The PDR logo

Airora

HYDROXYL

Mae Airora yn dechnoleg buro aer newydd chwyldroadol sy’n ddi-hidl ac yn defnyddio technoleg unigryw wedi’i phatentu i lanhau aer ac arwynebau datguddiedig mewn ystafell drwy ddefnyddio technoleg creu Hydroxyl naturiol.

Mewn byd halogedig, mae effeithiau andwyol llygredd aer yn peri pryder cynyddol gydag aer dan do yn nodweddiadol bum gwaith yn fwy halogedig na’r tu allan. Mae aer glân yn arbennig o bwysig i bobl sydd ag asthma, alergeddau, ac anhwylderau anadlu.

Mae Airora yn dechnoleg buro aer newydd chwyldroadol sy’n ddi-hidl ac yn defnyddio technoleg unigryw wedi’i phatentu i lanhau aer ac arwynebau datguddiedig yn yr ystafell gan ddefnyddio technoleg creu Hydroxyl naturiol. Mae Airora yn niwtraleiddio alergenau fel paill, llwydni a sborau malltod, cen anifeiliad anwes, ac alergenau gwyddon llwch tŷ ac yn deilau pob llidydd cyffredin yr ysgyfaint a llygryddion fel oson, cyfansoddion organig anweddol (VOCs), fformaldehyd a charbon monocsid.

Yn fach ond yn rymus, mae wedi’i ddylunio i lanhau’r holl aer ac arwynebau datguddiedig mewn ystafell hyd at 100m3 – ystafell nodweddiadol 6m x 6m. Mae Airora wedi’i ddylunio i fod yn reddfol ac yn ddarbodus ar waith.

Mae Airora wedi’i ddylunio i leihau ei effaith drwy fabwysiadu egwyddorion cynaladwyedd a’r ‘Economi Dylunio Cylchol’ trwy gydol ei ddatblygiad. Gwnaed cryn ymdrechion i leihau gwastraff a defnydd ynni, i ddefnyddio deunyddiau naturiol lle bynnag y bo modd, ac i osgoi deunyddiau niweidiol fel gludyddion. Ar ddiwedd ei fywyd mae Airora wedi’i ddylunio i gael ei ddatgymalu, ei ailgylchu a’i adennill.

Profwyd technoleg Airora a’i chymeradwyo gan nifer o Brifysgolion blaenllaw yn ogystal â Public Health England, Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a’r FDA.

Dewch i Drafod

Cysylltu