The PDR logo
Rhag 13. 2021

Archwilio ein labordy Lliwiau, Deunyddiau, Gorffeniad (LlDG) newydd

Fe wnaethom gyflwyno Katie, ein harbenigwr Lliwiau, Deunyddiau, Gorffeniad (LlDG) newydd yn ddiweddar, a ymunodd â ni i gryfhau ein prosesau mewn dylunio cynnyrch a diwydiannol. Rhan o'i gwaith oedd datblygu ein llyfrgell LlDG ni; catalog o ffabrigau, tecstilau, arlliwiau, arwynebau, elfennau a chydrannau eraill i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu cynnyrch syfrdanol.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, rydym yn archwilio'r labordy LlDG gyda Katie, a fu wrthi’n brysur yn datblygu ei lyfrgell â stoc dda - ac nid dyna ddiwedd y gwaith!

I gyflwyno'r labordy’n iawn, fe wnaethom eistedd i lawr gyda Katie i ofyn mwy am y gofod unigryw hwn…

Mae Dylunio Lliwiau, Deunyddiau a Gorffeniad yn archwilio sut y gellir defnyddio lliwiau, deunyddiau, gwead a phatrwm i gyfleu hunaniaeth cynhyrchion ac amgylcheddau.

“Yn gryno, gellir cymhwyso dewisiadau LlDG i gynnyrch er mwyn adrodd stori ac ennyn ymateb emosiynol er mwyn gwella profiad y defnyddiwr. Bydd y dewisiadau'n dylanwadu ar werth canfyddedig cynnyrch; er enghraifft drwy wella’r ansawdd neu greu teimlad o grefftwaith. Felly, mae'n hanfodol bwysig ystyried pob dewis yn ofalus!” Eglura Katie.

Dyna pam mae casglu llyfrgell at ei gilydd yn ymwneud â safon, nid nifer mewn gwirionedd. “Cywir,” â Katie yn ei blaen. “Dyna pam rydyn ni wedi canolbwyntio ar gyrchu deunyddiau newydd ac archwilio cynaliadwyedd y deunyddiau sydd gennym yn y llyfrgell. Bydd y labordy’n parhau i dyfu wrth inni gyrchu deunyddiau arloesol newydd.”

Dyma fan byw sy’n gorfod cynnig syniadau chwyldroadol i helpu i lunio dyluniad a datblygiad cynnyrch.

Katie Forrest Smith | DYLUNYDD LlDG | PDR

Er mwyn crynhoi'n llawn yr holl ddeunyddiau sydd ar gael ar gyfer unrhyw fath o ddyluniad cynnyrch, mae'r labordy’n cynnwys casgliad cynhwysfawr o samplau sy'n ymdrin â gwahanol gategorïau deunyddiau gan gynnwys Polymerau, Metelau a deunyddiau Naturiol, ymhlith eraill.

“Mae hefyd yn cynnwys Straeon Deunydd sy'n archwilio deunyddiau, edrych ar dueddiadau ac amlygu deunyddiau newydd a'u cymwysiadau. Dyma fan byw sy'n gorfod cynnig syniadau chwyldroadol i helpu i lunio dyluniad a datblygiad cynnyrch. "

Ac wrth sôn am y gofod ei hun, roedd ei ddyluniad yn bwysig hefyd. “Yn bendant, roedd arnom ei angen i fod yn gyffyrddadwy,” eglura Katie. “Mae'n lle i chwarae gyda lliwiau a deunyddiau; dylai ysbrydoli a sbarduno syniadau newydd! Nid lle llonydd ydyw, yn sicr, ac mae wedi'i drefnu ar gyfer hygyrchedd cyflym a hawdd."

Bu datblygu'r labordy’n gamp a hanner, ac roedd yn fuddsoddiad ystyriol gan PDR. Pwrpas y labordy yw galluogi integreiddio LlDG i'r broses ddylunio gyfan, gan weithredu, o ganlyniad, fel ysbrydoliaeth o gychwyn cyntaf prosiect.

“Bydd yn arddangos deunyddiau newydd ac arloesol, gan amlygu tueddiadau (gan gynnwys cyfeiriad o ran lliw a deunydd) a manylu ar fewnwelediad defnyddwyr. A bydd casgliad y llyfrgell yn debygol o annog y defnydd o ddeunyddiau a fyddai o bosib wedi’u hanwybyddu fel arall,” meddai Katie.

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i adeiladu'r catalog o samplau ac rydyn ni’n mynd ati i chwilio am ddeunyddiau newydd drwy'r amser - fel unrhyw lyfrgell, nid yw byth yn hollol lawn!

Felly, beth sydd nesaf ar gyfer y labordy? Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i adeiladu'r catalog o samplau ac rydyn ni'n mynd ati i chwilio am ddeunyddiau newydd drwy'r amser - fel unrhyw lyfrgell, nid yw byth yn hollol lawn!

“Yn benodol, rydyn ni hefyd yn gweithio ar Stori Ddeunydd sy'n archwilio polymerau cynaliadwy. Mae'r erthygl yn archwilio'n feirniadol sut y gall defnyddio bioblastigau helpu neu rwystro ymdrechion i wella cynaliadwyedd cynnyrch. Fe fydd casgliad o samplau sy'n arddangos deunyddiau newydd i gyd-fynd â'r stori, felly gallwn yn sicr ddisgwyl gweld gorffeniadau mwy cynaliadwy mewn cynhyrchion PDR yn fuan iawn. "

CAMAU NESAF

Archwiliwch y prosiectau PDR diweddaraf, neu i drafod syniad newydd, cysylltwch â ni.