The PDR logo

Profiad Fajitas

Las Iguanas

Gwella ‘Profiad Fajita’ Las Iguanas i gwsmeriaid a staff fel ei gilydd ar draws 57 o fwytai yn y DU.

Mae Las Iguanas, a’i 57 o fwytai ledled y DU, yn byddsoddi’n drwm yn ei bobl, trefn ei fwytai a bwydlen i greu awyrglch sy’n derbyn adolygiadau rhagorol yn gyson o barau sydd am bryd bwyd rhamantus i grwpiau mawr ac achlysuron dathlu.

I lawer o gwsmeriaid, mae’r seigiau fajita ar y fwydlen yn rhan allweddol o brofiad unigryw Las Iguanas. Maent yn cael eu gweld fel ‘saig arwr’ allweddol i’r cwmni gyda’r potensial i’w gwahaniaethu ymhellach mewn marchnad fwyfwy cystadleuol.

Wrth i’r cwmni dyfu’n gyflym, roedd am adeiladu ar eu llwyddiant a daeth atom ni i leihau’r baich ar staff ar yr un pryd â gwella profiad y cwsmer mewn perthynas â’r saig allweddol hwn a oedd yn ymarferol, yn effeithiol, ac yn fforddiadwy.

YMCHWIL BWYTAI

Cynhwysodd ein rhaglen ymchwil fapio tasgau’r staff yn y bwyty i gael deall sut roedd y bwyd yn cael ei baratoi, ei gyflwyno, a’i drefnu ar y bwrdd o safbwynt y bwytawr. Gadawodd yr ymchwil i ni ddatguddio unrhyw bwyntiau poen ac uchafbwyntiau presennol gallem ni eu hamlygu. Ymhlith y pwyntiau poen a welsom roedd prinder digon o le o amgylch y bwyty, oherwydd y gofod bwrdd gorau roedd ei angen, a’i gwnaeth yn anodd i’r staff gyflenwi bwyd poeth ac eitemau cysylltiedig i fwrdd cwsmer ac oddi yno. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys y 'theatr' weledol mae’r man cegin yn ei dangos i’r cwsmer oherwydd trefn agored y gegin. Yn dilyn yr ymchwil hon, trosodd ein tîm dylunio y meysydd cyfle hyn a oedd newydd eu darganfod yn ymyriadau arloesol cynnyrch a gwasanaeth newydd.

DYLUNIAD CYSYNIADOL

Yn ystod cyfnod Dyluniad Cysyniadol y gwaith, canolbwyntiom ar bum maes allweddol a oedd yn cynnwys paratoi a choginio, cyflenwi’r bwyd, bwyta wrth y bwrdd, casglu bwyd ac eitemau, a glanhau a storio. O’r 132 o syniadau a gafwyd, lluniom restr fer o’r cysyniadau a bennwyd gan hyfywedd technegol, potensial masnachol, a synergedd gyffredinol â brand Las Iguanas.

Canolbwyntiodd y cysyniadau hyn ar leihau nifer y teithiau gan staff i gyflenwi nifer o setiau fajita, cymorth i gyflenwi ‘profiad fajita’, cymorth i’w wneud yn haws casglu o’r bwrdd, a storio’r pentyrru fajita. Canolbwyntiom hefyd ar gysyniadau a helpodd i ymdrin â phroblem tagfa ar y bwrdd ac o’i gwmpas oherwydd nifer yr eitemau a oedd yn cael eu defnyddio i greu’r fajitas.

DATBLYGU’R CYSYNIAD

Yn dilyn dylunio cysyniadol, gwnaethom fireinio’r cysyniadau mewn cydweithrediad â Las Iguanas i sefydlu un cyfeiriad a gyflawnodd y nodau a bennwyd ac a lwyddodd i fodloni angneion cwsmeriaid a staff. Yna paratowyd y dyluniad terfynol i’w weithgynhyrchu, gan sicrhau bod gweledigaeth Las Iguanas yn cael ei gwireddu yn y cynnyrch terfynol, gyda lliwiau, deunyddiau a gorffeniad y brand i gyd yn cael eu hysbsyroli gan eu hunaniaeth brand bresennol.

CYFLWYNIAD AC EFFAITH

Ers ein gweithgarwch ymchwil i fwytai a datblygu cynnyrch, mae’r pentwr ‘profiad fajita ' a ddatblygwyd gan PDR wedi’i gyflwyno erbyn hyn ar draws holl fwytai Las Iguanas ledled y DU a’r tu hwnt. Mae adborth wedi cadarnhau bod y system pentyrru newydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol gan ychwanegu at y 'theatr' a greir mewn bwytai Las Iguanas. Mae’r system pentyrru fajitas yn cael ei defndydio’r rheolaidd fel rhan o ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddiadau Las Iguanas i ddenu cwsmeriaid newydd a phresennol i’r bwytay.

Dewch i Drafod

Cysylltu