The PDR logo
Ion 05. 2023

Dewch i gwrdd â'n Hymchwilydd Dylunio Ôl-ddoethurol newydd, Dr Safia Suhaimi

Rydym yn falch iawn o gyflwyno Dr Safia Suhaimi, ein Hymchwilydd Dylunio Ôl-ddoethurol newydd yma yn PDR. Wedi iddi dderbyn Ph.D. mewn estheteg arbrofol yn 2021, gadawodd ei mamwlad ym Malaysia i ymuno â ni i weithio'n benodol ar ein Prosiect Media Cymru, sy’n datblygu clwstwr o'r radd flaenad ar gyfer arloesi yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Cyn ymuno â PDR, roeddwn i wir eisiau parhau i wneud ymchwil ym maes arloesi a thrawsnewid gwerth cynnyrch. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn dod o hyd i ffordd y gallaf gyfrannu yn academaidd ac yn ymarfer y diwydiant dylunio. Pan wnes i ddigwydd dod ar draws y cyfle hwn, roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n cael y gorau o'r ddau fyd yma, ac y byddwn i'n cymryd rhan mewn prosiect sy'n gweithio gyda chymunedau dylunio ac ymarferwyr creadigol. Rwy'n hapus iawn!"

Roedd Safia yn ddarlithydd cyn ymuno â'n tîm, yn addysgu ac yn cynnal ymchwil ym meysydd dylunio gweledol a dylunio cynnyrch. “Roeddwn hefyd yn cyd-guradu arddangosfeydd dylunio ac yn rhedeg prosiectau cymunedol celf a dylunio i blant. Rwyf bob amser yn gofyn, sut y gallwn ddefnyddio ein hymchwil i ennyn diddordeb a chefnogi ein cymunedau yn uniongyrchol?”

Er ei bod yn aelod newydd o’r tîm, mae Safia wedi dechrau rhedeg prosiectau. “Rwyf wedi bod yn gweithio ar y cynllun ymchwil ar gyfer y broses casglu data ar ôl i ni ddechrau'r rhaglen gymorth arloesol ym mis Ionawr,” meddai, am brosiect Media Cymru. “Rwyf wedi bod yn cwrdd ag ymchwilwyr eraill Media Cymru o’r gwahanol brifysgolion cyfagos, dod i adnabod arbenigedd ymchwil ein gilydd a symleiddio ein hymchwil.”

O ran ei hamser yng Nghaerdydd a gyda PDR hyd yn hyn, mae Safia yn gyflym i dynnu sylw at yr amlwg… “Mae'n oer! Ond mae'r bobl yma yn gynnes," meddai wrth chwerthin. “Mae pawb yma yn PDR yn hynod dalentog a chyfeillgar. Os oes angen help arnoch chi, maen nhw’n eich cefnogi chi.”

Pan nad yw hi'n gweithio, mae Safia yn brysur yn darganfod Caerdydd. “Rwy’n crwydro’r parciau a’r amgueddfeydd… rwyf wrth fy modd yn treulio’r penwythnos gyda fy nheulu bach yma, yn gweld y golygfeydd ac yn siopa gyda fy merch 3 oed.”

Pan ofynnwyd iddi am unrhyw ddoniau cudd nad ydym yn gwybod amdanynt eto, mae Safia yn cyfaddef ei bod hi'n gallu canu, sy’n gwneud iddi deimlo’n gartrefol yng Nghymru! “Gallaf hefyd adrodd yr wyddor o chwith mewn llai na 5 eiliad, ond dydw i ddim mor siŵr bod hynny’n ddefnyddiol.”

Wel, os bydd prosiect byth yn galw amdano, rydym yn gwybod pwy i ofyn! Hoffem ddymuno croeso cynnes i Safia i PDR ac yn edrych ymnlaen i glywed mwy am brosiect Media Cymru wrth iddo fynd rhagddo.

Dysgwch fwy am sut brofiad yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.