The PDR logo
Tach 04. 2022

Media Cymru’n derbyn Ceisiadau am YDacA wedi’u hariannu

Yn dilyn lansio Media Cymru’n llwyddiannus ar 18fed Hydref, mae PDR yn falch o gyhoeddi y bydd ceisiadau ar agor o’r 7fed Tachwedd i unigolion a chwmnïau yn y sector creadigol sy’n chwilio am gyfleoedd Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (YDacA) ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yng Nghymru.

Fel rhan o’r consortiwm i Gymru ddatblygu canolfan sy’n arwain y byd ar gyfer arloesi yn y cyfryngau, mae PDR yn arwain y Ffrwd Arloesedd, rhaglen cymorth arloesi Media Cymru mewn cydweithrediad â’r Alacrity Foundation. Bydd yn darparu dau gyfle hyfforddi wedi’u hariannu sydd wedi’u hanelu at y rheiny yn niwydiant y cyfryngau i ddeall YDacA o’r cyfnod gweithredu hyd at gyflawni.

Y cyntaf yw ‘Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol’, cwrs pum diwrnod wedi’i ariannu, sy’n cynnwys tridiau gyda PDR a deuddydd gydag Alacrity. Nod y cwrs yw darparu cipolwg ar sut i drosi syniadau yn gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion y defnyddwyr terfynol, gan dargedu’r rheiny sy’n newydd i YDacA.

Yr ail gyfle yw’r ‘Lab Syniadau’, cwrs tridiau wedi’i ariannu a fydd yn ymdrin â gwerth profion ailadroddol, cydweithio, a Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr ac mae wedi’i anelu at weithwyr llawrydd sefydledig a busnesau bach. Dyfernir bwrsariaeth i ymgeiswyr llwyddiannus y naill gyfle a’r llall i fynychu’r cyrsiau yn y cnawd hyn. Mae cymorth ychwanegol ar gael i ymgeiswyr cymwys.

Mae hon yn rhaglen gyffrous iawn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymwneud â chasgliad eang o bobl greadigol a’u helpu i ddarganfod beth y gall YDacA ei olygu iddyn nhw a’r sector.

Dywedodd Andy Walters | Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Media Cymru | PDR

Mae’r cyrsiau hyn yn rhan o raglen ehangach o gymorth y bydd Media Cymru’n ei darparu i sector y cyfryngau yn Ninas-Ranbarth Caerdydd ar hyd y tair blynedd nesaf. Cyflwynir Media Cymru gan garfan o 23 sefydliad sydd â’r nod o ddarparu twf ar gyfer diwydiant cyfryngau mwy cynaliadwy, amrywiol a chynhwysol yng Nghymru. Erbyn 2026, mae’r £50m o gyllid yn gobeithio darparu tua 2000 o swyddi a chreu £236m (Gwerth Ychwanegol Gros). O 2023 i 2025, bydd PDR yn cyflwyno cyfleoedd cymorth dylunio i sefydliadau o bob maint yn sector y cyfryngau.

Meddai Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth gyffrous hon ac yn edrych ymlaen at rannu ein harbenigedd er lles sector y cyfryngau yma yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: “Mae cyllid Media Cymru’n ein caniatáu ni i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol – i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang mewn arloesi yn y cyfryngau – gyda ffocws ar dwf economaidd byd-eang, gwyrdd a theg.”

I ymgeisio, llenwch a chyflwynwch y cais ar-lein erbyn 5ed Rhagfyr 2022.

CAMAU NESAF

A oes gennych brosiect mewn golwg? Cysylltwch â ni i drafod, neu ewch i ddarllen mwy am ein gwaith blaenorol.