The PDR logo
Tach 08. 2022

Dewch i ddal i fyny gyda ni ym MEDICA 2022

Byddwn yn teithio i Düsseldorf, yr Almaen, ar gyfer ein hymweliad blynyddol â’r Ffair Fasnach MEDICA uchel ei pharch, sy’n digwydd o’r 14eg i’r 17eg Tachwedd.

Rydyn ni wedi bod yn bresennol ym MEDICA ers mwy nac 20 mlynedd, sydd wedi darparu llwyfan arbennig i’n Cyfarwyddwr, Jarred Evans, a’n Rheolwr Datblygu Busnes, Anthony McAllister, arddangos ein portffolio helaeth o ddyfeisiau meddygol i filoedd o ymwelwyr, arddangoswyr, arweinwyr y farchnad, cwmnïau sefydledig a ffigurau allweddol. Mae MEDICA, sy’n rhychwantu mwy na 66 o wledydd ac yn defnyddio 17 neuadd, yn rhoi cyfle ardderchog i ni gydweithio gyda ffrindiau newydd ac agos fel ei gilydd.

Fel y ffair fasnach feddygol fwyaf yn y byd, mae’r prif feysydd yn canolbwyntio ar endosgopi a dyfeisiau llawdriniaeth, technoleg labordy, diagnosteg, prosthesis a mewnblaniadau, technoleg orthopaedig a ffisiotherapi.

Mae gennym fwy na 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda sefydliadau gofal iechyd sy’n arwain y byd a chwmnïau dyfeisiau meddygol rhyngwladol ochr yn ochr â busnesau newydd arloesol a gweithgynhyrchwyr dyfeisiau arbenigol eraill. Gyda hyn, rydym wedi gweithio gyda sawl un o ddarparwyr gofal iechyd blaenllaw’r byd megis Allergan, 3M, Breas Medical, GE Healthcare, Owen Mumford, Arjo Huntleigh ynghyd â llawer, llawer mwy.

Felly, os ydych chi’n mynychu MEDICA ac yn dymuno cwrdd â naill ai Jarred neu Anthony i ddysgu mwy am ein portffolio o waith, anfonwch e-bost at Anthony ar amcallister@pdr-design.com neu ymwelwch â ni yn neuadd 16 ar stondin H38.

Gwyliwch y gofod hwn yn ystod y pythefnos nesaf i glywed sut aeth hi…

CYCHWYN EICH PROSIECT DYFAIS FEDDYGOL NESAF?

Dysgwch ragor am ddyluniad ein dyfeisiau meddygol arobryn – neu os ydych chi am gychwyn eich prosiect newydd nesaf gyda ni, cysylltwch â ni.