The PDR logo

Sgwad Safio Dylan

CYMDEITHAS ADEILADU PRINCIPALITY

Dysgu gwerth arian i blant a sut i fiethrin eu cynilion.

Yn y DU, ni fyddai 38% o oedolion yn gallu talu bil argyfwng £500, ac mae tystiolaeth glir i ddangos cysylltiad rhwng datblygu ‘meddylfryd cynilo’ mewn plentyndod a bod yn fwy hyderus yn ariannol fel oedolyn.

Mewn ymateb, gwnaeth PDR ddylunio, prototeipio a lansio cyfrif cynilo newydd, sy’n cyflwyno sgiliau arian, yn cychwyn sgyrsiau yn y cartref ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gynilwyr mewn ffordd ddifyr a hygyrch.

Y gwaith hwn hefyd oedd sail partneriaeth strategol a adeiladodd ddull dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl o fewn Cymdeithas Adeiladu Principality.

Mae gweithio gyda PDR wedi rhoi cipolwg manwl ar yr heriau mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio cynilo ac addysg eu plant am arian. Mae wedi caniatáu i ni archwilio’n gyson dulliau cyffrous newydd o fodloni eu hanghenion yn well, gan brototeipio a phrofi cysyniadau gyda phobl go iawn i ddatblygu ein gweledigaeth gyffredinol a, ein cynigion i blant.

UWCH REOLWR CYNIGION | CYMDEITHAS ADEILADU PRINCIPALITY

YMCHWIL I GYNILION TEULUOL

Datgelodd gweithdai ymchwil-defnyddwyr gyda rhieni a neiniau a theidiau eu blaenoriaethau ariannol a sut roedd y rhain yn newid wrth i’w plant fynd yn hŷn. Ochr yn ochr ag ymchwil desg i dueddiadau a siopa dirgel ymhlith darparwyr sy’n cystadlu, dargafuom fod oedolion yn ei chael yn anodd ymddwyn fel yr enghraifft dda maent yn dymuno bod o ran cynilo, a bod angen cefnogaeth arnynt.

DATGANIADAU PROTOTEIPIO

Ysbrydolodd hyn ystod o gysyniadau a gafodd eu mireinio’n gyfunol gennym ni a Principality, gan nodi pa rai a fodlonodd anghenion defnyddwyr a’r busnes orau. Gadawodd byrddau stori animeiddiedig i staff a chwsmeriaid roi adborth ar gysyniadau a dewis y rhai mwyaf addawol i’w datblygu. I roi prawf pellach arno,creom ni gangen ffug o fewn PDR ac adeiladu prototeipiau ffisegol a digidol a adawodd i ni greu profiad gwasanaeth ymgolli yn gyflym ac yn rhad i gasglu adborth cwsmeriaid cyn buddsoddi llawer o amser neu arian.

Mae’r potensial yn anferth ac yn rhoi dealltwriaeth wirioneddol i blant o beth sy’n mynd ymlaen [gyda’u harian], gan ddefnyddio technoleg fodern maen nhw yn ei deall

RHIANT | CYFRANOGWR YMCHWIL DEFNYDDWYR

EFFAITH

Lansiwyd ‘Sgwad Safio Dylan’ yn 2020 fel wyneb newydd strategaeth Principality am gyfrifon ac addysg ariannol plant, gydag ap pwrpasol i blant wedi’i seilio ar ddyluniad PDR. Mae agweddau eraill arno’n cynnwys y cyfrif ‘Learner Earner’ sy’n annog rhieni a gofalwyr i gynilo ochr yn ochr â’u plant, a arweiniodd at ddod â balansau cynilo newydd i mewn i’r gymdeithas.

Dewch i Drafod

Cysylltu