwyr.

Mae ein proses ddylunio arloesol ddibynadwy yn datblygu'r mewnwelediadau, syniadau a chysyniadau cynnar hynny o ymchwil hyd at ddatblygu, cynhyrchu, lansio'r farchnad a thu hwnt!

Yn PDR rydym yn mabwysiadu dull unigryw, wedi'i deilwra ar gyfer pob prosiect sy'n cyrraedd ein stiwdio, lle mae gennym gyfoeth o brofiad yn datblygu cynhyrchion defnyddwyr, dyfeisiau meddygol, sain, dodrefn, nwyddau tŷ a phopeth rhyngddynt. Mae ein tîm o ddylunwyr a pheirianwyr cynnyrch â ffocws uchel yn angerddol iawn am bob prosiect y maent yn ymgymryd ag ef, ac mae pwysigrwydd cyflawni canlyniadau llwyddiannus yn fasnachol ar ddiwedd pob taith ddylunio yn sail i hyn.

Mae hyn yn hanfodol i bob prosiect yr ydym yn ei gyflawni yn PDR; p'un a yw hynny'n ddyfais feddygol gymhleth sy'n hanfodol i fywyd gyda'r nod o drawsnewid bywyd y claf y mae wedi'i fwriadu ar ei gyfer, neu'n gynnyrch defnyddiwr gyda'r nod o darfu a herio marchnad benodol.

ANELU AM RAGORIAETH MEWN DYLUNIO CYNNYRCH

Mae gallu dylunio cynnyrch PDR yn cael ei gydnabod gan fwy na hanner cant o ddyfarniadau dylunio rhyngwladol mawr (gan gynnwys iF, Red Dot, IDEA a Good Design) ac, yn bwysicach byth nifer o berthnasau tymor hir gyda chwmnïau a sefydliadau uchelgeisiol ac arloesol o bob cwr o'r byd. Ers ein sefydlu yng nghanol y 1990au, mae PDR wedi datblygu cannoedd o gynhyrchion llwyddiannus, lle mae'n hollbwysig gweithredu arloesiadau sydd wedi'u curadu a'u hymchwilio'n ofalus.

Er mwyn cyflawni'r safonau clodwiw sydd gennym, rydym yn defnyddio ystod eang o dechnolegau a methodolegau i gefnogi dyluniad cynhyrchion a nodweddion sy'n gadarn, yn ddibynadwy ac yn hawdd eu cynhyrchu.

Yn PDR mae gennym dechnolegau cynhyrchu cyflym yn ein gweithdy sy'n ein galluogi i gynhyrchu unedau cynnyrch sy'n addas ar gyfer marchnadoedd cyfaint isel a gweithgynhyrchu rhagarweiniol, technolegau Argraffedig 3D, labordy prototeip digidol a llyfrgell LlDG helaeth (Lliw, Deunydd, Gorffen). Mae hyn ynghyd â rhwydwaith eang o gyflenwyr profiadol o bob rhan o Ewrop, UDA a'r Dwyrain Pell y gallwn gefnogi anghenion gweithgynhyrchu gyda nhw.

GWEITHIO GYDA NI

Rydym yn cymryd ein hamser i ddeall a gwrando ar ofynion ein cleientiaid, cael golwg fanwl iawn ar eu hanghenion yn ogystal â datgelu cyfleoedd posibl ar gyfer mapiau cynnyrch a gwasanaeth yn y dyfodol.

Ond yr hyn sy'n hynod bwysig i ni, yw ein bod ni'n datblygu ac yn cynnal perthnasoedd a chyfeillgarwch hirhoedlog â phobl a sefydliadau sy'n rhannu diddordeb a dealltwriaeth ar y cyd o ddylunio da a'r effaith y gall ei chael.

Os hoffech drafod prosiect, cysylltwch ag Anthony trwy e-bostio Amcallister@pdr-design.com i gael ymgynghoriad.

I gael ysbrydoliaeth bellach, archwiliwch ein gwaith ym maes dylunio cynnyrch.