The PDR logo

Gweithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol

Helo, fy enw i yw Jamie. Ymunais â PDR ym mis Hydref 2019 fel Intern Dylunio, ond cefais ddyrchafiad i fod yn Ddylunydd Cynnyrch ym mis Tachwedd 2020.

Fel dylunydd cynhyrchion yn PDR, mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn wahanol bob amser; does dim diwrnod cyffredin fel y cyfryw, oherwydd gallem fod yn mynd drwy tri, pedwar neu bump cylch prosiect ar unrhyw adeg. Efallai y bydda i’n treulio bore yn y cam cysyniadau ac ymchwil, gan greu darlun cyflawn o brosiect. Yna nes ymlaen y diwrnod hwnnw, efallai byddaf yn rhoi manylion mesuriadau yn CAD neu’n gollwng pethau o uchderau amrywiol i weld pa mor gadarn ydyn nhw. Fel tîm amlddisgyblaethol yn gweithio ar nifer o brosiectau ar unwaith, mae’n golygu bod pethau wastad yn ddiddorol – mae pob diwrnod yn wahanol!

Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio ar brosiect tymor hir ond yr hyn sy’n unigryw yw bod nifer o gynhyrchion mewn un prosiect, felly mae’r hyn rydw i’n gweithio arno yn rhan o beiriant llawer mwy.

I mi, mae gweithio yn y maes datblygu cynhyrchion yn eithriadol o ddiddorol ond yn enwedig oherwydd mae agwedd PDR at eco-ddylunio yn golygu dydyn ni ddim yn dylunio ‘pethau newydd dim ond er mwyn bod yn newydd’. Mae ein cynhyrchon yn cael eu dylunio i fod yn well ac i bara’n hirach, felly dydych chi ddim yn teimlo eich bod yn cyflwyno mwy o bethau plastig i’r byd. Mae cydweithio â Dr Katie Beverley yn y tîm yn wych ar gyfer hyn; mae hi’n stôr o wybodaeth am bopeth eco! Heb sôn am fod yn bencampwr presennol y cwis nos Wener…

Yr hyn sy’n apelio fwyaf ata i am weithio mewn tîm amlddisgyblaethol yw’r ffaith eich bod yn cael gwahanol bobl gyda barn a safbwyntiau gwahanol. Mae hynny’n golygu gallwch edrych ar brosiectau neu broblemau’n gyfannol a dod o hyd i ateb gwell, a chael cynnyrch mwy cyfoethog yn y pen draw. Does dim amheuaeth mai ‘stiwdio’ yw PDR, nid swyddfa ffurfiol. Mae’n ofod gweithio lle gall pawb gyfrannu, gofyn am gyngor, cynnig awgrymiadau, sy’n beth gwych.

Rydw i wrth fy modd â diwylliant PDR (ac rydw i’n colli Cacennau Dydd Gwener yn ystod y cyfnod clo!). Mae yna agwedd hamddenol ond eto i gyd mae pawb yn cymryd y gwaith o ddifrif, oherwydd rydym ni’n wirioneddol awyddus i greu cynhyrchion a chanlyniadau da, ac mae pawb yn rhagweithiol ac yn gynhyrchiol.

Pe gallwn roi unrhyw gyngor i ddylunydd cynnyrch newydd, neu i rywun sy’n chwilio am waith yn y maes, yn bendant byddem yn dweud wrthyn nhw am ddal ati i edrych dros wal yr ardd, hynny yw, cadw llygad ar yr hyn mae’ch cymdogion yn ei wneud. Mae angen i chi weld a deall pa ddylunio sydd ar y gweill, beth mae dylunwyr gwasanaethau’n ei wneud, beth mae dylunwyr llawfeddygol yn ei wneud, beth sy’n digwydd yn y disgyblaethau dylunio gwahanol hyn, a beth alla i ddysgu ganddynt?


Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd yn America, yr hyn sy’n digwydd yn Ffrainc, yr hyn sy’n digwydd yn yr holl wledydd hyn – beth maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n gwneud hynny? Ewch ati i ddadansoddi hynny a cheisio mesur gwerth hynny. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar y pethau newydd hyn, neu newid pethau, oherwydd dim ond gwella wnaiff eich dyluniad chi o wneud hynny.