The PDR logo

Bancio Digidol

CYMDEITHAS ADEILADU PRINCIPALITY

Cefnogi ymagwedd â ffocws ar bobl at arloesi bancio digidol.

Yn debyg i lawer o sefydliadau, mae Principality ar daith weddnewid i ddarparu mwy o wasanaethau digidol sy’n rhoi’r ffocws ar bobl. Yn rhan o hyn, rydym wedi bod yn cefnogi eu timau digidol mewn cynnal prosiectau ymchwil darganfod defnyddwyr, a phrofion defnyddioldeb rheolaidd.

Yn gyntaf cyfarfuom â’r timau sgrym sy’n gyfrifol am y meysydd gwaith i ddatgelu’r penderfyniadau roedd angen iddynt eu cymryd, a pha risgiau y gallai’n hymchwil helpu i’w lleihau. Am un prosiect, roedd hyn yn ddigon i roi briff eglur i ni gynllunio’r ymchwil o’i gwmpas. Fodd bynnag, am y ddau brosiect arall, edrychom ar Gynfas Fain y tîm neu ddefnyddio ein dulliau ein hun i flaenoriaeyhu cwestiynau ymchwil.

YMCHWIL DDARGANFOD

Gyda briffiau ymchwil eglur, gallem gynllunio’r dull ymchwil mwyaf priodol. Defnyddiom gymysgedd o gyfweliadau labordy, ymweliadau cartref a phrofion prototeip papur ar draws y prosiectau. Caniataodd y cyfweliadau i’r timau yn Principality arsylwi ar yr ymchwil yn PDR a gwrando ar bobl yn dweud eu storïau o lygad y ffynnon, dull amhrisiadwy o helpu timau i werthfawrogi pwysigrwydd dylunio â ffocws ar ddefnyddwyr.

DADANSODDIAD CYDWEITHREDOL

Cynhwysom ni’r timau gymaint â phosibl mewn dadansoddi’r ymchwil, gan helpu’r aelodau tîm nad oedd modd iddynt arsylwi ar yr ymchwil ymgolli yn y ganfyddiadau a chymryd perchnogaeth. Hefyd gwnaethom ein dadansoddiad ein hun a chyfathrebu’r canfyddiadau yn ôl i’r timau drwy adroddiadau, sleidiau o’r prif ganfyddiadau a delweddiadau o ddulliau o wireddu eu nodau. Mae’r cyfuniad o gymhwyso ein harbenigedd ni a chynnwys y tîm wrth fynd yn ein blaen wedi rhoi i Principality gipolwg ar yr effeithiau roedd arnynt eu hangen, gan roi eglurdeb iddynt i leihau risg yn eu proses benderfynu a phennu cyfeiriad dyfodol eu prosiectau digidol.

PROFI DEFNYDDIOLDEB

Ochr yn ochr â’r prosiectau ymchwil ddarganfod, cynlluniwn a chymedrolwn sesiynau profi defnyddioldeb pob sbrint. Gweithiwn gyda’r dylunwyr mewnol, rydym wedi cymryd prototeipiau o’u gwasanaethau a chynnal sesiynau ymchwil sy’n darganfod a all cyfranogwyr gwblhau tasgau craidd ar y gwasanaethau nnewydd.

Cynhaliwn y sesiynau defnyddioldeb yn ein labordy yng Nghaerdydd fel y bu gan y tîm yn Principality fwy o gyfleoedd i ddod a gwylio eu gwaith yn cael ei ddefnyddio gan bobl go iawn. Gweithiwn yn agod gyda’r tîm yn Principality, mae ein hymchwilwyr yn troi’r canfyddiadau o’r profion yn adroddiadau clir a all gael eu rhoi ar waith.

Dewch i Drafod

Cysylltu