The PDR logo
Medi 03. 2021

Sut y gall Dylunio Helpu Busnesau Newydd

Mae arloesi’n digwydd o fwriad. Mae busnesau newydd yn cystadlu i argyhoeddi buddsoddwyr bod eu cysyniad a'u model busnes yn cynnwys yr arloesedd sy'n angenrheidiol i gyflawni'r twf uchel a'r enillion ar fuddsoddiad sydd eu hangen i wneud iawn am y risg uwch sy'n gysylltiedig â mentrau cychwynnol.

Mae PDR wedi cefnogi cannoedd o sefydliadau yn y cyfnodau cynnar hyn wrth iddynt geisio buddsoddiad a chefnogaeth. Mae ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Jarred Evans, yn trafod ein dull.

“Yn syml, mae dylunio’n helpu busnes newydd i wireddu ei weledigaeth,” eglura Jarred.

“Dyma sut y datblygir cynnyrch neu wasanaeth hyd at fan lle gall gael yr effaith a ddymunir, boed hynny mewn cymhwyster masnachol neu gymdeithasol.

“Mae gan bob busnes newydd weledigaeth wahanol, felly mae angen dull pwrpasol. Nid oes unrhyw ddau fusnes newydd fyth yr un fath. ”

Cred Jarred y gall dylunio da hybu neu ddifetha apêl busnes newydd i fuddsoddwyr.

“Yn sicr, mae dylunio’n rhoi hwb sylweddol i fusnesau newydd,” esbonia. “Arian yw’r olew sy’n gwneud i beiriant arloesi weithio. Mae perswadio pobl i fuddsoddi’n dibynnu ar allu sefydliad i sicrhau pobl y bydd eu gweledigaeth yn cael ei chyflawni, y deellir y risgiau a'u bod yn cael eu rheoli, ac y bydd y gwaith caled a'r adnoddau a gaiff eu cyfrannu yn dod ag elw.”

 Jarred yn ei flaen: “Dyna lle gall dylunio helpu. Yn PDR, rydyn ni’n gwneud hynny trwy broses ddylunio ddibynadwy, cam wrth gam, sy'n symud yn rhesymegol, o’r cyfnod meddwl cynnar, mwy cysyniadol, yr holl ffordd hyd at gynhyrchu a lansio.

Yn syml, mae dylunio’n helpu busnes newydd i wireddu ei weledigaeth.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR

Mae rheoli risg yn allweddol, a ffordd sylfaenol o wneud hyn a chyfathrebu â marchnadoedd a buddsoddwyr yw trwy brototeipio a delweddu. Mae creu cynhyrchion, rhyngwynebau neu wasanaethau na ellir yn aml dweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a’r cynnyrch terfynol yn ffordd hynod bwerus o gyfleu effaith bosibl y dechnoleg neu'r syniad sy'n cael ei ddatblygu i fuddsoddwyr a marchnadoedd.”

“Er y gall dylunio fod yn elfen wrth sicrhau buddsoddiad, ceir llawer o risgiau a rhwystrau eraill sy’n golygu nad yw busnesau newydd yn sicrhau buddsoddiad,” meddai Jarred.

“Mae perchnogaeth yn rhan fawr o hyn. Mae'r rhai sy'n llwyddo’n tueddu i fod yn rhai sydd nid yn unig â'r dycnwch, y penderfyniad a'r ddawn i wneud i bethau ddigwydd, ond yn rhai sydd hefyd yn cydnabod lle mae angen cymorth arnyn nhw.

“Yn aml, mae buddsoddwyr yn buddsoddi yn y person a’r tîm yn fwy na’r cynnyrch neu’r gwasanaeth.”

Felly, sut mae PDR yn ychwanegu gwerth? Eglura Jarred: “Rwy'n credu mai drwy ein profiad helaeth a'n dealltwriaeth o'r heriau masnachol a marchnad ehangach yr ydyn ni'n ychwanegu gwerth yn arbennig, yn ogystal â'r daith y mae angen i lawer o fusnesau newydd fynd arni i gyrraedd llwyddiant ar y llwyfan byd-eang.”

“Byddwn yn annog unrhyw fusnes newydd i gysylltu â PDR i ddeall faint o wahaniaeth y gall cydweithredu â ni ei wneud.”

Eisiau dysgu rhagor am sut y gall PDR helpu eich busnes newydd i lwyddo? Cymerwch gipolwg ar ein gwaith, neu cysylltwch â ni.