The PDR logo

Shield

CYSYNIAD PDR

Mae Shield yn ailddyluniad syml a chost isel sy’n defnyddio lapiadau a gorchuddion hambwrdd sterileiddio plastig tafladwy un-tro wedi’u hailgylchu, a ddefnyddir yn gyffredin yn theatrau llawdriniaeth ysbytai.

Mae defnydd hirdymor catheter yn driniaeth safonol sy’n effeithio ar filiynau o bobl ledled Ewrop bob blwyddyn. Mae wrin yn cael ei gasglu’n allanol mewn sach draenio allanol, a ddelir yn nodweddiadol mewn ffram gwifren syml. Mae sachau a fframiau hyn yn peri llawer o anawsterau wrth eu trin a thrafod a’u gwacáu ac yn peri gofid a stigmateiddio arbennig trwy welededd hyd at 1.5L o wrin ac eitem ysbyty amlwg iawn yn y cartref.

Mae stondinau sachau wrin dros nos wedi aros yn weddol ddi-newid ers degawdau. Pobl hŷn yn aml, ond nid hwy yn unig, sy’n derbyn gofal yn y cartref sydd ar gynllun catheter hirdymor ac sy’n defnyddio stondinau sach dros nos. Mae embaras gwirioneddol ynghlwm wrth amlygrwydd cynnwys y sach a heriau ymarferol tynnu’r sach o’r ffram gwifren a’i gwacáu’n ddiogel yn y toiled.

Ar ben hyn mae ystyriaethau pwysig cynaladwyedd a gwastraff, mater sy’n denu mwyfwy o ymwybyddiaeth mewn ysbytai ledled y byd. Ychydig o gymhelliant economaidd sydd i ymdrin â’r broblem hon ac ychydig o opsiynau sydd gan ysbytai wrth ddelio â’r problemau a ddisgrifiwyd.

Mae Shield yn ailddyluniad syml a chost isel sy’n defnyddio lapiadau a gorchuddion hambwrdd sterileiddio plastig tafladwy un-tro wedi’u hailgylchu, a ddefnyddir yn gyffredin yn theatrau llawdriniaeth ysbytai. Mae’r dyluniad yn disodli dyluniad sydd heb newid mewn 50 mlynedd, mae’n cynnig platfform cadarn sefydlog, sach draenio hawdd ei thrin a’i gwacáu, ac yn cuddio’r cynnwysyn gynnil rhag golwg.

Mae Shield yn gynnyrch syml sy’n darparu sefydlogrywdd a diogelwch i sach draenio 2L ar yr un pryd â gantaiáu am ddefnydd mwy discreet mewn lleoliad domestig. Defnyddir deunydd gwastraff ysbytai wedi’i ailgylchu, yn benodol mae lapiadau a gorchuddion hambwrdd sterileiddio plastig tafladwy un-tro a ddefnyddir mewn theatrau llawdriniaeth a fyddai fel arall yn cael eu llosgi yn cael eu defnyddio i gynhyrcchu deunydd di-haint ar ffurf dalenni a gronynnog gyda gorffeniad unigryw i’r wyneb sy’n addas i’w ddefnyddio mewn amgylchedd mwy domestig. Prosesir y deunydd cost isel iawn hwn i gynhyrchu Shield mewn gorffeniadau s’n amrywio, gan greu gorffeniadau unigryw sy’n ddibynnol ar liw a chymyshedd y deunydd polypropylen sy’n cael ei ailgylchu.

Mae’r cynnyrch yn sefydlog wrth gael ei ddefnyddio a thrwy ei ffurf lân syml yn eistedd yn unobtrusively wrth ymyl gwely neu gadair yn y cartef. Mae’r sach â dolen ddiogel, hawdd gafael ynddi wedi’i dylunio i’w ddefnyddio gan ddwylo gwanedig ac arthritig y gall fod angen iddynt gario hyd at 2kg o hylif, ac mae’n codi’n syth allan i gael ei chario’n hawdd i’r ystafell ymolchi cyn ei rhyddhau drwy tap draenio wyneb mawr hawdd ei droi. Mae’r dull hwn yn osgoi’r system bresennol o dynnu o glustiau gwifren a cheisio cario, yn aml mewn dwy law, llond sach sy’n gallu gollwng ac yn anodd ei gwacáu heb ei gollwng.

Mae Shield yn cynnig ateb cymharol syml i broblem i gleifion sy’n bodoli ers mwy na 50 mlynedd. Mae’r adeiladwaith syml sy’n snapio ynghyd yn caniatáu ei greu’n hawdd gan lafur di-sgil ac mae ei ddefnydd ar wastraff ysbytai wedi’i ailgylchu a ddarperir am ddim gan ymddiriedolaethau ysbyty , o edrych arno o safbwynt economi gylchol, yn creu deunydd hynod ymarferol am gost ychwanegol at mân iawn o ran defnydd ynni a chost.

Dewch i Drafod

Cysylltu