The PDR logo
Maw 08. 2022

Sut i ymgorffori meddylfryd dylunio’n llwyddiannus mewn sefydliad

Term ymbarél yw ‘meddwl dylunio’ ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl, sy’n gydweithredol ac sy’n defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar weithredu. Wrth ei wraidd, mae ymgorffori meddylfryd dylunio mewn sefydliad yn ymwneud â meithrin y gallu ar gyfer dylunio - a chreu diwylliant lle gall holl aelodau'r tîm ddefnyddio'r adnoddau ar gyfer dylunio a chreadigrwydd.

Ond mae ei ymgorffori'n gywir ac yn llwyddiannus mewn sefydliad yn cymryd amser a gwaith datblygu. I gael gwybod mwy, cawn sgwrs â Piotr, Rheolwr Prosiect ac Ymchwilydd, i ddarganfod sut y gall sefydliadau fabwysiadu dulliau newydd ac arloesol ar gyfer 'meddwl dylunio'.

“Yn y pen draw, mae'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'feddwl dylunio' yn addo ffordd wahanol o gyflwyno a datrys problemau sy'n dechrau gyda defnyddwyr a'u profiadau, ac sy’n datblygu trwy brototeipio ailadroddol a chamau dylunio pellach,” eglura Piotr.

Ond mae'n bwysig mynd at fethodoleg a phrosesau dylunio â disgwyliadau realistig; nid “ateb cyflym a hudol” ydyw, eglura Piotr. “Os ydym yn cyflwyno meddwl dylunio mewn ffordd dda ac yn egluro'r broses, gallwn greu canlyniadau a buddion pendant i sefydliadau.”

Os ydym yn cyflwyno meddwl dylunio mewn ffordd dda ac yn egluro'r broses, gallwn greu canlyniadau a buddion pendant i sefydliadau.

Piotr Swiatek | RHEOLWR PROSIECT | PDR

Felly, beth yw'r manteision? Trwy gynnwys meddwl dylunio mewn sefydliad, mae'n golygu y gall timau ddysgu gwerth yr hyn y gall dylunio ei gynnig. Byddant yn deall ble y gallan nhw gymhwyso dulliau ac adnoddau creadigol dylunio eu hunain - ac, yn bwysig, byddant hefyd yn dysgu pryd i ddod â gweithwyr dylunio proffesiynol i mewn i'w helpu i ddatrys unrhyw heriau.

“I mi, mae meddwl dylunio’n ddull defnyddiol iawn oherwydd mae'n rhoi'r adnoddau ar gyfer creadigrwydd yn nwylo pobl na fyddent fel arfer yn disgrifio eu hunain yn bobl greadigol. Mae wedi cael ei fabwysiadu mewn ystod eang o gyd-destunau; busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, arloesi cymdeithasol. Mae pob un ohonynt yn sefyllfa lle gall pobl nad ydynt yn ddylunwyr ddefnyddio agweddau a dulliau dylunio.”

Yn bwysig, mae defnyddio meddwl dylunio’n helpu i feithrin diwylliant o ddylunio mewn sefydliad, ac yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar werth dull dylunio lle caiff ei gymhwyso - a gall helpu i feithrin dulliau cydweithredol, amlddisgyblaethol ar draws sawl adran.

Felly dyna’r ‘pam’ - beth am y ‘sut’? Sut ydyn ni’n ymgorffori meddwl dylunio mewn cwmni neu dîm go iawn?

“Mae hyfforddiant yn ffordd wych o'i ymgorffori,” meddai Piotr. “Mae hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynghylch pam mae hyn mor hanfodol. Mae defnyddio hwyluswyr profiadol yn golygu y gallwch drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i'ch timau’n effeithiol. Dylai'r hyfforddiant fod yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol, er mwyn profi gwerth dylunio a'i ddull yn uniongyrchol, ac mae angen iddo osgoi jargon, er mwyn cyfleu manteision dylunio yn y ffordd orau.”

Mae PDR yn cynnig casgliad eang o sesiynau hyfforddi - o sesiynau blasu byr i sesiynau 'hyfforddi'r hyfforddwr' mwy manwl a thrylwyr, sy'n helpu i greu llysgenhadon o fewn sefydliad sydd wedyn yn gallu arwain gweithdai a meithrin gallu ymhellach.

“Mae hi hefyd yn bwysig bod yr hyfforddiant yn berthnasol i'r sefydliad. Fel arfer, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar brosiectau go iawn yn y sefydliad, felly rydym yn archwilio'r hyn y maent yn gweithio arno a'r heriau y maent yn eu hwynebu; yna gallwn gymhwyso'r broses hon a chyflwyno hyfforddiant ar her fyw,” eglura Piotr.

Mae hyfforddiant yn ffordd wych o'i ymgorffori, mae hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynghylch pam mae hyn mor hanfodol.

Piotr Swiatek | RHEOLWR PROSIECT | PDR

Mae prosiectau cyfnewid gwybodaeth neu hyfforddi’n llwybr arall i feithrin gallu dylunio.

“Un enghraifft o feithrin gallu dylunio trwy hyfforddiant oedd ein prosiect gyda Chyngor Sir Essex; roedd hwn yn un o'n prosiectau meithrin gallu mwy ymdrochol a fu'n rhedeg am gyfnod hirach. Fe wnaethom dywys eu gweision sifil trwy broses 3 mis o hyd, gan ddatblygu'r holl adnoddau a deunyddiau’n arbennig ar eu cyfer. Wedi hynny, roeddem wrth ein boddau’n eu gweld ym mhob cynhadledd 'dylunio gwasanaeth yn y llywodraeth' yn trafod sut y gwnaethant ddatblygu eu gallu a'u hadnoddau dylunio.

“Fe wnaethant sefydlu eu blog Service Transformation eu hunain hefyd, yn debyg i flogiau dylunio Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU. Mae eu prosiect nhw’n astudiaeth achos sy’n fy ngwneud i'n hynod falch o weld sut mae meddwl dylunio wedi tyfu yn eu sefydliad a'u helpu nhw i ddatblygu agweddau arloesol at ddylunio.”

CAMAU NESAF

Os ydych chi’n rhan o sefydliad sy’n ystyried mabwysiadu meddwl dylunio, cysylltwch â ni.