The PDR logo
Chw 28. 2023

Dylunio gyda’r blaned mewn cof: Sut y gall gweithio ar gysyniadau mewn PDR drosi’n ddylunio dyfodol mwy cynaliadwy

Wrth i’r problemau ecolegol sy’n wynebu’r byd a’i drigolion ddod yn fwyfwy amlwg, mae rhoi anghenion y blaned wrth galon y broses ddylunio wedi dod yn anghenrhaid i ddylunwyr. Eisteddwn gyda’n Huwch Swyddog Ymchwil, Dr Katie Beverley (Katie B.) a’n Dylunydd CMF, Katie Forrest Smith, wrth iddyn nhw siarad am sut mae dylunwyr yn PDR yn defnyddio dylunio cysyniad i archwilio sut mae hyn yn edrych yn ymarferol, y gwahaniaeth rhwng cysyniad a realiti, a sut rydym ni’n symud o’r naill i’r llall.

Pa alluoedd sydd yna ar gyfer dylunio sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn PDR?

Drwy fod yn ganolfan ddylunio ac ymchwil, mae gweithgarwch masnachol PDR yn cael ei ategu gan ymchwil academaidd drylwyr, sy’n caniatáu am bob math o alluoedd i ddylunio cynaliadwy sy’n ehangu dros lawer o feysydd.

Mae Katie B. yn esbonio, “Am nad ydyn ni wedi’n cyfyngu i ddylunio cynhyrchion yn PDR, nid ydym wedi’n cyfyngu chwaith i ddylunio cynhyrchion mwy cynaliadwy. Rydym ni hefyd wedi dylunio gwasanaethau, polisïau a modelau busnes sy’n cyfrannu at ddyfodol gwell. Er enghraifft, gweithiom ni gyda Zero Waste Scotland, y corff cyflenwi dros reoli adnoddau yn yr Alban, i gynnal archwiliad o’r capasiti dylunio ar gyfer yr economi gylchol yn yr Alban a arweiniodd at greu cynllun gweithredu. Hefyd gweithiom ni gyda Riversimple, gwneuthurwr cerbydau trydan celloedd tanwydd hydrogen, i’w helpu i archwilio modelau busnes amgen a fyddai’n gwneud eu gweithrediad cyfan yn fwy effeithlon o ran adnoddau.

Mae PDR wedi ymgorffori cynaladwyedd mewn dylunio pecynnu ar gyfer cleientiaid hefyd. Mae Katie Forrest Smith, ein Dylunydd CMF, yn parhau, “Enghraifft ragorol o sut rydym ni’n integreiddio dylunio amgylcheddol gynaliadwy yn PDR fyddai un o’n prosiectau cyntaf ar becynnu. Daeth cleient atom ni gyda’u cynnyrch presennol a oedd yn cynnwys pecynnu a oedd yn swmpus iawn ac yn cynnwys llawer o ddeunyddiau nad oedden nhw’n hawdd eu hailgylchu. Ein hateb ni oedd creu rhywbeth a oedd yn hawdd ei ailgylchu, lle gallai’r deunyddiau fynd i rywle ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â lleihau’r maint yn aruthrol. Mae lleihau’r maint yn golygu y gall mwy o nwyddau ffitio mewn cratiau i’w cludo sydd yn ei dro yn gallu lleihau tanwydd ar gyfer cludiant. Nid yn unid oedd y cynnyrch terfynol yn fwy cynaliadwy drwyddi draw, ond llwyddodd hefyd i leihau cost cynhyrchu’r pecynnu’n fawr iawn i’r cleient.”

Beth yw manteision cyfuniad ymchwil a gwaith masnachol PDR?

Un o fanteision cyfuniad PDR o ymchwil a gweithgareddau masnachol yw ein bod yn gallu cymryd rhan mewn prosiectau dylunio sy’n caele u harwain gan gynaladwyedd amgylcheddol sy’n gallu trosi’n hawdd yn ddyluniadau cysyniad.

“Fel arfer, mae ymchwil yn canolbwyntio ar bethau sy’n digwydd yn y dyfodol, felly yn aml bydd yn ceisio dyfeisio atebion TRL (Lefel Parodrwydd Technoleg) isel iawn i heriau adnoddau’r dyfodol,” mae Katie B. yn esbonio. “Yn aml bydd ymchwilwyr yn gweithio reit ar ymyl beth rydym ni’n ei wybod ar hyn o bryd, ond mae hynny’n cynnig ysbrydoliaeth arbennig am syniadau newydd a chysyniadau ar gyfer y dyfodol. Enghraifft dda o hynny oedd prosiect o’r enw Prestige, a ariannwyd gan European Horizon 2020, a edrychodd ar ddyfodol cynaliadwy wedi’i yrru gan ddeunyddiau electronig printiedig.

“Roedd un o’r astudiaethau achos yn ymwneud â moduron a’r syniad oedd y gallech chi ychwanegu swyddogaethau at olwynion llywio mewn ceir gydag electroneg brintiedig. Ond arweiniodd hynny i ni feddwl am heriau beth sy’n digwydd pan fydd pethau’n torri. Ydych chi jest yn derbyn nad yw’r olwyn lywio’n ddeallus bellach am fod y strwythur mor gymhelth? Neu ydych chi’n meddwl am sut allai gael ei ddatgymalu a sut allech chi o bosibl disodli rhannau? Dyna ddechrau cysyniad y bu’n dylunwyr y gweithio arno, sy’n cael ei alw’n Cercle – olwyn lywio sy’n cael ei dylunio ar gyfer economi fwy cylchol”.

Mae Cercle yn enghraifft berffaith o sut mae ymchwil yn trosi’n ddylunio cysyniad yn PDR. Mae Katie B. yn sôn hefyd, “Os cawsom ein cyflwyno i rywbeth nad oes gennym ni lawer o ymchwil arno eto, byddwn ni’n derbyn yr her a hyd yn oed yn gwneud tipyn o waith yn fewnol!

“Yn ddiweddar gwnaethom ni weithdy gyda myfyrwyr o Met Caerdydd. Gosodom ni her ddylunio 24-awr iddyn nhw lle edrychom ni ar PPE ac arweiniodd y syniadau a ddeilliodd o hynny at gysyniad o’r enw Umiko, masg wyneb sy’n cael ei ddylunio i leihau gwastraff a sbwriela, mater a gafodd ei godi yn ystod pandemig COVID-19.”

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cysyniad a realiti?

Yn fyr, y cysyniad yw’r ateb sy’n ddelfrydol ym meddwl dylunwyr; realiti yw’r hyn sy’n cael ei greu ar ôl ymdrin â’r cyfyngiadau sy’n dod i’r amlwg yn anochel. Fel y dywed Katie B., “Pan ddatblygwn ni gysyniad, fel arfer bydd hynny ar ddechrau un rhywbeth, does dim llawer o wybodaeth gennych chi”.

Mae Katie Forrest Smith yn pwysleisio ei bod yn bwysig peidio â chael eich cyfyngu gan beth sy’n bosibl ar hyn o bryd, ac i “greu cysyniadau sy’n chwarae gyda deunyddiau newydd nad ydyn nhw’n fasnachol hyfyw ar hyn o bryd”. Drwy ddilyn yr ymagwedd hon gyda deunyddiau’r dyfodol sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy a chroesawu’r rhyddid mae’r broses dylunio cysyniad yn ei ganiatáu, mae “lle i fod yn greadigol a meddwl tu allan i’r bocs sydd yn ei dro yn amlygu pa rai o’r syniadau hynny all gael eu trosi wedyn yn brosiectau yn y byd go iawn.”

Mae Katie B. yn cytuno. “Mae cysyniadau amgylcheddol gynaliadwy yn ymwneud llawer mwy â phennu cyfeiriad na nag â chreu rhywbeth a fydd yn gweithio allan o’r bocs – ac nid yn unig i’r dylunwyr. Mae cysyniadau da yn gallu ysbrydoli gwyddonwyr a thechnolegwyr i greu’r deunyddiau a fydd yn gadael iddyn nhw ddod yn realiti – dyna faes ymchwil rydyn ni’n ei alw’n arloesi deunyddiau dan gymhelliant dylunio. Felly mae cysyniadau da bron yn llwybr tuag at ddyfodol gwell”.

Mae cysyniadau da yn gallu ysbrydoli gwyddonwyr a thechnolegwyr i greu’r deunyddiau a fydd yn gadael iddyn nhw ddod yn realiti – dyna faes ymchwil rydyn ni’n ei alw’n arloesi deunyddiau dan gymhelliant dylunio. Felly mae cysyniadau da bron yn llwybr tuag at ddyfodol gwell.

Dr Katie Beverley | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR

Sut ydym ni’n symud o gysyniad i realiti?

Y symud o gysyniad i realiti yw ble mae’r olwynion yn dechrau troi o ddifri ac mae’r rhan fwyaf o’r gwaith caled yn cael ei wneud. Yn y pen draw, y nod yw troi cysyniad yn rhywbeth ffisegol sy’n gallu cael ei wireddu gyda deunyddiau, prosesau a thechnolegau heddiw. Er na fydd cyfran fawr o gysyniadau byth yn gweld golau dydd, nid yw Katie B. a Katie Forrest Smith yn credu y dylai hyn gael ei ystyried yn broblem. “Mae’r cysyniadau gorau yn cynnig man cychwyn ysbrydoledig, er y bydd cyfaddawdau yn anochel wrth iddi ddod yn amlwg nad oes modd gwireddu rhai cysyniadau, mae gan y dylunwyr gorau oll yn ein tîm masnachol y sgiliau i drosi rhai o’r cysyniadau hynny’n atebion ardderchog yn y byd go iawn.”

Y camau nesaf

Dysgwch fwy am ein gwaith a chysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni.