The PDR logo

Meddwl Dylunio yn Latfia

RADI!2018

Dathlodd rhaglen 2018 ganmlwyddiant Latfia ac edrych ymlaen hefyd, i ddyfodol y genedl greadigol a ffyniannus hon, gyda ffouws ar ddulliau meddwl-dylunio.

Datrys problemau’n greadigol, newid meddylfryd, datblygu a gwella, ymagwedd ac ateb, ychwanegu gwerth ac offeryn brandio yw beth roedd dylunio yn ei olygu i gyfranogwyr gweithdy meddwl dylunio y bu’n bleser gennym ei hwyluso fel rhan o Latvian Creativity Week radi!2018. Mae dylunio, fel dull â ffocws ar bobl, yn grymuso dinasyddion i gydweithredu a chyd-greu dyfodol arloesol.

Rhan gyntaf y gweithdy oedd mapio’r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn deall y tirlun ac unrhyw fylchau posibl mewn cyd-drefnu rhwng actorion a mentrau. Mae mapio rhandeiliaid yn sicrhau bod sefydliadau allweddol yn rhan o’r broses ac mae hyn yn helpu i wireddu effaith y gall prosiect ei chael.

Wedi llwyddo i nodi’r chwaraewyr yn yr Ecosystem Creadigol, edrychom ar gryfderau a gwendidau’r gwahanol gategorïau o actorion. Mewn grwpiau, astudiodd y cyfranogwyr beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a beth mae angen ei wella.

Pwyslais radi!2018 yw arloeso a meddwl dylunio. Dyna sail ein gweledigaeth o’r dyfodol sy’n cynnig cyfleoedd am gyfranogiad gweithredol pobl ifanc a rhanbarthau, gan sicrhau bod pob un o ddinasyddion Latfia yn rhan o’r broses greu genedlaethol.

LĪVA STŪRMANE | CYFARWYDDWR CREADIGEDD | WYTHNOS RADI!

Yn ail ran y gweithdy, aethom ni’n greadigol a defnyddio technegau difyr a syniadu apelgar a llunio bwrdd stori. Drwy gamu i ffwrdd o ddulliau confensiynol o feddwl, roedd modd i’r cyfranogwyr greu mwy na 100 o syniadau mewn tipyn yn llai nag awr. Ar sail dicholonrwydd ac effaith bosibl, dewisodd y grwpiau wedyn y syniadau mwyaf addawol i fanylu arnynt ymhellach yn ystod y sesiwn llunio bwrdd stori. Ar ôl sesiwn darlunio byr gan Jo, dechreuodd y timau weithio ar eu cysyniadau.

Yn ystod rhan olaf y dydd, cyflwynodd y cyfranogwyr eu syniadau a ddilynwyd gan ddewis y cysyniad gorau. Cawsom ein taro gan wreiddioldeb y syniadau a lefel y manylion ar y byrddau stori. Yn y diwedd, arweiniodd yr ymarfer pleidleisio dot at sgoriau hafal a gadarnhaodd ansawdd uchel y cysyniadau. Rhyngddynt, roedd y timau buddugol wedi creu ymgyrch codi ymwybyddiaeth “Dychmygwch fyd heb bobl greadigol” a chyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio gyda’r nod o gydlynu a chryfhau cydweithrediad rhwng yr actorion yn yr ecosystem creadigol.

Ymhlith syniadau eraill a grewyd roedd gwella’r cwricwla addysgu i gynnwys dylunio ar bob lefel addysg, gan hybu llwyddiannau rhyngwladol pobl greadigol Latfia i ysbrydoli’r cenedlaethau nesaf, cynnal ymchwil ar werth y diwydiannau creadigol at yr economi a chymdeithas fel ei gilydd, a lledaenu negeseuon pwrpasol i wahanol grwpiau rhanddeiliaid. Dangosodd y gweithdy undydd hwn wrth yr ymagwedd ddylunio a sut mewn byr o dro y gall ddod â chronfeydd arbenigedd gwahanol ynghyd i gyd-greu syniadau dichonadwy a deniadol am wella. Gobeithiwn weld y syniadau a grewyd yn cael eu cymryd ymhellach a’u gweithredu yn y dyfodol agos.

Dewch i Drafod

Cysylltu