The PDR logo

René

CYSYNIAD PDR

Mae René yn ddull chwyldroadol o fonitro cenenedigol sy’n elwa ar dechnolegau presennol a strwythurau cyfathrebu symudol sefydledig o fewn gwledydd sy’n datblygu i ddarparu lefel ddigynsail o fonitro cenenedigol.

Amcangyfrif Corff Iechyd y Byd (WHO) oedd bod 289,000 o fenywod yn marw yn ystod beichiogrwydd ac esgor yn 2013, yr oedd 99% ohonynt mewn gwledydd sy’n datblygu lle mae mynediad i staff a thechnolegau gofal iechyd yn isel – mae UNICEF yn cydnabod y broblem hon ac un o Nodau Datblygu’r Mileniwm yw lleihau marwolaethau babanod a mamau gan 75%.

Er bod lalwer o feysydd mewn gwledydd sy’n datblygu sy’n brin o elfennau seilwaith hanfodol, mae mabwydiadu rhwydweithiau data symudol wedi bod yn gyflym gyda 635 miliwn o danysgrifiadau ffôn symudol, yn ôl yr amcangyfrif, yn 2015 yn Affrica Is-Sahara – a ddisgwylir i godi i ryw 930 miliwn erbyn 2019 gyda signal helaeth ar draws y cyfandir.

Mae René yn ddyfais hynod gludadwy a chadarn sydd wedi’i dylunio i fanteisio ar y signal data a’r mabwysiadu ffonau symudol hyn i gefnogi newid mawr mewn gofal iechyd i famau a’u babanod. Mae René wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio i ffwrdd o glinigau a chanolfannau poblogaeth mawr gan staff sy’n gymharol brin eu hyfforddiant ac mae’n cipio cyfradd galon y ffetws – gan alluogi lalwer o famau i glywed am y tro cyntaf sŵn calon eu plentyn ananedig yn curo. Mae trosglwyddiad data am guriad y galon ac am y claf trwy rwydwaith GSM yn caniatáu i dimau llai o feddygon arbenigol, wedi’u lleoli’n unman yn y byd, roi gwybod i bobl am broblemau posibl a chefnogaeth bellach.

Arloesiad gwirioneddol René yw ei ddull o fanteisio ar dechnoleg bresennol a’i datblygu i ddatrys problem wirioneddol sy’n addas am y farchnad mae’n ei gwasanaethu. Pennau crisial uwchsain 2Mhz profedig sy’n darparu sylfaen dull newid Doppler at ganfod cyfradd galon ffetws tra bod prosesu’n fewnol, ynni batri ailwefradwy a chysylltiad data Bluetooth yn galluogi adeiladu dyfais gadarn a phrofedig sy’n gallu cael ei datblygu i’w defnyddio ar unwaith yn y farchnad. Cysylltiad â ffonau clyfar safonol, manteisio i’r eithaf ar eu galluoedd prosesu, dangosydd, cyfathrebu a sain, trwy ap syml, yn cynnig dyfais law hynod alluog ar gyfer monitro ffetws a hynny am ffracsiwn cost cynhyrchion presennol – sy’n fwy ymarferol a mwy addas at ddefnydd gwledydd sy’n datblygu.

Dewch i Drafod

Cysylltu