The PDR logo

CoolSculpting Elite

Allergan

Mae technoleg CoolSculpting yn defnyddio proses o’r nw cryolipolysis. Mae CoolSculpting yn gweithio drwy oeri celleodd braster sy’n cael eu targedu yn y corff i sbarduno dileu celloedd braster yn naturiol, dan reolaeth, gan ddileu braster yn barhaol o’r corff heb yr angen am lawdriniaeth ymwthiol. Er iddo barhau i arwain y diwydiant, ac wedi’i sefydlu mewn clinigau ledled y byd, roedd y cynnyrch craidd yn hen ac roedd cystadleuaeth yn cynyddu ar garlam.

Mabwysiadwyd safbwynt cryf y claf a’r cwsmer i ddelio â her diffinio a datblygu platfform y genhedlaeth nesaf. Cynhaliwyd rhaglen ymchwil a dealltwriaeth eang ar draws cwsmeriaid, cleifion a staff CoolSculpting yn fyd-eang. Cynhaliwyd gwaith arsylwi, astudiaethau dyddiadur, cyfweliadau manwl a gweithdai archwiliadol ar draws tri chyfandir a channoedd o gwsmeriaid, defnyddwyr a staff.

Y ddirnadaeth o ganlyniad i’r gwaith hwn oedd sylfaen map helaeth o gynhyrchion a gwasanaethau’r dyfodol i fod yn sail i weithgarwch datblygu CoolSculpting yn y dyfodol.

Ar sail y sylfaen hon a chysylltiad â defnyddwyr, dechreuodd waith dylunio gyda safbwynt eglur ar ystod eang o ddatblygiadau ac arloesiadau ar gyfer system CoolSculpting newydd.

Gan weithio’n agos gyda’r timau mewnol yn California, aeth y gwaith dylunio cysyniadol yn ei flaen yn gyflym. Edrychwyd ar iaith ddylunio newydd am ystod newydd o gynhyrchion ochr yn ochr â defnydd helaeth ar brototeipiau ffyddlondeb isel a modelau a ganiataodd i rychwant eang o randdeiliaid gymryd rhan a chyfrannu at y broses ddylunio a lleihau risg.

Efelychodd y datblygiad cyflym hwn a’r defnydd ar brototeidio a brasfodelau ymarferoldeb, rhyngweithrediadau ac ymddygiad ac roedd yn hanfodol i gydweitherdiad byd-eang llyfn timau aml-ddisgyblaeth a oedd yn angenrheidiol ar gyfer datblygiad llwyddiannus.

Roedd prynu CoolSculpting gan gwmni fferyllol meddyiniaeth aestheteg pennaf y byd yn arwydd o’r symudiad i mew i ddyfeisiau meddygol a chyfuniad. Roedd yn hanfodol bod dyluniad a gweithrediad CoolSculpting Elite yn adlewyrchu nid yn unig ei safle ar flaen y diwydiant ond hefyd y manylrwydd, hygrededd gwyddonol a dibynadwyedd sy’n gynhenid o fewn y cwmni rhiant adnabyddus iawn.

Gwnaed gwaith helaeth i ddiffinio’r gwerthoedd unigryw o fewn CoolSculpting a’i berthynas a’i gynrychiolaeth o fewn ymbarel ehangach eu cwmni fferyllol. Y gwerthoedd craidd hyn sef Arwain, Dewr, Effeithiol, Ansawdd a Phersonol a ffurfiodd sylfeini set o egwyddorion a hybodd yr estheteg ddylunio ac iaith y cynnyrch ffisegol ond a dreiddiodd hefyd trwy gydol y rhyngweithredu a dyluniad am brofiad y defnyddiwr, y cynnig gwasanaeth ehangach ac iaith y cynnyrch.

PROFIAD CLEIFION.

Mae CoolSculpting Elite yn gweithredu mewn practisau esthetig a chlinigau’n fyd-eang ac mae angen iddo adlewyrchu’r cadernid gwyddonol, ffocws ar effeithlonrwydd ac ansawdd mae’r brand yn adnabyddus amdanynt. Roedd angen iddo gyflawni hyn mewn ffordd nad oedd yn gelyniaethu nac yn pellhau cleifion a clinigwyr o brofiad dewisol sydd yn y bôn wedi’i ddylunio i helpu i fagu hyder a hunan-werth. Rhaid i brofiad y claf aros yn greiddiol i’r cynnyrch. Mewn marchnad lle mae nifer o honiadau amheus a spurious and unsubstantiated o effeithiolrwydd o hyd, roedd hyder a dealltwriaeth cleifion o ansawdd, gwyddoniaeth ac effeithlonrwydd gwirioneddol Coolsculpting Elite yn amcan allweddol mewn estheteg hawdd ei hadnabod a allai drosi i nifer o gynhyrchion arfaethedig yn y dyfodol.


RHYNGWEITHREDIADAU HYFRYD, DI-FFRITHIANT.

Wedi’i ddylunio i ffitio o fewn clinigau estheteg yn fyd-eang, mae’r ôl-troed bach a symudedd uchel ynghlwm wrth system sy’n mapio ac yn cefnogi taith y claf a’r gweithredwr yn ofalus o sefydlu trwodd i lanhau. Mae gan y dyluniad nifer o nodweddion dyluniad allweddol sy’n hawdd eu hadnabod ac yn atgyfnerthu safle a chysylltiadau brand y cynnyrch.

mae nodweddion fel y pluen eira wedi’i ôl-oleuo, botwn galw Bluetooth a dangosydd mawr yn sicrhau bod anghenion y claf a’r cwsmer yn aros wrth galon y dyluniad a’r profiad wrth ddarparu’r adnabyddiaeth wib a’r manylder sy’n gweithio ar draws ystod o dechnolegau meddygaeth esthetig.

PERFFORMIAD AR SAIL ANSAWDD.

Un amcan dylunio pwysig oedd creu platfform am ddefnydd hirdymor, rheolaidd a dibynadwy ochr yn ochr â modwleidd-deb i alluogi trwsio cyflym a chyn lleied â phosibl o amser pan nad oedd ar waith. Mae hyn yn targedu nid yn unig ymarferoldeb ac elw’r cwsmer ond yn lleihau’r effaith amgylcheddol.

Mae’r dyluniad hwn am ddefydd hirdymor, dibynadwy a dychwelyd i’r cwmni i’w ailgylchu ar ddiwedd oes yn cyd-fynd ag adolygiad o ddeunyddiau ategol ac atodol sy’n cael ei esgeuluso’n aml o safbwynt effaith amgylcheddol.

Dewch i Drafod

Cysylltu