The PDR logo
Gor 21. 2022

PDR yn mynychu 20fed Sioe Exclusively yn Llundain

Yn PDR, rydym yn gweithio â sawl sector i ddod â’n harbenigedd ac atebion arloesol i gynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn herio marchnadoedd a gwella profiadau defnyddwyr. Rhan annatod o ddatblygu ein dealltwriaeth ymhellach mewn sectorau gwahanol a dilyn y ffasiwn yw mynychu digwyddiadau a sioeau pan ddaw’r cyfle.

Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom ymweld ag 20fed Sioe Exclusively yn Llundain – prif arddangosfa’r DU o frandiau nwyddau tŷ, ar gyfer byrddau ac offer domestig bychan. Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 2002 fel ‘Exclusively Housewares’ ac mae wedi tyfu’n gyson i’w maint presennol. Fe wnaeth 130 o arddangoswyr gymryd rhan eleni ac arddangoswyd 200 o frandiau ar hyd cyfnod o ddeuddydd.

Cawsom amser gwych yn y sioe, yn cyflwyno ein gwasanaethau dylunio i gleientiaid posibl newydd, cysylltu â chwmnïau blaenllaw, archwilio datblygiadau newydd a’r heriau sy’n wynebu dylunio yn y diwydiant nwyddau tŷ. Mae gan sawl cwmni yn y sector nwyddau tŷ dimau dylunio cynnyrch mewnol eisoes, fodd bynnag, mae cydweithio yn yr amgylcheddau hyn yn faes y mae PDR yn ffynnu ynddo. Yn y pen draw, mae’n caniatáu cyfleoedd a syniadau newydd i fusnesau eu harchwilio, sy’n eu helpu i ddatblygu casgliadau cynnyrch i’r dyfodol a marchnadoedd cynnyrch efallai nad oeddent wedi’u hystyried eto.

“Mae helpu cwmnïau i ffurfio hunaniaeth ar gyfer y pump i ddeng mlynedd nesaf a darparu cyfeiriad clir yn sicr yn rhywbeth y gallwn helpu’r cwmnïau hyn eu cyflawni,” meddai Anthony McAllister, Rheolwr Datblygu Busnes yn PDR a fynychodd y digwyddiad.

Mae’n parhau; “Y cwestiynau allweddol rydyn ni’n eu gofyn i gleientiaid bob tro yw ‘sut olwg sydd ar eu map ffordd ar gyfer y dyfodol a beth yw eu strategaeth ar gyfer cyrraedd yno?’ Does dim gwahaniaeth p’un a ydych yn canolbwyntio ar y presennol neu a oes gennych weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol, mae gan PDR y cyfarpar perffaith i helpu i yrru a datblygu unrhyw ddatblygiad cynnyrch neu arlwy gwasanaeth.”

Rydym yn frwd dros feithrin perthnasoedd ac ehangu ein harbenigedd i feysydd newydd yn PDR, ac yn sicr, nid yw’r diwydiant nwyddau tŷ yn eithriad. Rydym wrthi’n ffurfio cydweithrediadau newydd ac yn datblygu prosiectau yr ydym yn llawn cyffro i gynnwys arbenigedd ein tîm ynddynt. Gwyliwch y gwagle ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol.

Camau nesaf

Dysgwch ragor am PDR neu cysylltwch â ni i drafod syniad am gynnyrch.