The PDR logo
Ion 24. 2018

Llwyddiant Dwbl i PDR yn y Gwobrau ‘Good Design’

DECHRAU DA I 2018 I PDR

Yn ddiweddar, cafodd y tîm gadarnhad fod PDR wedi ennill dwy Wobr GOOD DESIGN™ am Ragoriaeth mewn Dylunio. Sefydlwyd GOOD DESIGN™ yn Chicago ym 1950, a dyma’r rhaglen hynaf, uchaf ei bri ac enwocaf trwy’r byd ar gyfer rhagoriaeth mewn dylunio.

Mae hwn yn llwyddiant dwbl mewn mwy nag un ffordd – daeth y llwyddiant cyntaf i ran Sonicaid Team 3 Huntleigh Healthcare, a lwyddodd hefyd i ennill gwobr Red Dot yn 2017; a daeth yr ail lwyddiant i ran DMX Digital Doppler Huntleigh, a enillodd Wobr Ddylunio iF yn 2017.

Cafodd y Sonicaid Team 3 ei ysbrydoli gan anghenion ei ddefnyddwyr. Monitor ffoetysau ydyw, ac mae’n sylfaenol wahanol i’w ragflaenwyr gan ei fod yn cynnwys nodweddion mwy pwerus a hefyd sgrin gyffwrdd am y tro cyntaf.

Dyma’r Doppler llaw cyntaf yn y byd. Crëwyd y Doppler Digital DMX gyda’r bwriad o gyfuno’r perfformiad gorau o ran sensitifrwydd y chwiliedydd ac eglurder y sain gyda darlun gweledol o donffurfiau – rhywbeth nad oedd ar gael o’r blaen heb ddefnyddio systemau bwrdd gwaith mawr a drud mewn labordai.

2017 fu’r flwyddyn fwyaf arwyddocaol yn hanes GOOD DESIGN™ hyd yn hyn. Daeth miloedd o gynigion i law’r Amgueddfa o du myrdd o gwmnïau FORTUNE 500 a chwmnïau dylunio blaenllaw o fwy na 55 o wahanol wledydd. Yna, cafodd beirniaid rhyngwladol y dasg o asesu’r cynigion hyn a phenderfynu pa rai oedd yn haeddu’r teitl hwn.

Ar ôl clywed y newyddion, dyma a ddywedodd Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR, “Fe wnaethon ni orffen 2017 yn union fel y gwnaethon ni ei dechrau – yn gweithio ar brosiectau gwych ac ennill mwy o wobrau dylunio rhyngwladol pwysig. Does gennym ni ddim y tîm mwyaf yn y byd, ond mae hyn yn profi unwaith eto fod y tîm sydd gennym yma a’r gwaith a wnawn – gyda sefydliadau sy’n amrywio o fusnesau newydd i nifer o frandiau mwyaf y byd – gyda’r gorau yn y byd. Rydw i mor falch o’r tîm; cydnabyddiaeth gwbl haeddiannol unwaith eto.”

Does gennym ni ddim y tîm mwyaf yn y byd, ond mae hyn yn profi unwaith eto fod y tîm sydd gennym yma a’r gwaith a wnawn – gyda sefydliadau sy’n amrywio o fusnesau newydd i nifer o frandiau mwyaf y byd – gyda’r gorau yn y byd.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR