The PDR logo
Ebr 18. 2019

Wythnos Ddylunio Milan 2019

Wythnos Ddylunio Milan 2019, wythnos yn dangos y tueddiadau dylunio diweddaraf am y tro cyntaf a dathlu dylunio gwych gan arddangoswyr ledled y byd. Ochr yn ochr â'r digwyddiad byd-eang blynyddol ar gyfer y sector dodrefnu a dylunio (Salone del Mobile. Milano), roedd y ddinas y frith o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd dylunio eraill gan gwmnïau fel LG, Lexus, Yamaha, IKEA, Freitag ac ati yn ardaloedd Lambrate, Tortona a Ventura Centrale.

Gyda’n boliau’n llawn Gelato, bu rhai ohonom yn ddigon ffodus i dreulio ychydig ddyddiau'n crwydro'r ardaloedd dylunio gwahanol a gweld y pleserau dylunio sydd gan Milan i'w cynnig.

VENTURA CENTRALE

Wedi eu cynnwys o fewn naw i bymtheg o gladdgellau, aeth brandiau fel Yamaha, Freitag, a Rapt Studio ati i greu profiadau ymdrochi, amlsynhwyraidd. Roedd ffocws cryf rhwng deunyddiau a thechnoleg y dyfodol, gan greu gosodiadau trawiadol a oedd yn annog pawb yno i ymgysylltu â'n synhwyrau. Ar ben hynny, uchafbwyntiau eraill yr ardal ddylunio oedd cynaliadwyedd a dathlu dylunio da (neu ddylunio gwael yn achos Freitag). Isod mae rhai o'n hoff ddarnau o Ventura Centrale.

HUMAN SCALE: BODIES IN MOTION

Creodd Humanscale, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion ergonomig, osodiad o'r enw 'Bodies in Motion' a oedd yn archwilio symudiadau dynol. Gan ddefnyddio sganwyr 3D i nodi cymalau craidd y corff dynol, anogwyd pobl i symud yn rhydd a gweld eu cyrff eu hunain yn symud drwy belydrau o olau.

FREITAG: UNFLUENCER, DE-SINNING THE DESIGNER

Bu'r gwneuthurwr bagiau Freitag yn cydweithio â'r dylunydd ffilm Georg Lendorff, yn y gobaith o roi profiad mwy gonest a mwy ysbrydoledig i ymwelwyr. Gydga Wythnos Ddylunio Milan yn ymroi i dathlu dylunio da, mae'r gosodiad hwn yn ceisio tynnu sylw at y gwrthwyneb.

Dyrannwyd tocyn wedi'i rifo i bawb wrth fynd i mewn. Gofynnwyd i ni, fel dylunwyr, feddwl am ein darnau gwaethaf o waith: Oeddem ni wedi ystyried effaith amgylcheddol y cynnyrch? Oedd e'n addas i'r diben? Neu a oedd yn hyll fel pechod? Roedd ceredded trwy osodiad golau Lendorff ac ymdrochi'n llwyr ynddo - tafluniadau ar filoedd o edau sy'n hongian o'r nenfwd - yn rhoi naws am le ac amser i ymwelwyr ystyried eu troseddau dylunio.

Pan ymddangosodd ein rhif ar sgrîn ddigidol, cawsom ein galw i fwth cyffesu. Yna, fe wnaethom gyffesu ein pechodau dylunio wrth gyd-bechadur, yn y gobaith o ddod o hyd i ffyrdd o wella ar gyfer y dyfodol.

Rhoddwyd bag wedi'i dagio i'r holl ddylunwyr a oedd yn gadael y gosodiad fel y gallant ddangos eu bod wedi'u 'dad-bechu’.

PROSIECT TAKT: GLOW GROW

Roedd prosiect 'glow'⇄ grow' TAKT yn harneisio deunyddiau a thechnoleg fodern i greu profiad tanddaearol er mwyn cyffroi'r ogofäwr uwch-dechnoleg. Drwy ddiferu resin cyweirio UV yn raddol dros linyn o oleuadau LED yn pylsio, mae stalactidau neu bibonwy polymer yn datblygu'n araf wrth i'r golau rewi'r deunydd hylifol, gan efelychu'r broses filflynyddol sydd wedi'n cyfareddu byth ers inni gydnabod harddwch a hudoliaeth prosesau natur.

DNP: PATTERNS AT TIME

I'r gwrthwyneb, mae technolegau argraffu uwch DNP wedi ysbrydoli AtMa Inc a noiz drwy'r hud a dirgelwch i brosesau argraffu a deunyddiau modern. Gellir trin inc â gwefr drydanol drwy amrywio'r cerrynt sy'n mynd drwy'r deunydd print ar hyn o bryd fel bod modd celu, graddio neu bwysleisio patrymau.

WALLPAPER* HANDMADE X: WITH LOVE

Mae Wallpaper Magazine wedi curadu nifer o ddylunwyr, artistiaid a phenseiri i greu profiad ymdrochol. Yn eu plith, Bang and Olufsen, Layer Design, MUJI, Paul Smith ac ISKO.

​Layer Design + NIO yn cydweithio i greu cysyniad sgwter clyfar ‘PAL’

Yn sicr, wnaeth Wythnos Ddylunio Milan ddim siomi, a daethom adref gyda gwybodaeth ac ysbrydoliaeth newydd gan rai o brif enwau'r byd dylunio yn ogystal â doniau newydd a'r prosiectau dylunio llai sy'n gwthio ffiniau dylunio.