The PDR logo
Ebr 23. 2021

Creu’r CoolSculpting Elite, y genhedlaeth nesaf mewn systemau diffinio amlinellau’r corff

Cysylltodd y cwmni Americanaidd Allergan – cleient i PDR ers amser maith – â ni gyda her ddifyr: dylunio systemau diffinio amlinellau’r corff cryolipolysis y genhedlaeth nesaf. Roedd y tîm, sydd â dau ddegawd a mwy o brofiad o ddatblygu dyfeisiau meddygol, yn fwy na pharod i ymateb i’r her.

Mae cryolipolysis yn ffordd o rewi braster mewn dull wedi’i dargedu heb lawdriniaeth sy’n helpu i gael gwared â rhannau styfnig o fraster sy’n parhau ar ôl mynd ar ddeiet a gwneud ymarfer corff. Mae dyfais CoolSculpting Allergan yn arweinydd yn y farchnad hon ers 10 mlynedd a mwy, ond roedd angen cynnyrch y genhedlaeth nesaf er mwyn cadw ei statws.

Gan weithio gyda thimau peirianneg Allergan, dyluniodd PDR gynnyrch newydd Allergan sef yr Allergan CoolSculpting Elite.

Yma, mae Jarred Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr PDR, yn trafod dull gweithredu’r tîm a chanlyniadau’r prosiect dylunio arloesol hwn.

SUT WNAETH PDR FYND ATI I DDYLUNIO’R COOLSCULPTING ELITE?

Cafodd PDR y dasg o ddylunio cynnyrch a oedd yn teimlo’n newydd sbon, gan adeiladu ar enw da Allergan am beirianneg o ansawdd.

“Cyn dechrau ar y dylunio, cynhaliwyd astudiaeth fanwl fyd-eang helaeth, a roddodd ddealltwriaeth gadarn i ni o’r heriau a oedd yn wynebu defnyddwyr,” eglura Jarred.

"Yn dilyn yr astudiaeth, fe wnaethom ni ailddylunio’r ddyfais Cool Sculpting yn gyfan gwbl, gan fynd ati i bob pwrpas i gychwyn o’r cychwyn unwaith eto. Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ddefnyddwyr, dechreuom gyda phroses ddylunio gysyniadol, cyn modelu, creu prototeip a threialu CoolSculpting Elite gyda chronfa o ddarpar ddefnyddwyr.”

ANSAWDD

Roedd adeiladu cynnyrch cadarn o ansawdd uchel yn flaenoriaeth glir. "Roedden ni angen creu cynnyrch a oedd yn wych o safbwynt technegol," meddai Jarred.

"O gofio bod clinigau preifat yn defnyddio CoolSculpting Elite fel ffynhonnell sylweddol o incwm, roedd yn hanfodol ein bod yn ei ddylunio i bara."

HUNANIAETH WELEDOL

Nid sicrhau oes hir i’r cynnyrch oedd unig ffocws PDR wrth ddylunio: "Pan fyddwch chi’n dylunio unrhyw gynnyrch, mae deall pwy rydych chi’n ei ddylunio ar ei gyfer yn gwbl hanfodol. Mae cwsmeriaid CoolSculpting Elite yn glinigau yn rhan uchaf y farchnad felly roedd yn bwysig cael yr hunaniaeth weledol yn berffaith."

Roedd y tîm angen datblygu dyluniad gweledol a oedd yn cyfathrebu arbenigedd gwyddonol Allergan gan sicrhau ei fod hefyd yn cyd-fynd â safle clinig cosmetig. "Mae’r cynnyrch wedi’i ddylunio i edrych yn fodern a chynnes,” eglura Jarred.

“Mae dyluniad y bluen eira wen ar flaen y ddyfais yn cyd-fynd â’r brand CoolSculpting ac mae’n gweithredu fel cloc i gyfrif y munudau nes i sesiwn cryolipolysis ddod i ben hefyd.”

NODWEDDION NEWYDD

Oherwydd dull a oedd yn canolbwyntio ar y cwsmer, aeth PDR ati i addasu nodweddion er mwyn gwella profiad y defnyddiwr. Fel yr eglura Jarred: "Fe wnaeth safbwyntiau defnyddwyr nodi’r angen i leihau maint a phwysau’r CoolSculpting Elite drwy addasu’r mecanwaith oeri ei hun."

Yr hyn a oedd ar flaen ein meddyliau oedd creu rhywbeth a oedd yn hawdd i’w ddefnyddio, felly mae sawl nodwedd gywasgedig newydd wedi’u cyflwyno, fel hambwrdd trin a blaenau taenwyr y gellir eu gosod gydag un glic.

"Yn hanfodol," meddai Jarred, "mae gan y dyluniad ddau daenwr, gan ddyblu capasiti trin y cynnyrch i bob pwrpas. Mae hynny’n gwneud y CoolSculpting Elite yn ddyfais bwerus ac effeithlon."

BETH OEDD Y CANLYNIADAU?

Lansiwyd y cynnyrch CoolSculpting Elite yn gynnar yn 2021 ac mae gwerthiant yn ffynnu.

Creda Jarred fod y taenwr ychwanegol yn egluro poblogrwydd y cynnyrch gyda chwsmeriaid: “Mae dyblu’r gallu trin yn golygu dwbl y gallu masnachol. Mae hynny’n newyddion da I gwsmeriaid gan y byddan nhw’n gweld hyd yn oed mwy o elw ar eu buddsoddiad,

“Y ffordd orau o fesur llwyddiant prosiect yw’r farchnad ac rydyn ni’n falch o’r canlyniadau rydyn ni wedi helpu Allergan i’w sicrhau.”

CAMAU NESAF

Eisiau gwybod mwy am ddatblygu dyfeisiau meddygol gyda PDR? Darllenwch ein hastudiaeth achos CoolSculpting Elite, neu cysylltwch i drafod prosiect.