The PDR logo
Hyd 21. 2022

Dewch i gwrdd â'n Peiriannydd Dylunio Cynnyrch newydd, Ryan Jones

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein recriwt diweddaraf, Ryan Jones, sy'n ymuno â ni fel Peiriannydd Dylunio Cynnyrch yn PDR. Mae Ryan, sydd ond wedi bod gyda ni ers cwta pedair wythnos, wedi ymgartrefu’n gyflym yn y tîm wrth iddo neidio’n syth i mewn i brosiect PDR. Mae peirianwyr dylunio cynnyrch yn hanfodol wrth droi dyluniadau yn realiti trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnoleg.

Felly, er mwyn deall gwaith Peiriannydd Dylunio Cynnyrch yn well ac i ddod i wybod mwy am Ryan, fe ofynnom y cwestiynau canlynol iddo.

Beth wnaeth i Ryan fod mor awyddus i weithio yn PDR? “Roedd yr amrywiaeth o waith a gewch chi gan fusnes ymgynghori dylunio yn ddeniadol iawn. Roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr y ffordd y mae PDR yn rhoi’r defnyddiwr wrth galon pob penderfyniad, a dylunio yw eu prif ffocws.”

Mae Ryan yn fyfyriwr ôl-raddedig 2018 o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae wedi gweithio mewn rolau eraill fel Peiriannydd Dylunio Cynnyrch yn y gorffennol. “Roedd rôl flaenorol yn golygu gweithio ar ddyfeisiau tynnu gwallt IPL. Roeddwn i’n gyfrifol am gynnyrch NPI, o’r cysyniad hyd at y cynhyrchu.” Wrth gymharu’r rôl hon â PDR, dywed Ryan: “mae’n eithaf anodd cymharu’r ddau gan eu bod nhw mor wahanol, ond gan gyfeirio at yr hyn a soniais amdano’n gynharach, dylunio yw’r bara menyn yn PDR, ac mae popeth yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae mwy o gydbwysedd wrth flaenoriaethu'r defnyddiwr a chydbwyso hynny â buddiant masnachol; mae diwylliant cydweithredol iawn yma hefyd.”

Wrth ofyn i Ryan am ei rôl ddyddiol yn PDR, meddai, “Mae’n amrywio – rwy’n cyrraedd yn gynnar yn y swyddfa ac mae Ben a Jarred yma’n barod; fel arfer gyda cherddoriaeth metel trwm yn chwarae trwy'r swyddfa a fydd yn sicr yn eich deffro chi! Yna mae'r diwrnod yn dechrau gyda chyfarfod tîm, ac rydym yn cael briff ar beth mae pawb yn ei wneud ar gyfer y diwrnod a'r wythnos. Rwy'n hoffi hyn oherwydd hyd yn oed os nad ydych chi'n cymryd rhan, mae'n wych gwybod beth mae pawb yn ei wneud, ac mae'n gwneud i chi deimlo fel rhan o'r tîm. Yna rwy'n dechrau gweithio ar ddyluniadau'r cynnyrch - sy'n cymryd rhan helaeth o'r diwrnod. Fel Peiriannydd Dylunio Cynnyrch, rwy'n gweithredu'r dyluniad i sicrhau y gellir ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio systemau fel CAD. Mae’n cyflwyno heriau, ond mae hynny’n caniatáu ar gyfer cydweithio â thimau dylunio eraill.”

Felly, pa brosiectau y mae Ryan wedi bod yn gweithio arnynt? “Rwy’n gweithio ar ddyfais gosmetig ar hyn o bryd, mae’n fwy o ddyfais glinigol a fyddai’n cael ei defnyddio gan weithiwr proffesiynol. Rwy’n cymryd y cysyniad dylunio diwydiannol ac yn datblygu’r dyluniad manwl, gan sicrhau ei fod yn gweithredu yn ôl y bwriad ac y gellir ei weithgynhyrchu.” Dylech gadw eich llygaid ar agor am hon!

Gan sôn mwy am y tîm a’r diwylliant gwaith, meddai Ryan: “Mae’n un o’r timau ieuengaf yr ydw i wedi bod yn rhan ohono, rydw i wedi arfer â bod yr ieuengaf, ac yn sydyn dydw i ddim. Cefais fy synnu ar yr ochr orau gan yr ymddiriedaeth a oedd ganddynt ynof ar unwaith. Gallaf fwrw ymlaen â fy ngwaith heb i rywun edrych dros fy ysgwydd yn gyson. Hefyd, gallwch weld bod y diwylliant cyfan yma’n ymwneud â chydweithio. Does dim beirniadaeth negyddol, dim ond adeiladol. Mae’n wych bod mewn amgylchedd lle mae pawb yn deall y broses ddylunio hefyd!”

Fe wnaethom holi Ryan am ei benwythnos delfrydol ac a oedd ganddo unrhyw ddoniau cudd. “Rwy'n golffiwr brwd – rydw i wedi ceisio darganfod a oes unrhyw golffwyr eraill yma yn PDR, ond dydw i ddim yn credu bod yna, yn anffodus! Hefyd, ffaith ryfedd amdanaf yw fy mod i’n ystyried torri’r borfa’n therapiwtig iawn, felly mae hynny'n rhywbeth rwy'n hoff o’i wneud dros y penwythnos hefyd.” Mae'n swnio fel y cymysgedd perffaith o ymlacio a chynhyrchiant!

Mae tîm PDR yn dymuno croeso cynnes iawn i Ryan. Rydym yn falch iawn o gael Ryan yn rhan o’r tîm!

Dysgwch ragor am sut brofiad yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.