The PDR logo

Easicollect+

GE Healthcare

Dylunio system casglu samplau DNA.

Daeth GE Healthcare atom i’w cefnogi wrth ddylunio eu system hynod lwyddiannus Easicollect ar gyfer casglu celloedd am ddanansoddiad genetig.

Mae casglu celloedd geneuol yn broses adnabyddus am fod yn anodd i’w wneud yn ddibynadwy. Wrth galon system GE mae cardiau FTA arbenigol y mae celloedd o’r foch, tu mewn i’r geg, yn cael eu trosglwyddo iddynt. Mae’r cardiau FTA hyn wedi’u trwytho â chemegyn sy’n cipio’r DNA ac yn gwneud y sampl yn ddiogel i’w drin ac yn sicr. Mae llwyddiant wrth gipio’r sampl yn cael ei ddangos wrth i’r sampl pinc ar y cerdyn droi’n wyn.

Roedd ailddylunio system Easicollect yn her sylweddol, gyda miliynau’n cael eu defnyddio ledled ybyd naill ai gan y goddrychau eu hun neu gan weithwyr proffesiynol fel gwyddonwyr fforensig, heddweision a swyddogion carchar. Roedd ar GE angen system well a oedd yn gwella’r dyluniad, yn addas am gostau effeithlonrwydd gweithgynhyrchu uchel, yn manteisio ar dechnoleg cardiau FTA, un uchafu profiad defnyddwyr ac yn lleihau gwallau wrth gasglu a chludo.

Cynhaliom ni waith profi defnyddioldeb ffurfiannol helaeth ar system bresennol GE ac ar gynhyrchion cystadleuwyr. Cynhaliwyd profion gydag ystod o grwpiau defnyddiwr pwrpasol i nodi a deall yn llawn yr heriau gweithredol a’r defnyddioldeb, a’r cyfleoedd i wella yn system y cynnyrch a’r IFU cysylltiedig ac effeithlonrwydd casglu celloedd geneuol.

Gan weithio’n agos gyda GE Healthcare, aethom yn ein blaen i ddylunio ystod o ddyfeisiau casglu samplau a geisiodd wella’n sylweddol eu trin, eu defndydioldeb a dibynadwyedd casglu celloedd wrth ufuddhau i ddylunioad caeth am ofynion o ran gweithgynhyrchu a’r targed am gost.

Mireiniodd prototeipio a phrofi pellach yr atebion dyluniedig i lawr mewn modd pwyllog a than reolaeth a arweiniodd at yr ateb gorau a gyflawnodd holl ofynion y briff cychwynnol.

Lansiwyd system Easicollect+ yn 2018 ac a rhyn o bryd mae ar waith yn helaeth gan orfodwyr y gyfraith, gwyddonwyr fforensig, a swyddogion carchar o gwmpas y byd.

Dewch i Drafod

Cysylltu