The PDR logo

Bywyd Richard Burton

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Mae arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yn dilyn stori hynod sut y daeth Richard Jenkins, bachgen o Bort Talbot yng Nghymru, yn Richard Burton, seren ryngwladol y llwyfan a’r sgrin.

Trwy ddyddiaduron personol ac archifau Richard Burton, mae’r arddangosfa yn datgelu’r dyn tu ôl i’r penawdau – Richard Burton y gŵr, tad, darllenydd, awdur a Chymro angerddol.

Gweithion ni ochr yn ochr â thîm Amgueddfa Cymru-National Museum Wales ar y prosiect hwn i ddatblygu a chyflenwi’r gofod arddangosfa ffisegol yng Nghaerdydd a chreu’r elfennau cylunio graffig cysylltiedig.

Yn sicr roeddwn yn bryderus iawn adeg yma’r llynedd wrth golli’n dylunwyr ein hun, ond roedd y positifrwydd a’r hyder y daeth PDR â nhw i’r prosiect yn gwneu dholl brofiad gweithio gyda nhw yn bleser!

ASHLEY MCAVOY | RHEOLWR ARDDANGOSFEYDD TEITHIOL | AMGUEDDFA CYMRU-NATIONAL MUSEUM WALES

Dechhreuodd yr Amgueddfa waith ar arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ bron 4 blynedd yn ôl yn 2017. Roedd wedi bod trwy sawl ffurf wrth iddyn nhw benderfynu ar y ffordd orau o gyflwyno’r nifer fawr o archifau. Roedd Ashley McAvoy, Rheolwr Arddangosfeydd Teithiol yn yr Amgueddfa, wedi cael ei ysbrydoli gan weithdy Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr a gynhaliwyd gan PDR a fynychodd trwy brosiect Clwstwr. O’r profiad hwnnw, ac wedi colli aelodau ei dîm dylunio ei hun, roedd yn awyddus i’n cael ni’n rhan o’r prosiect.

Edrychon ni ar ffyrdd y gallem ddefnyddio’n harferion Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr i archwilio sut byddai’r ymwelydd yn rhyngweithio â’r gofod, cael profiad cyfoethog o’r arddangosfa a sut orau i gyfathrebu’r naratif.

JO WARD | YMCHWILYDD DYLUNIO | PDR

Y PROSIECT

Dechreuon ni’r rhaglen waith gyda Gweithdy Cic-gychwyn a fabwysiadodd ymagwedd Gwasanaeth Dylunio. Caniataodd hyn i ni ymgysylltu â chynifer o’r rhanddeiliaid o Amgueddfa Cymru-National Museum Wales â phosibl. Drwy’r ymarfer hwn cawsom ddealltwriaeth ddyfnach o’u gweledigaeth a chipolwg ar beth roeddent am i bobl ei gael o’r arddangosfa dtwy ennyn empathi am yr ymwelydd. Hefyd helpodd y gweithdy i ni greu perthynas weithio agosach â’u tîm a fyddai’n profi’n fwyfwy gwerthfawr wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen gyda heriau annisgwyl Covid-19 ar y gorwel.

Yn dilyn y gweithdy, dechreuom ni’r prosiect gyda nifer o ymweliadau safle ar yr un pryd ag ymchwilio i ofodau amgen yr amgueddfa i adolygu’r technegau roeddent yn eu defnyddio er mwyn ymgysylltu orau â’u cynulleidfaoedd penodol.

Cafodd pob elfen graffig ei dylunio ochr yn ochr â’r dyluniad 3D i sicrhau eu bod yn ymateb i’w gilydd i gyflwyno’r naratif. Hefyd edrychodd ein pecynnau dylunio ar elfennau sain a goleuadau, gan feddwl am brofiad cyfan y defnyddiwr – beth welwch chi, dulliau o gael eich cyfarwyddo o amgylch sain, defnydd lliwiau i ddweud stori. Creom ni fodel 3D o drefn llawr yr arddangosfa mewn CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur) er mwyn gallu gosod yr arteffactau a graffeg wedyn yn eu lle, gan ein galluogi i greu trywydd rhithiol o olwg y gofod. Roedd y model rhithiol hwn yn arbennig o ddefnyddiol y tro hwn gan fod gennym lai a llai o fynediad i safle’r amgueddfa wrth i’r prosiect symud yn ei flaen oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a oedd ar waith ledled y wlad.

Roedd tîm yr amgueddfa eisoes wedi cychwyn llawer iawn o waith cyn ein cydweitherdiad felly roedd gennym gorff mawr o waith yn barod i’w werthuso, ei ddeall a’i strwythuro i greu gweledigaeth gyffredin am lif gofod yr amgueddfa.

Bu’n ymdrech aml-ddisgyblaeth gan y tîm lle defnyddiom ni elfennau o’r Gwasanaeth Dylunio, Dylunio â Ffocws ar Ddefnyddwyr a Dylunio Cynnyrch 3D. Cymerom y cynllun drafft cychwynnol a’i fapio er mwyn dweud stori cydlynus a oedd yn esbonio bywyd Burton orau.

STUART CLARKE | DYLUNYDD CYNNYRCH | PDR

I gloi, roedd hyn yn brosiect hynod o foddhaus i’n tîm weithio arno, ac er nad oeddem wedi gwneud llawer o waith yng ngofod arddangosfeydd o’r blaen, llwyddom i ddefnyddo dull aml-ddisgyblaeth i greu arddangosfa y mae Amgueddfa Cymru-National Museum Wales, a PDR yn falch iawn ohoni.

Mae’r cyfle i weithio mor agos gyda PDR ac ennill dealltwriaeth gyfoethog o fethodolegau meddwl dylunio gyda’r arddangosfa hon wedi bod yn brofiad boddhaus a illuminating iawn.

ASHLEY MCAVOY | RHEOLWR ARDDANGOSFEYDD TEITHIOL | AMGUEDDFA CYMRU-NATIONAL MUSEUM WALES

Dewch i Drafod

Cysylltu