The PDR logo
Medi 24. 2020

Snoozeal® yn fuddugol yng Ngwobrau IDEA 2020

DYFAIS ARLOESOL SNOOZEAL YN FUDDUGOL YNG NGWOBRAU IDEA 2020 YN Y CATEGORI 'MEDDYGOL AC IECHYD’

Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod ein dyluniad ar gyfer Snoozeal® - y ddyfais gyntaf yn y byd sy’n cynnig triniaeth yn ystod y dydd i fynd i’r afael ag achos sylfaenol problemau anadlu wrth gysgu ac apnoea cwsg – wedi cael gwobr efydd yng Ngwobrau IDEA 2020 gan Gymdeithas Dylunwyr Diwydiannol America (IDSA).

Dyluniwyd Snoozeal® ar gyfer Signifier Medical Technologies (SMT), sef cwmni technoleg feddygol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu a masnacheiddio datrysiadau arloesol ac anfewnwthiol ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau chwyrnu a phroblemau anadlu wrth gysgu.

Mae SMT yn arloeswyr sy’n herio rhesymeg triniaethau chwyrnu ac apnoea cwsg confensiynol ac maent yn llawn haeddu’r holl wobrau a gafwyd am y ddyfais glyfar hon.

BETH YW SNOOZEAL?

Mae Snoozeal® yn targedu achos sylfaenol problemau anadlu wrth gysgu, nid y symptomau.

Mae chwyrnu ac apnoea cwsg yn broblem i lawer o bobl wrth i gyhyrau eu tafod ymlacio wrth iddynt gysgu, gan achosi i’r llwybr anadlu ddymchwel yn rhannol. Snoozeal® yw’r therapi cyntaf yn y byd sy’n targedu achos sylfaenol y broblem hon, gan weithio drwy gydol y dydd, drwy ddefnyddio cerhyntau trydanol diogel i ysgogi a gwella gweithrediad y cyhyrau yn y geg a’r dafod.

GWOBRAU IDEA 2020 – GWOBR EFYDD

Mae Snoozeal® wedi ennill gwobr efydd yng nghategori 'Meddygol ac Iechyd' Gwobrau IDEA (Gwobrau Rhyngwladol am Ragoriaeth mewn Dylunio) eleni, sef seremoni wobrwyo flynyddol gan IDSA sy’n dathlu cyflawniad eithriadol ym maes dylunio ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Cafodd y seremoni wobrwyo rithwir ei ffrydio’n fyw yn gynharach yr wythnos hon a chyhoeddwyd enillwyr yr holl gategorïau gan aelodau amrywiol y rheithgor. Yn 2020, cynhaliwyd Gwobrau IDEA am y 40fed flwyddyn, ac maent yn cael eu cydnabod fel cystadleuaeth ddylunio fwyaf clodfawr a thrwyadl y byd.

Rydym yn falch o rannu’r newyddion bod Snoozeal® hefyd wedi ennill GWOBR DDYLUNIO iF glodfawr am Ragoriaeth mewn Dylunio yn y categori “Cynnyrch”, sy’n golygu bod 2020 yn flwyddyn ardderchog i’r rheiny ohonom sydd â phroblemau chwyrnu!