The PDR logo

Profiad CoolSculpting

ALLERGAN

Mae CoolSculpting® yn driniaeth flaenllaw lleihau braster yn anymwthiol, sy’n helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus gyda’u cyrff.

Daeth Coolsculpting atom i:

1: Cynnal eu twf cyflym yn UDA a thramor

2. Cynyddu boddhad cleifion ar draws holl brofiad y driniaeth

I ymateb i heriau Coolsculpting, datblygomni gynllun ymchwil i ddeall amcanion y busnes ar draws gwahanol randdeiliaid a chipio profiad presennol cleifion a chlinigwyr. Yna galluogodd hyn i ni nodi cyfleoedd cynnyrch a gwasanaethau i wella’r profiad a bodloni nodau’r busnes.

DEALL BUSNES A MARCHNADOEDD RHYNGWLADOL

Roedd dealltwriaeth ryngwladol o’r busnes yn hanfodol i nodi’r gwahanol farchnadoedd o amgylch y byd. Nodau allweddol ein hymchwil oedd nodi sut roedd y busnes yn gweithredu yn yr ardal a beth oedd heriau unigryw’r farchnad. Roedd ein dull yn cynnwys mynychu hyfforddiant clinigol llawn, a gweithdai ymchwil cydweithredol gyda staff gweithredol a gwerthu mewn gwledydd gwahanol. Trwy hyn, casglom ni wybodaeth am y farchnad i baentio darlun o ganfyddiad y pencadlys o Coolsculpting beth yw profiad staff ohono yn y maes.

DEALL PROFIAD Y CWSMER

Mae gan Coolsculpting ddau grŵp cwsmeriaid craidd, clinigwyr sy’n prynu’r ddyfais ac yn cyflenwi’r triniaethau, a chleifion sy’n derbyn y triniaethau. Nododd ymholiadau cyd-destunol mewn clinigau ledled y byd y camau trin mae cleifion yn mynd trwyddynt, yr amgylcheddau mae’r cynhyrchion yn cael eu gweithredu ynddynt, ac ymagweddau a blaenoriaethau clinigwyr gwahanol, Mapiom ni brofiadau rhyngweithiau pob grŵp cwsmeriaid â Coolsculpting a chyfunor’r data hwn â chyfweliadau o bell â chleifion a chanlyniadau arolygon i nodi’r pwyntiau allweddol ynglŷn â phrofiad Coolsculpting.

ARLOESI CYNNYRCH A GWASANAETHAU

O ganlyniadau’r ymchwil, nodom y cyfleoedd am ymatebion cynyddrannol a gweddnewidiol i wella profiad Coolsculpting. Ffurfiodd ein tîm dylunio amlddisgybiaeth gyfleoedd busnes, cynnyrch a gwasanaeth newydd mewn cydweithrediad â thîm Coolsculpting. Yna ymgorfforwyd y rhain mewn cynllun arloesol i chwyldroi dyluniad gwasanaeth a chynhyrchion Coolsculpting ac AbbVie, portffolio ehanagch eu cwmni rhiant.

Enghraifft o’r gwaith hwn yw dyfais Cooltone sy’n ymgorffori’r iaith ddylunio newydd a ddatblygwyd gan PDR.

Dewch i Drafod

Cysylltu