The PDR logo
Mai 10. 2021

Gwaith PDR yn cael ei gyhoeddi ar Wefan y Design Museum yn Llundain!

Bydd PDR, a’n gwaith ar gyfer prosiect brês i ferched a gipiodd gwobr AUR iF, yn cael ei arddangos ar Wefan Design Museum Llundain o ddydd Llun 10 Mai 2021, a bydd yn cael ei weld ym mhob cwr o’r byd!

Mae’r Design Museum yn Kensington, Llundain yn arddangos gwaith clodfawr ym meysydd dylunio cynhyrchion, diwydiannol, graffeg, ffasiwn a phensaernïol ac enillodd Wobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2018.

Enillodd y gorau o blith y prosiectau sy’n cael sylw WOBR DYLUIO iF ryngwladol yn 2021, ac mewn cydweithrediad ag amgueddfeydd adnabyddus ar draws y byd fel y Vitra Design Museum, Designmuseum Danmark, YANG DESIGN, y Design Museum yn Llundain, Design Museum Everywhere (UDA), Design Museum Den Bosch a MAK Vienna, maen nhw’n cael cynnig llwyfan digidol: 24 awr o ddylunio.

Mae dolen uniongyrchol i arddangosfa’r Design Museum yma:
https://designmuseum.org/whats...