The PDR logo
Tach 30. 2018

Cynlluniau gweithredu arferion mewn dylunio nesaf - Rhan 1

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy lywodraethau Ewropeaidd wedi mabwysiadu Polisïau Dylunio, Strategaethau Dylunio a Chynlluniau Gweithredu Dylunio. Yn ôl EU Design Report 2.0 diweddar BEDA, rhwng 2012 a chanol 2018, cafodd cynlluniau gweithredu dylunio eu mabwysiadu gan Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Hwngari, Iwerddon, Latfia, Malta, yr Iseldiroedd, Slofenia a Sweden yn ogystal â'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae rhai o'r polisïau hyn, fel un Denmarc, yn eu pedwerydd cylch ac eraill dim ond megis dechrau'r daith. Yn Ewrop, fodd bynnag, rydym braidd yn euog o edrych dros y ffens i weld beth mae ein cymdogion Ewropeaidd yn ei wneud yn unig yn hytrach na thu hwnt i'n ffiniau ac archwilio'r arferion da mewn cynlluniau gweithredu dylunio sydd ar waith ledled y byd. O'r herwydd, rydym wedi dod ag arbenigwyr o Singapôr, Hong Kong, Taiwan a Seland Newydd i rannu eu profiadau.

Cynhaliodd Design4Innovation, ar y cyd â BEDA, 'Insight Forum on Next Practice in Design Action Plans' yn 2018. Yma cyflwynwyd rhai o'r gwersi allweddol i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi dylunio yn ogystal â'r cyflwyniadau.

TROSOLWG O GYNLLUNIAU GWEITHREDU DYLUNIO YN EWROP

Cyflwynodd Anna Whicher drosolwg o sefyllfa bresennol polisi dylunio yn Ewrop gan gynnwys yr 11 o wledydd Ewropeaidd sydd wedi mabwysiadu cynlluniau gweithredu dylunio y degawd hwn. Cyflwynodd Anna ddadansoddiad manwl o'r saith cynllun gweithredu dylunio yn nodi prif fuddiolwyr y cynlluniau gweithredu a'r dulliau ymyrryd allweddol.

Dylai Cynlluniau Gweithredu Dylunio sicrhau cydbwyseddrhwng cyflenwad a galw ar draws yr Ecosystem Ddylunio.

DR ANNA WHICHER | PENNAETH POLISI | PDR

Y FFINDIR

O ran taith polisi dylunio'r Ffindir, tynnodd Päivi Tahkokallio, Llywydd Etholedig BEDA Elect a Phrif Swyddog Gweithredol Ornamo, sylw at Design 2005!, Helsinki World Design Capital 2012 a Strategaeth Ddylunio 2013 fel cerrig milltir allweddol. Nododd Paivi fod gan y polisi dylunio cyntaf ddyraniad cyllideb penodol ac felly bu'n llwyddiannus iawn, ond nid oedd y fersiwn ddiweddaraf o'r strategaeth ddylunio yn dyrannu cyllideb benodol. Roedd gwersi eraill yn cynnwys mapio'r Ecosystem Ddylunio yn barhaus, dylunio o fewn cyd-destun ymchwil ehangach a chynnal gwerthusiad interim o'r strategaeth ddylunio.


DENMARC

I Christina Melander, Cyfarwyddwr Rhaglen Canolfan Ddylunio Denmarc, data a thystiolaeth oedd yr allwedd i ddylanwadu ar bolisi dylunio. Lansiwyd polisi dylunio cyntaf Denmarc ym 1997, ac yna diweddariadau yn 2003, 2007, a Chynllun Twf 2013 ar gyfer Diwydiannau Creadigol a Dylunio. Yn hollbwysig, roedd data ar ddefnydd cwmnïau o ddylunio yn rhoi sail resymegol economaidd i'r polisïau. At hynny, roedd 450 o gwmnïau yn derbyn cymorth Design Icebreaker a olygai astudiaethau achos, data a sylw eang.

Allwch chi ddim copïo a gludo polisïau dylunio o un wlad i’r llall. Mae angen i chi ddeall capasiti, meithrin partneriaethau effeithiol, harneisio pŵer data a thystiolaeth, a defnyddio proses ddylunio i ddatblygu polisi dylunio.

CHRISTINA MELANDER

SINGAPÔR

Mae Singapôr yn ei thrydedd iteriad o bolisi dylunio (2004, 2009 a 2016). Hefyd, adleisiodd Agnes Kwek, Llysgennad Dylunio cyntaf y byd o bosibl, bwysigrwydd data i lywio datblygiad polisi. Mae DesignSingapore Council wedi olrhain perfformiad 100 o gwmnïau dros ddwy flynedd ar ddangosyddion gwahanol gan nodi:

Bod gwariant dylunio fel % o refeniw wedi cynyddu o 1.3% yn 2014 i 1.7% yn 2016.

Bod cwmnïau sy'n buddsoddi mwy mewn dylunio wedi gweld cynnydd cyfartalog o 4.8% mewn elw.

Mae tua 58,000 o ddylunwyr yn cael eu cyflogi yng ngweithlu Singapôr, gyda thua 40% mewn cwmnïau nad ydynt yn rhai dylunio.

Fy nhair gwers allweddol yw: 1) Bod yn ddidwyll. 2) Cysylltu pawb sy’n rhan o’r ecosystem. 3) Polisi yw gweithredu.

AGNES KWEK

Taiwan

David Sung, CEO of Taiwan Design Center, was delighted to announce that this year, for the first time the government has given its support for design. The Ministries of Economy and Education are collaborating to create the Masterplan for Design. The Masterplan focuses on design for enterprise, the public, society and diplomacy. David advocated establishing a strategy committee supported by design research to formulate the national design policy.

New ZealandNZ has an intrinsic but not explicit design policy based on over 15 years of the By Design programme delivered by New Zealand Trade and Enterprise. The programme has evolved in response to the market. It is a 12-week programme with third party interventions to enhance exports on a sectoral basis. It involves immersive training as well as an international study visit. Again, for Alicia Grimes, Design Services Manager at Better by Design, data and impact is crucial for creating a robust case for continuous government support.