The PDR logo
Meh 27. 2022

Hyfforddiant tŷ gwydr: Sut rydyn ni’n helpu Clwstwr Dylunio Valletta i ymgysylltu â chymunedau newydd

Roedd Ollie Sutcliffe, Arbenigwr Arloesi Dylunio yn PDR, yn rhan o’r tîm PDR a oedd yn gyfrifol am gyflwyno pecyn hyfforddi a chymorth dylunio’n ddiweddar i’n partneriaid hirsefydlog, Asiantaeth Ddiwylliannol Valletta (VCA).

Yr Asiantaeth sy’n gyfrifol am Glwstwr Dylunio Valletta – man arloesi creadigol yn hen ddinas Valletta, y’i lansiwyd ym mis Mawrth 2021 ac y’i cyflawnwyd yn rhannol gyda’n tîm yn PDR.

Rydyn ni’n helpu’r VCA i addasu a gwella gallu allgymorth y Clwstwr mewn cymunedau lleol yn barhaus – ond sut? Cawsom sgwrs gydag Ollie i ddod o hyd i’r ateb…

“Ar ôl lansio gofod y Clwstwr yn llwyddiannus, cysylltodd y tîm yn Valletta â ni i gyflwyno hyfforddiant ‘tŷ gwydr’ ar gyfer sgiliau dylunio gwasanaethau a meddwl dylunio, oherwydd roedd hwnnw’n un maes yr oedden nhw’n teimlo y gallent ei wella yn eu sector cyhoeddus a’u cymunedau creadigol.” Eglura Ollie.

Yn benodol, roedd Asiantaeth Ddiwylliannol Valletta eisiau dysgu sut y gallent helpu’r henoed a rhanddeiliaid lleol eraill i ymgysylltu â’r man creadigol yn ogystal ag archwilio ffyrdd y gallai’r man fod o fwy o fudd iddyn nhw.

“Roedd hi’n bwysig i’r man fod yn hygyrch a dymunol i bawb yn y gymuned leol,” eglura Ollie. “Pan fyddwch chi’n dychmygu busnesau newydd creadigol, rydych chi’n dueddol o ddelweddu un math o berson yn unig – pobl ifanc, technoleg lythrennog, digidol ddeallus yn nodweddiadol. Ond roedd hi’n bwysig iawn i’r VCA ymgysylltu â phawb, er mwyn adlewyrchu cymuned gyfan y ddinas.”

Er mwyn mynd i’r afael ag anghenion yr Asiantaeth, fe wnaethom ddylunio pecyn hyfforddi a’i gyflwyno dros 3 diwrnod. “Fe wnaethom weithio gyda grŵp o randdeiliaid gan gynnwys gweision cyhoeddus, gweithwyr y gofod a’r rhai sy’n ei ddefnyddio – a’u tywys drwy broses ddylunio ddwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ar garlam.

“Ar y diwrnod cyntaf, fe wnaethom gynnal ymchwil yn cynnwys cyfweliadau â’r gymuned leol; y diwrnod nesaf fe wnaethom gynnal y dadansoddi a chreu syniadau – synio yw’r enw a roddwn ar y cam hwn; ac ar y trydydd dydd fe wnaethom ddatblygu prototeip lo-fi o’r syniad diwethaf ac archwilio ychydig yn fanylach sut y byddai pob cysyniad gwasanaeth yn gweithio,” eglura Ollie.

Yn ystod y broses hon, roedd un o’r syniadau diddorol iawn a ddaeth i’r amlwg yn ymwneud â sut y gall yr henoed gyfrannu at y syniadau a grëwyd gan fusnesau newydd ifanc trwy ‘fentoriaeth’ neu ‘raglen baru’. “Mae hyn yn golygu y gallant drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth fel nad yw’r pethau hyn yn mynd ar goll – mae’n syndod faint o atebion arloesol i broblemau y gallwch eu datblygu trwy ddefnyddio safbwyntiau mwy traddodiadol gydag offer a dulliau newydd,” â Ollie yn ei flaen.

Canlyniad arall o’r sesiwn tŷ gwydr yw bod y cyfranogwyr wedi bod yn rhagweithiol wrth lunio rhwydweithiau dylunio gwasanaethau ym Malta ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol!

Camau nesaf

Darllenwch am brosiect hyfforddi tŷ gwydr blaenorol a gyflawnwyd gennym neu darllenwch fwy o newyddion.