The PDR logo
Medi 07. 2018

PDR a Met Caerdydd yn dathlu cais clwstwr creadigol llwyddiannus

CAERDYDD YMHLITH NAW CLWSWR CREADIGOL YN Y DU I ENNILL ARIAN YMCHWIL

Bydd diwydiannau'r sgrîn sydd wedi'u lleoli yn y brifddinas a'r cyffiniau yn elwa ar gyfleoedd ymchwil a datblygu newydd.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, wedi bod yn rhan o gais llwyddiannus i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a gyhoeddodd heddiw fuddsoddiad ymchwil digynsail gwerth miliynau o bunnoedd i economi greadigol y DU. Bydd y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn dwyn ynghyd ddoniau ymchwil o'r radd flaenaf o brifysgolion blaenllaw'r DU gyda chwmnïau a sefydliadau o bob cwr o'r sector creadigol.

Gan weithio gyda phartneriaid y Brifysgol yn ogystal â Llywodraeth Cymru, pob prif ddarlledwr yng Nghymru, a mwy na 60 o fusnesau'r diwydiant sgrin, mae Clwstwr Creadigol yn un o naw prosiect yn y DU i'w dewis ar gyfer y ffrwd ariannu pum mlynedd.

Bydd creu Clwstwr Creadigol cenedlaethol yng Nghaerdydd yn fodd i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd heb eu hail yn y sector, gan arwain at dwf economaidd a chreu swyddi ar draws y diwydiannau sgrin a'u cadwyni cyflenwi. Rydym wrth ein boddau i fod wrth galon hyn.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR

Gyda phwyslais ar ddiwydiannau sgrin – cynhyrchu ffilm a theledu a'u cadwyni cyflenwi – bydd academyddion o dair o brifysgolion Caerdydd yn cydweithio i ddarparu ymchwil a all helpu'r sîn sydd eisoes yn ffynnu yn ne Cymru i gyrraedd ei lawn botensial.

Drwy System Arloesi Sgrin (SIS) a Labordy Arloesi Newyddion (NIL) – bydd y rhaglen Ymchwil a Datblygu hefyd yn caniatáu i ddarlledwyr, busnesau a gweithwyr llawrydd wneud cais am gyllid i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol er mwyn hybu economi'r De.

Bydd y mentrau ymchwil a datblygu hyn yn cael eu cynllunio i ymateb i dechnolegau sy'n newid, patrymau defnyddio sy'n newid, a manteision cyfuno a chydweithredu creadigol.

Dywedodd Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac aelod o'r Bwrdd Clwstwr Creadigol, "Rydym yn falch dros ben o fod yn rhan o'r prosiect cydweithredol hwn a fydd yn allweddol i gynyddu llwyddiant y diwydiannau sgrin yma yng Nghymru.

"Mae'r diwydiannau sgrin sydd ohoni yn mynd ymhell y tu hwnt i'r teledu. Maen nhw’n cwmpasu gemau cyfrifiadur a marchnadoedd byd-eang am bob math o straeon ar sgrin ar alw, ac mae'n rhaid i'r sector yng Nghaerdydd arloesi'n gyflym os yw am fod yn geffyl blaen mewn rhannau newydd o’r farchnad.

"Bydd creu Clwstwr Creadigol cenedlaethol yng Nghaerdydd yn fodd i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd heb eu hail yn y sector, gan arwain at dwf economaidd a chreu swyddi ar draws y diwydiannau sgrin a'u cadwyni cyflenwi. Rydym wrth ein boddau i fod wrth galon hyn."

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, sy’n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, "Rwy'n falch o waith caled ein tîm i sicrhau'r wobr hon i Gymru. Mae'n gyfle gwych i godi proffil Caerdydd fel canolfan cynhyrchu creadigol o fri rhyngwladol.

"Mae'r sylfeini ar gyfer llwyddiant wedi'u gosod gan rai o'n cwmnïau gwych yn y diwydiant sgrin a'r economi greadigol ehangach. Ond er mwyn ffynnu'n wirioneddol, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu i greu diwylliant o arloesi – dyna yw hanfod Clwstwr Creadigol.

"Mae llawer o'n cwmnïau sgrin yn fusnesau bach a chanolig annibynnol ac felly, os ydym am gystadlu â'r chwaraewyr byd-eang, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd. Dyna pam byddwn ni'n gweithio gydag ystod o bartneriaid yn y diwydiannau creadigol a llywodraeth leol a chenedlaethol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i sicrhau ffyniant economaidd i dde Cymru."

PWERDY TWF

Yn bwerdy ar gyfer twf, mae diwydiannau creadigol y DU yn cyfrannu £90 biliwn a mwy i'r economi bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i bob un o'r ceisiadau partneriaeth ddangos sut y bydd yn sicrhau llwyddiant masnachol o'r newydd er budd y DU gyfan, ac yn dod â chynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i'r farchnad.

Bydd y gwaith a ysgogir gan y partneriaethau hyn yn helpu i ddiogelu a gwella safle byd-eang flaenllaw'r DU yn y diwydiannau creadigol, sy'n allforio nwyddau a gwasanaethau gwerth tua £46bn bob blwyddyn, fel y sector sy'n tyfu gyflymaf yn economi'r DU.