The PDR logo

Brace

R&D SURGICAL LTD

Bres cenhedlaeth nesaf ar gyfer trin Pectus Carinatum (sydd hefyd yn cael ei alw’n pigeon chest) lle mae asgwrn y frest yn ymwthio’n ormodol, sy’n effeithio ar dua 1 ym mhob 400 o blant.

Mae’r driniaeth yn golygu cywasgu dros gyfnod i ganiatáu i’r asgwrn ddatblygu’n gywir. Nid yw’r bresi presennol wedi newid ers yr 20fed ganrif gynnar. Mae’r rhain yn angysurus, yn cyfyngu gweithgarwch, yn anodd eu gwisgo, a cyn anodd eu cuddio, gan gynyddu teimladau o unigedd a stigmateiddio i gleifion sy’n nodweddiadol yn fechgyn yn eu harddegau.

BRES NEWYDD

Mae’r bres newydd wedi’i ddylunio i ffitio’n destlus ac yn gynnil o dan ddillad gan ddefnyddio deunyddiau cyfoes a mecanweithiau hawdd eu defnyddio er mwyn creu ateb mwy cysurus, sy’n effeithiol yn glinigol.

CYFFYRDDIAD MEDDAL

Mae’r bres yn fain ac yn defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau gan gynnwys elastomerau a ffabrigau technegol i helpu cysur a ffit. Mae’r uned yn gwbl addasadwy i greu ffit pwrpasol ac ansymetrig yn ôl yr angen i ganiatáu ei wisgo’n gysurus drwy gydol y dydd heb rwbio, anghysur gormodol a swmp o dan ddillad.

OPSIYNAU

Ar gael mewn tri maint gydag addasiadau lluosog sy’n gadael i’r defnyddiwr addasu’r ddyfais yn rhwydd i’w ofynion ei hun.

O’r cyfarfod cyntaf oll, roeddem yn edmygu ymchwil a dealltwriaeth tîm PDR o agweddau clinigol a chleifiob yr her ddylunio. Mae eu cyfathrebu â ni a’n Cyfarwyddwr Meddygol wedi bod yn eithriadol. Ers hynny mae’r bres wedi ennill Gwobr iF Aur 2020. Bydd ein prosiect nesaf yn ddiau yn cael ei roi i PDR.

ROGER THOMAS | CYFARWYDDWR CWMNI | R&D SURGICAL LTD

Dewch i Drafod

Cysylltu