The PDR logo

Prosiect Asesu Rhithiol Podiatreg

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Creu map ffordd arloesol ar gyfer arloesi gwasanaethau sy'n helpu i gyflawni system asesu rhithiol i wella'r profiad o arholiadau rhithiol ar gyfer myfyrwyr a staff yn adran Podiatreg Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn ystod 2021, roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd â'u bryd ar adeiladu ar y llwyddiannau a brofwyd gan yr adran Bodiatreg yn ystod cyfnod cynnar y pandemig wrth greu proses asesu rithiol ar gyfer eu myfyrwyr lefel 6 (y drydedd flwyddyn). Cyn hynny, aseswyd y myfyrwyr o dan amodau 'clinigol' ar y campws gan ddefnyddio cleifion go iawn.

Arweiniodd yr angen am ddull diogel a rhithiol o fesur perfformiad pob myfyriwr at ddatrysiad dros dro yn 2020. Er mai rhywbeth ‘dros dro' oedd y dull gweithredu, dangosodd fanteision sylweddol, a dyna pam yr oedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ei drawsnewid yn ateb a allai sefyll prawf amser, drwy'r pandemig a thu hwnt.

Felly, y bwriad ar gyfer PDR oedd deall beth oedd eisoes wedi'i wneud, asesu ym mha ffyrdd y bu’n llwyddiannus a nodi pa gyfleoedd oedd yn weddill i’w gwella. Arweiniodd hyn at greu cyfres o gysyniadau ar gyfer fersiwn newydd o’r Arholiad Diagnosis Podiatreg, a gafodd eu prototeipio, eu profi a'u datblygu ymhellach er mwyn darparu allbynnau swyddogaethol a chynllun gweithredu i’w rhoi ar waith yn y flwyddyn academaidd newydd.

DULL PWRPASOL YN SEILIEDIG AR YMCHWIL

I ddechrau, fe wnaethom gynnal adolygiad cyffredinol o'r prosesau asesu a'r mannau cyswllt presennol, gan gynnwys yr holl ddogfennaeth gyfredol. Yn dilyn hynny, fe ddatblygom fap taith myfyrwyr sylfaenol yn seiliedig ar yr ymchwil gychwynnol a gasglwyd gennym bryd hynny.

Yna, fe wnaethom gerdded trwy’r broses asesu mewn ffordd wybyddol gyda staff PDR yn chwarae rolau’r myfyrwyr a’r aseswyr i ddeall y pwyntiau anodd posibl yn well a’r elfennau logistaidd sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth hwn i fyfyrwyr. O gael y ddealltwriaeth hon, fe lwyddom greu arolwg a gafodd ei ddosbarthu i'r myfyrwyr lefel 6 yr wythnos ar ôl eu harholiad Diagnosis Podiatreg lle gwnaethant ddefnyddio’r system asesu rithiol bresennol. Fe’n galluogwyd gan yr ymatebion i ddysgu llawer mwy am brofiad go iawn y myfyrwyr.

Buom hefyd yn cynnal cyfweliadau manwl gyda 4 myfyriwr a 2 aelod o staff i ymchwilio'n ddyfnach i realiti cynnal a sefyll yr arholiad. Fe wnaethom ddefnyddio technegau dadansoddi Thematig i ddadansoddi canfyddiadau'r arolwg a'r cyfweliadau.

Roeddem hefyd yn ddigon ffodus o allu gwneud dadansoddiad defnyddioldeb ar 5 recordiad o arholiadau’r myfyrwyr gan ddefnyddio haen bellach o ddadansoddi thematig a helpodd i amlygu mewnwelediadau y gellid gweithredu arnynt gan ddefnyddio cardiau STEP. Fe wnaeth yr holl fewnwelediadau hyn ganiatáu inni ddatblygu taith ddiwygiedig a glasbrint gwasanaeth o'r broses arholi bresennol gan gynnwys teithiau'r myfyrwyr a'r staff.

Ar ôl i ni orffen canfyddiadau'r ymchwil, fe wnaethom gynnal sesiwn cyd-greu gyda 5 aelod o staff Podiatreg yn ogystal â Jeff Lewis, Athro Dysgu Hyblyg yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom gynnal sesiwn syniadu hefyd gyda staff PDR yn parhau o sesiwn gyd-greu'r staff.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL EIN HYMCHWIL

O'n dadansoddiad ac asesiadau manwl gyda'r rhanddeiliaid allweddol, fe wnaethom ddarganfod sawl canfyddiad pwysig gan gynnwys:

Mae asesiadau rhithiol yn golygu mwy o waith i staff.

Mae cynllunio, trefnu a chreu'r deunydd angenrheidiol ar gyfer yr arholiad yn golygu llawer o waith cyn i'r myfyrwyr gael gwybod am yr arholiad hyd yn oed, a gall cynnal y rhain 'yn rhithiol' fod yn fwy llafurddwys na'r dull traddodiadol, yn y cnawd. Yn ogystal, yn dilyn siarad â staff sy'n cynnal yr asesiad, dim ond cynyddu byddai'r llwyth gwaith trwm gyda charfannau mwy o faint.

Mae manteision ac anfanteision i weithio o bell ac arholiadau rhithiol.

Fe wnaethom ddarganfod bod creu efelychiad o'r arholiad yn caniatáu mwy o reolaeth dros gynnwys yr arholiad, gan mai’r staff sy’n dewis yr amodau y mae myfyrwyr yn eu profi, sy'n sicrhau lefel deg o anhawster ymhlith y myfyrwyr. Mae'r gosodiad rhithiol hefyd yn helpu i sicrhau tegwch ac yn helpu i atal myfyrwyr rhag twyllo neu gopïo ei gilydd a welir yn ystod asesiadau wyneb yn wyneb.

Fodd bynnag, roedd ymyriadau amlwg yng nghartrefi'r myfyrwyr a'r aseswyr a oedd yn torri ar draws arholiadau'r myfyrwyr.

Nid oedd mwyafrif y myfyrwyr a gafodd eu holi a’u cyfweld yn teimlo'n barod at beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod yr arholiad.

Er bod y myfyrwyr yn teimlo'n barod i drafod y cynnwys roedden nhw wedi'i adolygu, roedden nhw wedi drysu o ran beth i'w ddisgwyl gan y strwythur yn ogystal â'r deunyddiau a ddarparwyd fel rhan o'r arholiad er iddyn nhw gael gwybodaeth am strwythur yr arholiad yn ystod darlithoedd a sgyrsiau pellach â darlithwyr.

Gellid gwella gosodiad deunydd yr Astudiaeth Achos.

Fe wnaethom ddarganfod problemau yn y ffordd y byddai pobl yn darllen trwy ddeunydd yr astudiaeth achos yn ogystal â phroblemau’n ymwneud â data nad oedd yn cael ei gyflwyno'n realistig yn y ddogfen, gan gynnwys lluniau a fideos nad oeddent yn ddigon clir i fyfyrwyr eu gweld.

Yn ystod yr arholiad, mae eglurder yn allweddol.

Roedd hi’n ymddangos bod diffyg gweithdrefn safonedig i staff ei dilyn yn ystod yr arholiad a arweiniodd at wahaniaethau yn y modd y cyflwynwyd yr arholiad i fyfyrwyr. O ganlyniad, effeithiodd hyn ar ddealltwriaeth y myfyrwyr yn ogystal â thrylwyredd y weithdrefn sy'n atal myfyrwyr rhag ceisio twyllo.

DEILLIANNAU’R PROSIECT A CHYFLEOEDD PELLACH

Crëwyd tri chysyniad gennym ar gyfer y cleient, pob un yn gam naturiol yn nilyniant yr olaf.

Roedd Cysyniad 1 yn ateb 'parod i’w weithredu' nad oedd angen unrhyw fuddsoddiad gan y brifysgol ac y gellid ei brofi gan PDR ac yna’i gyflwyno i Met Caerdydd ei ddefnyddio ar unwaith.

Roedd Cysyniad 2 wedyn yn gysyniad agos at y dyfodol ac yn ddatblygiad o'r cysyniad cyntaf, a oedd yn cynnig atebion tebyg ond mewn llwyfan a oedd wedi'i deilwra ar gyfer y gwasanaeth a gellid ei gyflwyno ar draws sawl cwrs gwahanol o fewn yr ysgol.

Roedd Cysyniad 3 yn gysyniad pell i’r dyfodol a oedd yn ymgorffori cyfarpar realiti rhithiol i helpu i efelychu'r system diagnosio cleifion wyneb yn wyneb, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad clinigol teg a phriodol o anodd, gan gael ei gynnal o bell ar yr un pryd.

Mae arholiadau rhithiol yn mynd i fod yn rhywbeth parhaol; drwy'r prosiect hwn, gallom ddangos sut y gall cleientiaid ddatrys y broblem drwy fwy o fuddsoddiad a mwy o amser.

Cat Taylor | Uwch Ddylunydd Sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr | PDR

Creodd PDR yr holl gydrannau angenrheidiol ar gyfer cysyniad 1. Roedd hyn yn cynnwys Astudiaeth Achos ddigidol ryngweithiol, a gafodd ei chynllunio i fod yn fwy ymarferol i staff y brifysgol ei lledaenu a’i diweddaru yn ogystal â chael ei gosod mewn ffordd haws i fyfyrwyr ei defnyddio. Profwyd defnyddioldeb yr astudiaeth achos, a chynhyrchwyd fersiwn templed hefyd fel y gallai staff boblogi astudiaethau achos newydd yn effeithlon. Gan ddefnyddio'r data o achos presennol, crëwyd cyn-bapur enghreifftiol hefyd gyda’r bwriad o’i ddefnyddio i dywys myfyrwyr trwy broses yr arholiad, gan leihau'r dryswch a brofwyd gan fyfyrwyr wrth ymwneud â deunyddiau nad oeddent wedi'u defnyddio cyn yr arholiad.

Crëwyd y pecyn cyfan hwn mewn meddalwedd yr oedd gan y staff brofiad blaenorol o’i ddefnyddio i sicrhau bod digon yn ei ddefnyddio ac i gynorthwyo’r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth hwn ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

NEGESEUON ALLWEDDOL I’W COFIO

Ochr yn ochr â'r atebion a ddatblygwyd gennym, fe wnaethom nodi 3 neges allweddol y dylid eu hystyried cyn ymgymryd ag unrhyw brosiectau tebyg o'r math hwn yn y dyfodol:

1 - Trwy greu templedi a sgriptiau sy'n hawdd ac yn syml i'r holl staff eu dilyn a'u poblogi, gellir rhannu llwyth gwaith, a gellir rheoli cysondeb.

2 - Byddai allanoli’r gwaith o greu cynnwys fideo hefyd yn lleihau llwyth gwaith staff ac yn cynyddu'r gronfa o gynnwys astudiaethau achos.

3 - Byddai rhoi cyn-bapur pwrpasol i fyfyrwyr a theithiau tywys rhyngweithiol/gweledol o'r hyn i'w ddisgwyl ar ddiwrnod yr arholiad yn lleddfu cryn dipyn ar bryder myfyrwyr, heb eu cynorthwyo â’r cynnwys technegol.

Dewch i Drafod

Cysylltu