The PDR logo
Chw 08. 2023

Galwad Agored am Arian Sbarduno gan Media Cymru wedi cael ei lansio

Mae Media Cymru wedi lansio galwad ariannu i geisio cefnogi arloesedd yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cyllid yn cefnogi astudiaethau dichonoldeb yn ymwneud â'r sectorau sgrin a'r cyfryngau, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru ehangach.

Mae'r cyllid sbarduno hwn yn bot o arian, hyd at £10k, i edrych ar ddichonoldeb cynnyrch, gwasanaeth, profiad, proses yn ogystal ag ymyriadau dylunio rheolaidd gan ein Tîm Media Cymru yma yn PDR yn ystod llinell amser prosiect 3-5 mis.

Mae'r cyfle hwn wedi bod ar gael diolch i UKRI a chonsortiwm Media Cymru. Rydyn ni am gefnogi pobl y diwydiant creadigol i gael yr amser a'r gofod i wneud Ymchwil a Datblygu (R&D) er mwyn bod yn fwy arloesol a chreu diwydiant mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn ni'n defnyddio dull Dylunio â Chanolbwynt Defnyddwyr (UCD) i roi fframwaith i gefnogi'r broses a wneir gan ymgeiswyr llwyddiannus. Nid cefnogi busnes fel gweithgareddau arferol mohono.

Ry'n ni am weld ceisiadau yn dod i mewn gan bobl Greadigol a sectorau eraill sy'n meddwl bod ganddyn nhw rywbeth i'w gynnig i'r sector - gallai fod yn faes hollol newydd, technoleg sy'n gweithio i sector arall ond y gellid ei defnyddio ar gyfer y Diwydiannau Creadigol neu newid bach sy'n cael effaith fawr ar y diwydiant.

Ein nod yw gweld y diwydiant yn ffynnu. Rydym am i bobl fod yn hyderus wrth ddefnyddio iaith o amgylch Ymchwil, Datblygu ac Arloesi - deall y termau a ddefnyddir, yr ystyr y tu ôl iddyn nhw a goblygiadau'r termau hynny yn eu gwaith eu hunain. Rydym am weld pobl yn defnyddio dull UCD fel fframwaith ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, nid yn unig y prosiect y maen nhw'n cael eu hariannu ar ei gyfer. Rydym am weld busnesau a gweithwyr llawrydd yn y sector yn fwy cynaliadwy, ym mhob ystyr. Hefyd, rydyn ni am fynd i weithio ar rai prosiectau anhygoel!

Mae'r Galw am Geisiadau allan nawr i brosiectau ddechrau eu hymchwil ddiwedd mis Mawrth, gyda ffenestr 3-5 mis i'w chwblhau.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwyno'r cais ar-lein erbyn hanner dydd, dydd Gwener 17 Chwefror 2023.