The PDR logo

Cymorth Meddwl Dylunio

CYNGOR SIR ESSEX

Gweithiom ni gyda Chyngor Sir Essex (ECC) i adeiladu capasiti am feddwl dylunio ymhlith uwch gynghorwyr a chomisiynwyr i godi ymwybyddiaeth o’r dull a chreu eiriolwyr dros yr ymagwedd o fewn y cyngor.

Datblygom ni raglen ddysgu gymhwysol o bedwar gweithdy ar sail y broses ddylunio i sicrhau trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau’n effeithlon yn y prosiect hwn. Canolbwyntiodd sesiynau ymarferol ar thema gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yn Harlow gan ddigwydd mewn cyd-destun bywyd-go-iawn i roi profiad uniongyrchol i ECC o gymhwyso dulliau dylunio y byddant yn gallu eu defnyddio yn y dyfodol. Canolbwyntiodd y gweithdai ar archwilio egwyddorion dylunio, casglu barn defnyddwyr, cyd-greu atebion gyda defnyddwyr, a chynllunio arferion profi prototeip.

ARCHWILIO

Roedd dwy sesiwn yn y cyfnod archwilio, sef:

• Tŷ Gwydr – gweithdy cyflwyniadol, ‘sbrint dylunio’ i godi ymwybyddiaeth, a
• gweithdy Plymio Dwfn, lle edrychwyd yn fanwl ar yr her gyda disgyblion o ddwy ysgol yn Harlow. Drwy gael cipolwg ar anghenion, profiadau a threfniadau rheolaidd dyddiol disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, roedd ECC yn gallu nodi’r cymhelion a’r rhwystrau i weithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yn Harlow.

ATEBION NEWYDD

Roedd ail gyfnod y broses ddylunio yn ymwneud â chreu atebion newydd i’r anghenion a’r problemau a nodwyd drwy’r ymchwil gyda defnyddwyr. Cyflwynwyd yr hyfforddiant am y cyfnod ‘Manylu’ mewn dwy sesiwn:

• Gweithdy Cyd-greu – gyda nod i ehangu’r gallu i greu cysyniadau newydd gyda defnyddwyr a’u mireinio.
• Gweithdy Prototeipio – pan ddysgodd ECC sut i droi cysyniadau yn wasanaethau hydrin, a all gael eu prototeipio, eu profi a’u mireinio ymhellach gyda defnyddwyr; yn ogystal â sut mae defnyddio ‘procio’ i gysyniadu goblygiadau’r gwasanaeth neu’r syniadau polisi yn y dyfodol.

Cymhwysiad methodolegau meddwl dylunio a ddatblygwyd yn broffesiynol ac a weithredwyd yn ymarferol.

UWCH SWYDDOG POLISI | CYNGOR SIR ESSEX

Dewch i Drafod

Cysylltu