The PDR logo
Chw 24. 2022

Jarred Evans PDR ar ddod yn un o feirniaid Gwobrau Dylunio iF

Yn PDR, rydym yn gyfarwydd iawn â chyflwyno cynigion i Wobrau Dylunio iF – mae’n un o’r ychydig wobrau byd-eang dethol yr ydym yn cyflwyno ein gwaith iddynt, oherwydd eu mawredd a safon y gwaith a gyflwynir.

Y tro hwn ar gyfer 2022, mae ein cyfranogiad ychydig yn wahanol! Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion bod Jarred Evans, cyfarwyddwr PDR, wedi’i ddewis fel beirniad, ac mae wedi bod wrthi’n brysur yn chwilota trwy rai o ddyluniadau gorau’r byd y cawsant eu cwblhau yn ystod y 12 mis diwethaf ym mhob rhan o’r byd.

Gan weithio gyda’r cyd-feirniaid, Claudia Freidrich a Johanna Loomis, a galw ar brofiad helaeth y cadeirydd, Fritz Frenkler, lle bo angen, mae tîm Jarred wedi helpu i feirniadu rhai o’r 10,000 a mwy o geisiadau y’u cyflwynwyd eleni.

Wrth edrych ar 5 maen prawf hanfodol Gwobrau Dylunio iF, sef syniad, ffurf, diben, gwahaniaethu ac effaith, dewisodd y beirniaid y ceisiadau a wnaeth yr argraff fwyaf arnynt a’u cyffroi fwyaf. Bydd y cam nesaf yn digwydd ym mis Mawrth, pan fydd y beirniaid yn ymgynnull ym Merlin i feirniadu’r ceisiadau cymwys a dethol y buddugwyr terfynol (gan gynnwys y rhai a fydd yn derbyn y wobr Aur) a gaiff eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo Dylunio iF ar 16eg Mai 2022.

“Ynghyd â’r 5 maen prawf, gofynnais y cwestiynau, ‘A yw hwn o safon Gwobrau Dylunio iF?’, ‘Ydyn nhw wedi’i gyfleu’n dda?’ ac ‘Ydi e’n gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cael yr effaith dymunol?’. Yn y pen draw, gofynnais i fi fy hun, ‘Ydi’r darn hwn o waith yn haeddu lle yn llyfr gwobrau iF?’,” eglura Jarred ynglŷn â’r broses feirniadu.

Gofynnais y cwestiynau, ‘A yw hwn o safon Gwobrau Dylunio iF?’, ‘Ydyn nhw wedi’i gyfleu’n dda?’ ac ‘Ydi e’n gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cael yr effaith dymunol?’. Yn y pen draw, gofynnais i fi fy hun, ‘Ydi’r darn hwn o waith yn haeddu lle yn llyfr gwobrau iF?’

Jarred Evans | CYFARWYDDWR | PDR

Yn PDR, rydyn ni’n credu’n gryf bod Gwobrau Dylunio iF a’i gyfoedion - yr IDEAs, y Gwobrau Good Design a Gwobrau’r Red Dot Design – yn hanfodol ar gyfer datblygu dyluniadau gwell ledled y byd, oherwydd maen nhw’n gorfodi ‘dylunio’ i fod y craffaf a’r gorau y gall fod.

“Ar eu pennau eu hunain, nid yw gwobrau dylunio’n profi darn o ddylunio gwych. Mae llawer o ddarnau ardderchog o ddylunio nad ydynt naill ai’n cael eu cyflwyno neu nad ydynt, rhywsut, yn ennill,” â Jarred yn ei flaen.

“Ond pa fecanweithiau eraill sydd yno i gael darn o waith dylunio wedi’i asesu a’i feirniadu’n annibynnol gan weithwyr dylunio proffesiynol sydd ar y brig ac yr ydych chi wir yn eu parchu? Dyma’r gwiriad safon eithaf, a dyna pam mae’r gwobrau hyn, i ni, mor hanfodol er mwyn helpu ein herio a’n hysbrydoli ni i aros ar y blaen.”

Wrth feirniadu gwobrau fel yr iF, rydych chi eisiau cyfrannu oherwydd mae ‘na safon a lefel datblygiad yr ydych chi eisiau helpu eu cynnal.

Jarred Evans | CYFARWYDDWR | PDR

Pan ofynnwyd iddo fod yn feirniad nôl yn hydref 2021, roedd Jarred yn gyfarwydd â beirniadu gwobrau dylunio – ond hwn oedd ei dro cyntaf yn beirniadu’r gwobrau iF.

“Wedi ennill 2 wobr Aur a 23 gwobr Ddylunio hyd yn hyn gydag iF, roedd dod yn feirniad yn teimlo fel petawn i’n ‘rhoi rhywbeth nôl’ i system yr ydym wedi bod yn gysylltiedig â hi’n hapus iawn ers 2007. Wrth feirniadu gwobrau fel yr iF, rydych chi eisiau cyfrannu oherwydd mae ‘na safon a lefel datblygiad yr ydych chi eisiau helpu eu cynnal – a phwy sydd ddim eisiau gweithio ochr yn ochr â phobl rydych chi wir yn eu parchu?”

Hoffai’r tîm yn PDR ddymuno pob lwc i Jarred a’i gyd-feirniaid wrth iddyn nhw barhau i ddethol enillwyr Gwobrau Dylunio iF 2022. Â’n ceisiadau ninnau yn y ras, hoffem ddweud pob lwc i’n holl gyd-ymgeiswyr hefyd!

CAMAU NESAF

Cymrwch olwg ar brosiectau arobryn diweddaraf PDR neu darllenwch ein newyddion diweddaraf.