The PDR logo
Tach 11. 2021

Beth yw UCD?

Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl – a gaiff ei dalfyrru i UCD yn gyffredin – yn gydran graidd o’r hyn a wnawn yn PDR. Ond mae pobl wedi gofyn inni’n achlysurol: beth yw UCD mewn gwirionedd?

Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl yn rhan annatod o lawer o’n prosiectau, oherwydd pwysigrwydd parhaus ystyried anghenion y defnyddwyr terfynol – beth bynnag yw’r cynnyrch, gwasanaeth neu’r profiad rydych chi’n ei ddatblygu.

Felly, pam mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl mor bwysig? Pan gaiff ei wneud yn gywir ar gychwyn prosiect, mae UCD yn golygu na ddylai fod angen i’r defnyddiwr newid ei ymddygiad i ddefnyddio’ch cynnyrch, a’i fod yn cael profiad da yn gyffredinol. Yn wir, gall defnydd da o Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl olygu’r gwahaniaeth ‘llwyddo neu fethu’ rhwng defnyddwyr hapus a derbyn adolygiadau gwael, dioddef o ddiffyg gwerthiannau, neu orfod addasu eich cynnyrch terfynol am bris mawr.

Felly, gan fod UCD yn rhan mor annatod o PDR, mae Cat Taylor, Uwch Ddylunydd sy’n Canolbwyntio ar Bobl, yn rhoi ateb i’r cwestiwn ‘beth yw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl?’ ac yn egluro ei bwysigrwydd yn y broses ddylunio.