The PDR logo
Hyd 28. 2021

Cyflwyno Lab Prototeipio Digidol newydd PDR

Rydym yn falch iawn o fod yn rhannu newyddion fod ein Lab Prototeipio Digidol bellach yn weithredol! Cynlluniwyd y lab yn benodol i’n caniatáu ni i ddwyn yr adnoddau sydd gennym ynghyd ar gyfer prototeipio cynhyrchion tra-chywir a datblygu electroneg prawf cysyniad.

I ddarganfod rhagor, fe ofynnom i Grahame Jones, Uwch Ymgynghorydd Dylunio, i esbonio mwy am y man anhygoel newydd hwn ar gyfer arloesi.

“Mae galw cynyddol inni ddatblygu a gwerthuso systemau electroneg yn ystod camau cynnar iawn datblygu cynnyrch. Mae’r lab hwn yn caniatáu inni greu rigiau sy’n ymgorffori nodweddion electronig ac sy’n addasu paramedrau a ffurfweddiadau i gyflawni’r perfformiad sydd ei angen ar ein cwsmeriaid,” meddai Grahame.

Mae’r lab hwn yn caniatáu inni greu rigiau sy’n ymgorffori nodweddion electronig ac sy’n addasu paramedrau a ffurfweddiadau i gyflawni’r perfformiad sydd ei angen ar ein cwsmeriaid.

Grahame Jones | UWCH YMGYNGHORYDD DYLUNIO | PDR

O ran y dyluniad, y brif elfen yw ei hyblygrwydd.

“Mae’r heriau a wynebwn ym maes ymgynghori dylunio cynnyrch yn benodol i brosiect, felly os oes gan gwsmer syniad am brosiect, gallwn ddefnyddio’r adnoddau presennol neu ddod â thechnoleg benodol yn fewnol mewn cydweithrediad â’n rhwydwaith o isgontractwyr a chyflenwyr.”

Yn benodol, bydd yn helpu gyda’r broses o wneud penderfyniadau yn ystod camau cynnar prosiectau, diffinio perfformiad a swyddogaethedd.

Grahame Jones | UWCH YMGYNGHORYDD DYLUNIO | PDR

Er yr oedd gennym ofynion clir o ran yr hyn yr oeddem ei eisiau ar gyfer dyluniad a manyleb y lab, cawsom gymorth gyda chynllun a chelfi’r gweithdy gan Dura, cyd-enillydd Red Dot Design.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar brosiectau sydd i ddod yn y gofod a gwella datblygu cynnyrch yn PDR.