The PDR logo

Cadair Uchel

Mothercare

Gwaith astudiaeth dirnadaeth defnyddwyr a edrychodd ar ddyluniad a datblygiad cadair plentyn.

Mae’r Grŵp Dylunio â Ffocws ar Ddefnyddwyr yn PDR yn canolbwyntio ar y dulliau o gael dirnadaeth ddwfn, gyfoethog o ddefnyddwyr i lywio a lleihau risg wrth ddatblygu cynnyrch. Daeth Mothercare, manwerthwr a gweithgynhyrchydd mawr y DU o gynhyrchion mamolaeth a gofal y blynyddoedd cynnar, at PDR i’w helpu i ddeall gwerth canfyddedig a nodi cyfleoedd i ddatblygu dyluniad cadair uchel yn y dyfodol.

Mae’r Grŵp yn manteisio ar lyfrgell eang o ddulliau ac ymchwil wreiddiol i gael; mewnwelediadau cyfoethog a dibynadwy wedi’u cefnogi gan dystiolaeth glir. Defnyddiwyd ymchwil dulliau cymysg i ganiatáu triongli’r canfyddiadau. Y dull cfraidd a ddefnyddiwyd trwy gydol yr astudiaeth, sy’n unigryw i PDR, yw Dadansoddiad Ethnographig Cyflym (REA)

Mae’r dull hyn yn hwyluso deall defnydd cynnyrch a chanfyddiad o’i werth drwy ddefnyddio cyfleusterau arsylwi yn PDR. Mae’n rhoi cipolwg ar anghenion defnyddwyr yn gyflym ac yn drylwyr trwy efelychu dulliau cynnyrch penodol sy’n cael eu defnyddio mewn amgylchedd efelychedig gyda chaledwedd cipio fideo a sain yn gysylltiedig â meddalwedd dadansodi ethnographig.

Mae cynllun codio’n cael ei ddatblygu ac mae allbynnau meintiedig yn creu cynrychiolaeth weledol o’r rhyngweithrediad rhwng cadair a’i chydrannau. Mae’r ‘dadansoddiad’ gweledol hwn yn amlygu ymddygiad sy’n llai amlwg wrth wylio’r fideo, fel sut mae unigolion yn symud rhwng cadeiriau, sut maent yn cymharu nodweddion a chysondeb a blaenoriaeth rhyngweithrediadau pwynt cyffwrdd.

Drwy recriwtio cyfranogwyr addas yn ofalus a drefnir ar draws grwpiau o ddarpar ddefnyddwyr a defnyddwyr presennol cadair uchel, yn ogystal â grŵp o arweinwyr neu ‘archddefnyddwyr’, ymchwiliwyd i agweddau ac ymddygiadau tuag at ddethol, prynu a defnyddio cadair uchel gan ddefnyddio set o gynhyrchion cadair uchel sydd ar gael yn fasnachol a ddewiswyd yn ofalus.

O’r gwaith a wnaed, ffurfiwyd mewnwelediadau clir ar ddangosyddion a chymhellion gwerth a dewis.

Nodwyd wyth cymhelliant allweddol gwerth a dewis, y gwnaeth nifer ohonynt yrru wgerth canfyddedig yn sylweddol ond nad oeddent yn galw am gost neu newid sylweddol i’w gweithredu. Ymchwyliwyd i drosi a chymhwyso cychwynnol y mewnwelediadau hyn,a’u cyfathrebu i’r and tîm dylunio, marchnata, ac uwch reolwyr yn Mothercare, gan adael i ddatblygiadau uniongyrchol a dyfodol ddenu graddau uwch am ddewis, gwerth am arian, a defnydd.

Dewch i Drafod

Cysylltu