The PDR logo
Hyd 26. 2021

Sut rydym yn datblygu arloesedd yn y Diwydiant Gwyddorau Bywyd

Mae llawer o waith PDR yn ymwneud â'r diwydiannau Gwyddorau Bywyd; boed hynny drwy ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau ar gyfer dyfais feddygol, neu ein gwaith ymchwil sy'n arbenigo mewn llawfeddygaeth adluniol a phrostheteg.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; corff hyd braich sy'n gyfrifol am annog cydweithio rhwng y gwyddorau bywyd a'r diwydiant a'r byd academaidd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. O ganlyniad i hyn, mae ein harloesedd ym maes gofal iechyd yn cynnwys y Brace a Female Brace, Monitor Calon y Ffetws, a chynnyrch arloesol sy'n yn asesu effeithiolrwydd gwrth-iseldyddion.

Yn ein fideo diweddaraf, mae'r Athro Andrew Walters yn trafod sut rydym yn datblygu ac yn meithrin arloesedd o fewn sector gwyddorau bywyd Cymru, ac yn archwilio sut y gall dull dylunio feithrin cydweithio ar draws diwydiant, gofal cymdeithasol ac ysbytai.