The PDR logo
Ebr 01. 2021

Dylunio Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol: Sut i’w gael yn iawn y tro cyntaf

Er bod y rhan fwyaf ohonom yn treulio 99% o’n diwrnodau’n defnyddio ‘rhyngwyneb defnyddiwr graffigol’ sgriniau, nid ydym fel arfer yn oedi i feddwl sut mae’r cyfan wedi’i ddylunio a’i roi at ei gilydd.

Mae’r un peth yn wir am ddyfeisiau meddygol, neu ffyn ffrydio teledu, neu hyd yn oed y sgriniau mewn alïau bowlio – er y gwahaniaeth mawr rhyngddynt o ran modernedd, mae’r rhain oll wedi’u dylunio i gael eu defnyddio ac i ni ryngweithio â nhw mewn rhyw ffordd benodol.

A chyda’r fath amrywiaeth o gynhyrchion angen yr un gyfres o egwyddorion dylunio, sut gallwn ymdrin â dylunio rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (GUI) mewn ffordd sy’n gwrthbwyso risg ac yn ei gael yn iawn ar gyfer y lansio? Mae Alistair Ruff, Arweinydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn PDR, yn egluro mwy.

ARCHWILIO ANGHENION DEFNYDDWYR AR GYFER CYNNYRCH

“Yn aml iawn, pan fyddwn ni’n dylunio, ac yn arbennig ar gyfer dyfeisiau meddygol, mae cynhyrchion yn cyrraedd gyda manyleb cynnyrch neu fanyleb defnyddiwr – sef yr hyn y mae rhywun yn y tîm gwerthiant neu’r tîm peirianneg yn credu y dylai pobl allu ei wneud gyda’r ddyfais hon. Dyna pryd rydyn ni’n mynd i siarad â’r bobl sy’n defnyddio’r ddyfais hon er mwyn canfod a yw’r fanyleb yn cyd-fynd â’r hyn maen nhw’n ei wneud. Ein prif flaenoriaeth yw deall, yn y lle cyntaf,” eglura Alistair.

Gallai hyn gychwyn gyda gwaith ymchwil arsylwadol. “Rydyn ni wedi bod i mewn i theatrau llawdriniaeth a gwylio staff yn defnyddio’r dyfeisiau fel y gallwn weld sut maen nhw’n symud o amgylch yr ystafell ac yn ymwneud â’r gwahanol bethau. Mae’n ein helpu i ddeall sut mae’r cynnyrch penodol hwn yn cyd-fynd â’r llif gwaith hwnnw.”

Ond gallwch wneud yr un fath y tu allan i ddyfeisiau meddygol. “Meddyliwch am feddalwedd office. Os ydych am ddylunio rhaglen feddalwedd newydd ar hyn o bryd, dewch o hyd i rywle lle mae pobl yn parhau i ddefnyddio taenlenni Excel, oherwydd does neb wedi datrys y broblem honno mewn gwirionedd. Treulio diwrnod yn eistedd drws nesaf i rywun sy’n gwneud gwaith swyddfa a chanfod beth sy’n achosi cur pen – dyna sut rydyn ni’n dechrau deall y broblem.”

Fel gyda’r holl ddylunio yn PDR, deall y ffordd y mae defnyddiwr yn gweld y byd yw’r cam cyntaf yn y broses o ddylunio cynnyrch. Meddai Alistair, “Byddai eistedd a dylunio cynnyrch ar gyfer unigolyn heb fynd ati yn gyntaf i ddeall yr unigolyn a fydd yn ei ddefnyddio yn syniad gwael iawn – mae’r ffordd rydw i’n deall yr wybodaeth maen nhw’n ei defnyddio o ddydd i ddydd yn gwbl wahanol.”

SICRHAU CYDBWYSEDD RHWNG ESTHETEG AC YMARFEROLDEB

Mae dylunio GUI gwych yn golygu ystyried yr holl ffactorau posibl pan fo rhywun yn ei ddefnyddio. I Cooltone, roedd iaith y brand eisoes yn bodoli o’r prosiect CoolSculpting – ond yn aml iawn caiff y rhain eu defnyddio ar gyfer cymwysiadau digidol neu brint, ac nid ydynt o reidrwydd yn trosi i gynnyrch ffisegol newydd.

“Y lliw a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer y sgrin oedd gwyn, er mwyn cyd-fynd ag iaith y brand, - ond o ran hwylustra defnyddio, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ei ddylunio ar gyfer sgrin du. Roedd yn rhaid i’r prif liwiau – glas golau, aur – fod yn amlwg ac yn hygyrch yn weledol.”

“Roedd yn rhaid i ni feddwl am adlewyrchiadau hefyd,” ychwanegodd Alistair, “oherwydd ei fod yn sgrin wydr fawr – dydych chi ddim am gael cefndir gwyn gydag elfennau aur ac yna cael yr haul yn adlewyrchu arno. Mae hynny’n enghraifft dda o ble mae’r GUI a’r ddyfais ffisegol yn gorgyffwrdd.”

DILEU RISG WTH DDYLUNIO GUI - 3 CHAM

Yr hyn sy’n allweddol i’w gofio, eglura Alistair, yw “na fydd y dyluniad byth yn hollol gywir y tro cyntaf” – os ydych chi’n ystyried fersiwn gyntaf y cynnyrch ‘am y tro cyntaf’. Dyna pam bod gwneud gwaith ymchwil, dadansoddi a phrofi trylwyr gyda defnyddwyr yn allweddol; er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn ‘iawn’ ar gyfer ei lansiad swyddogol.

1 - Cynnwys defnyddwyr gydol y broses

Ar gychwyn y prosiect, rydych chi’n gwneud mwy o waith ymchwil darganfod, yn ceisio deall pobl. Ac yna tua’r diwedd, mae gennych chi lawer mwy o ran yn dilysu penderfyniadau dylunio, felly mae angen i chi esblygu’r ffordd rydych chi’n cynnwys defnyddwyr yn y broses.

2 - Bod yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei brofi ar bob cam

Mae dangos braslun i rywun a gofyn iddynt ddangos i chi sut byddant yn ei ddefnyddio, yn rhoi adborth gwahanol iawn i chi i brototeip rhyngweithiol deniadol o’r un dyluniad rhyngwyneb. Mae pobl yn pwyllo i raddau cyn awgrymu newidiadau sylfaenol i bethau sy’n edrych yn ‘orffenedig’ ond gallant roi adborth llawer mwy clir ar e.e. a yw’r arddull weledol yn briodol. Byddwch yn ymwybodol y bydd y ffordd rydych chi’n cyflwyno’r dyluniad i bobl yn cael effaith ar eu hadborth a dylid cynllunio yn unol hynny er mwyn sicrhau eich bod yn ateb y cwestiynau sydd angen eu hateb.

3 - Deall y broblem rydych chi’n ceisio ei datrys (a pheidio â chanolbwyntio ar yr ateb)

O’r gwaith ymchwil sylfaenol cychwynnol, i’r gwaith ymchwil eilaidd ac i’r camau profi, dylech geisio deall beth rydych chi’n gobeithio ei ddatrys.

Gallwch ddysgu mwy am waith PDR neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.