Byddwn yn Arddangos yn Expo Med-Tech Innovation 2025
Bydd PDR yn arddangos yn Expo Med-Tech Innovation 2025, a gynhelir ar 4-5 o Fehefin yn NEC Birmingham.
Fel prif ddigwyddiad y DU ac Iwerddon ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu meddygol, mae'r expo yn dod ag arloeswyr, dylunwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o'r byd ynghyd. Fe welwch ni yn Neuadd 2, Stondin E29, lle byddwn yn arddangos ein gwaith diweddaraf ym maes dylunio dyfeisiau meddygol ac yn rhannu mewnwelediadau i sut y gall dylunio sbarduno canlyniadau gofal iechyd gwell.
Bydd ein Cyfarwyddwr,Jarred Evans, hefyd yn bresennol i drafod y tueddiadau diweddaraf mewn technoleg feddygol aci archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio.
Ydych chi'n bwriadu mynychu? Cysylltwch a ni i drefnu cyfarfod neu galwch heibio i'n stondin am sgwrs gyda'r tîm – byddem wrth ein bodd yn cysylltu.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!