The PDR logo
Ion 29. 2021

Dylunio Cynhyrchion a’r Economi Gylchol

Cymryd. Gwneud. Gwastraffu. Nid yw’r rhan fwyaf o gynhyrchion wedi’u dylunio i gael eu hailddefnyddio neu eu hailbwrpasu; pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes, nid oes unrhyw gynllun i gadw’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w gwneud. Y term am y system un ffordd hon yw economi linol. Caiff deunyddiau crai eu canfod, eu prosesu a’u gwaredu.

Mae’r economi linol yn tybio’n anghywir nad oes unrhyw gyfyngiadau ar adnoddau. Mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio adnoddau yn peri problemau go iawn i’r amgylchedd ac i fusnesau.

Mae’n rhaid dylunio cynhyrchion sy’n gallu cael eu defnyddio fwy nag unwaith yn unig, am sawl cylch bywyd, os yw busnesau am barhau’n hyfyw. Mae Dr Katie Beverley, Uwch Swyddog Ymchwil yn PDR, yn trafod dull amgen — o’r enw’r economi gylchol — a sut gall y broses dylunio cynhyrchion ein helpu i gyflawni hynny.

BETH YW’R ECONOMI CYLCHOL?

Mewn economi gylchol, caiff adnoddau eu hailddefnyddio neu eu hailbwrpasu er mwyn cadw eu gwerth. Eglura Katie, “Pan fydda i’n siarad â busnesau am yr economi gylchol, rydw i’n ei ddisgrifio fel dull systematig o ddatgysylltu eu defnydd o adnoddau oddi wrth eu helw economaidd.”

“Mae hynny’n golygu deall y cysylltiad rhwng y defnyddwyr a’r cynhyrchion rydych chi’n eu gwneud a chwilio am ffyrdd y gallwch gael gwerth o’r cysylltiadau hynny heb orfod gwneud mwy o gynhyrchion. Gall sicrhau bod modelau busnes yn gydnaws ag anghenion a dymuniadau defnyddwyr eich galluogi i gadw cynhyrchion, deunyddiau a chydrannau mewn defnydd cyhyd â phosibl.”

Gellir defnyddio’r dull cylchol gyda phob mathau o gynhyrchion a modelau busnes, er bod lefel y cymhlethdod yn amrywio.

SUT GALL DYLUNIO CYNHYRCHION CYLCHOL FOD O FUDD I FUSNESAU?

Mae’r economi gylchol yn lleihau gwastraff, yr hyn sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a’r defnydd o ynni. Ond y tu hwnt i’r manteision amgylcheddol, gall dylunio cynhyrchion cylchol gynyddu elw hefyd a lleihau dibyniaeth ar adnoddau cyfyngedig.

“Dyw’r broses o ddylunio cynhyrchion cylchol ddim wedi’i chyfyngu i nwyddau ffisegol,” eglura Katie. “Mae’n ymgorffori’r broses o ddylunio gwasanaethau ategol hefyd. Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu busnesau i greu ffrydiau ychwanegol o elw."

“Meddyliwch eich bod yn gwerthu gliniadur, er enghraifft. Yn hytrach na bod y berthynas rhwng y cwsmer a’r manwerthwr yn dod i ben wrth ddrws y siop, gallai model prydlesu reoli’r gwaith atgyweirio, y gwaith cynnal a chadw a’r broses diwedd oes y cynnyrch i’r gwneuthurwr a meithrin cysylltiad parhaus â’r cwsmer. Os yw cynnyrch wedi’i ddylunio yn y ffordd gywir, mae ganddo’r potensial i gynyddu elw i’r gwneuthurwr a’r manwerthwr a chynyddu teyrngarwch defnyddwyr.”

Drwy ddylunio cynhyrchion sydd ddim yn dibynnu ar ddeunyddiau crai a datblygu modelau busnes creadigol, gallai economi gylchol fod yn fwy buddiol i gwmni nag economi linol.

PROSIECTAU DYLUNIO CYNHYRCHION CYLCHOL

Mae PDR wedi gwneud nifer o brosiectau sy’n dilyn egwyddorion economi gylchol. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Riversimple, cwmni ceir hydrogen, cynaliadwy sy’n awyddus i osgoi gwastraff wedi i gylch bywyd cydrannau eu ceir ddod i ben. "Fe weithion ni gyda Riversimple a QSA Partners i ddatblygu dull y gellid ei ddefnyddio i wella’r model busnes drwy nodi cyfleoedd i rannu gwerth y deunyddiau sy’n cael eu hadfer â’u cyflenwyr."

Gan aros yn y byd moduro, mae PDR yn dylunio cydrannau modiwlaidd y gellir eu cyfnewid ar gyfer gwneuthurwr ceir Ewropeaidd. “Gall cydrannau ceir gynnwys deunyddiau a chydrannau sydd â cylch bywyd gwahanol. Pan fydd un gydran yn dod i ddiwedd eu hoes – drwy fethu, neu oherwydd bod cwsmeriaid am ychwanegu swyddogaeth newydd, gall fod yn haws anfon y gydran gyfan i’r sgrap, yn hytrach na’i hatgyweirio. Rydyn ni’n dylunio olwyn lywio fodiwlaidd y gellir ei thynnu’n ddarnau’n hawdd fel y gellir ei thrwsio a’i huwchraddio.”

BETH NESAF?

Mae Katie’n credu y bydd ein dibyniaeth ar adnoddau cyfyngedig yn cael ei gwestiynu i raddau mwy ac y bydd rhaid iddo ddod i ben yn y pen draw.

“Dylai busnesau sydd wedi ennill eu plwyf ystyried ymgorffori egwyddorion dylunio cylchol, tra dylai busnesau newydd fabwysiadu’r syniadau hyn o’r cychwyn cyntaf. Mae PDR eisoes yn cefnogi cwmnïau blaenllaw i ymuno â’r economi gylchol. Rydyn ni’n gobeithio gweld mwy o bartneriaid yn cydweithio â ni yn y dyfodol.”

Gallwch ddysgu mwy am waith PDR neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.

Dylai busnesau sydd wedi ennill eu plwyf ystyried ymgorffori egwyddorion dylunio cylchol, tra dylai busnesau newydd fabwysiadu’r syniadau hyn o’r cychwyn cyntaf.

DR KATIE BEVERLEY | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR