PDR i gefnogi arloesedd mewn perfformio byw ledled Cymru
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Amgen, rhaglen newydd gwerth £14.1 miliwn sy'n cysylltu perfformio byw a thechnoleg greadigol ledled Cymru. Fel partner yn Amgen, bydd PDR yn darparu cymorth arloesi i sefydliadau creadigol.
Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, bydd Amgen: Perfformio Byw a Thechnoleg Greadigol yn rhedeg o 2027 i 2032. Mae'r rhaglen wedi sicrhau grant o £6.75 miliwn drwy Raglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), gyda chefnogaeth £7.35 miliwn mewn cyd-fuddsoddiad gan bartneriaid.
Rôl PDR yn Amgen
Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau creadigol sy'n gwneud ymchwil a datblygu drwy'r rhaglen, gan eu helpu i ddatblygu a phrofi syniadau ar gyfer y sector perfformio byw. Gan weithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr, arbenigwyr academaidd a'r bartneriaeth ehangach, byddwn yn hwyluso proses ddylunio ailadroddus, gan gynnwys cyd-ddylunio a phrofi gyda chynulleidfaoedd.
Mae'r gwaith yn adeiladu ar ein profiad o gefnogi sefydliadau creadigol drwy Clwstwr a Media Cymru. Yr Athro Andrew Walters a Jo Ward sy’n Uwch Ddylunydd – Ymchwilydd bydd yn dod â'r profiad hwnnw i Amgen, gan helpu sefydliadau i ddatblygu eu gallu i ymgymryd ag ymchwil a datblygu a defnyddio dylunio fel dull ymarferol o arloesi.
Dywedodd yr Athro Andrew Walters, ein Athro mewn Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr:
"Mae Amgen yn gyfle i wneud ymchwil a datblygu dan arweiniad dylunio yn rhan ymarferol o sut mae sefydliadau perfformio byw yn arloesi. Mae ein profiad drwy Clwstwr a Media Cymru wedi dangos gwerth cefnogi'r Diwydiannau Creadigol wrth weithredu prosesau dylunio ac arloesi. Rydym am i sefydliadau adael Amgen gyda mwy o hyder i ddatblygu eu syniadau drwy ddull o arloesi y gallant barhau i'w ddefnyddio."
Cysylltu perfformio byw a thechnoleg greadigol
Bydd Amgen, yn archwilio sut y gellir cyfuno technoleg greadigol â pherfformiad byw i ddatblygu cynhyrchion newydd, prosesau cynhyrchu a phrofiadau cynulleidfa. Bydd ei chyflymydd arloesi yn galluogi sefydliadau creadigol i ymgymryd ag Ymchwil a Datblygu sy'n canolbwyntio'n fasnachol, gyda chefnogaeth arbenigedd y bartneriaeth a'i chysylltiadau â llwybrau i'r farchnad.
Cefnogi cymunedau creadigol ledled Cymru
Gan weithio ar draws Cymru, bydd y rhaglen yn cysylltu cymunedau creadigol gwledig a threfol, gyda'r uchelgais ganolog o sicrhau nad yw daearyddiaeth yn rhwystr i gyfranogiad, cynhyrchiant na thwf. Bydd yn dosbarthu cyllid a chymorth ar draws y sector, gan helpu sefydliadau i adeiladu cydweithrediadau a phrofi syniadau yn y mannau lle maent yn gweithio ac yn perfformio.
Bydd Amgen yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan yr Athro Lisa Lewis, Dirprwy Ddeon dros Ymchwil ac Arloesi, a Richard Hurford, Cyd-Arweinydd y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru.
Dywedodd yr Athro Lisa Lewis:
"Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad hanfodol i'r sector perfformio byw yng Nghymru, gan alluogi effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i ganolfannau trefol. Bydd yn sicrhau gwell cysylltiadau rhwng pobl a lleoedd creadigol, wrth wella cyfranogiad a chynrychiolaeth."
Ochr yn ochr â Prifysgol De Cymru a PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dyma nifer o’r partneriaid eraill; Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, CULTVR, Frân Wen, Arad Goch a Theatr Cymru.
Erbyn 2032, mae Amgen yn anelu at gynyddu gallu Ymchwil a Datblygu, cyflogaeth, buddsoddiad a chysylltedd ar draws sectorau perfformio byw a thechnoleg greadigol Cymru, tra'n rhoi mynediad i gynulleidfaoedd at brofiadau newydd. Bydd y rhaglen hefyd yn archwilio sut y gall gwybodaeth a thechnolegau a ddatblygir drwy'r bartneriaeth fod o fudd i sectorau eraill.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a'r gymuned greadigol ehangach i archwilio beth sy'n bosibl pan ddaw dylunio, technoleg a pherfformio byw at ei gilydd.