The PDR logo
Mai 06. 2021

PDR bellach ar frig yr iF World Design Guide Index ar gyfer 2021

Yn 2021, roedd PDR ymhlith 10,000 o geisiadau o 55 o wledydd i gael ein gwaith wedi’i asesu. Caiff y ceisiadau eu beirniadu’n gwbl ddall, gan griw dethol iawn o 98 o ddylunwyr academaidd a phroffesiynol blaenllaw o 22 o wledydd. Caiff pob cais ei feirniadu’n annibynnol gan sawl beirniad a hynny’n erbyn meini prawf llym iawn.

Dim ond 75 Gwobr Aur a gyflwynir mewn blwyddyn ar draws 9 disgyblaeth gan gynnwys Dylunio Cynnyrch, Pensaernïaeth, Dylunio Gwasanaethau, Pecynnu, Cyfathrebu, Pensaernïaeth Fewnol, Cysyniad Proffesiynol, a chategorïau mwy newydd fel Profiad Defnydddwyr (UX) a Rhyngwyneb Defnyddwyr (UI).

Felly, mewn cystadleuaeth eithriadol o waith dylunio o’r radd flaenaf, mae hyd yn oed yn fwy cyffrous i rannu’r ffaith bod PDR bellach ar frig yr iF World Design Guide Index – sy’n mesur timau dylunio gorau’r DU.

Mae ein safle newydd yn golygu ein bod ni uwchlaw mawrion y diwydiant fel Samsung a Honeywell – dau gwmni gwych sydd wedi cyrraedd y brig yn rheolaidd mewn blynyddoedd blaenorol.

TAITH EIN GWOBR DYLUNIO IF 2021

Yn dilyn ein llwyddiant aur yn 2020, yn 2021 cawsom wobr arall sef y Gwobr Dylunio Aur iF am y brês carinatwm i ferched ar gyfer R&D Surgical Ltd. Meddai rheithgor Gwobr iF: “ Mae’r dyluniad sy’n canolbwyntio ar y bod dynol i’w weld drwy ffurf clir a hwylus y dyluniad ei hun ac yn y cymysgedd o ddeunyddiau. Mae’n gyfforddus, yn ddymunol i’r llygad ac yn hawdd a naturiol i’w ddefnyddio.”

Ymhlith ein henillwyr eraill i gael gwobrau dylunio yn 2021 mae CoolSculpting Elite, y genhedlaeth nesaf o systemau amlinellu’r corff, a Hydroxl Aura, peiriant puro aer personol y gellir ei wisgo sy’n diogelu defyddwyr mewn modd cwbl chwyldroadol. Mae Shield, ein pedwerydd dyluniad buddugol, yn nodi’r tro cyntaf i gathetrau gael eu haildylunio mewn hanner can mlynedd.

Gan siarad am sicrhau’r safle cyntaf yn yr iF World Design Guide, meddai Anthony McAllister, Rheolwr Datblygu Busnes:

Mae cyrraedd y brig fel sefydliad dylunio gorau’r DU, a chystadlu’n erbyn y gorau yn y gymuned ddylunio yn rhywbeth eithriadol. Mae ein llwyddiant parhaus yn glod i ymroddiad, brwdfrydedd, doniau ac ymdrech gyson y tîm cyfan yma yn PDR!

ANTHONY MCALLISTER | DATBLYGU BUSNES | PDR

MWY AM WOBRAU DYLUNIO IF

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Dylunio iF yn dathlu gwaith dylunio rhagorol. Mae’r ffaith ei fod mor berthnasol i fusnes a bywyd o ddydd i ddydd yn golygu mai dyma un o’r seliau ansawdd pwysicaf yn y byd.

Mae’r label iF wedi cael ei dyfarnu yn yr Almaen ers 1953, ac mae’n gydnabyddiaeth adnabyddus o waith dylunio da i ddefnyddwyr yn ogystal â’r gymuned ddylunio yn gyffredinol – gan greu pont rhwng cwmnïau, gweithwyr creadigol a’r cyhoedd.

Caiff cynhyrchion a phrosiectau dylunwyr, gweithgynhyrchwyr, penseiri a dylunwyr mewnol eu gwerthuso gan arbenigwyr dylunio a gydnabyddir yn rhyngwladol ac maen nhw wedi bod yn troi at Wobr Dylunio iF ers degawdau. Mae’r sêl hwn yn arwydd disigl bod eu sefydliad yn sicrhau bod dylunio yn rhan annatod o’u busnes gan fynd ati’r un pryd i ddenu sylw rhyngwladol. Mae ennill Gwobr iF Design yn helpu i godi brand, cynnyrch a gwasanaeth sefydliad yn ogystal â rhoi cyfle i gyrraedd grwpiau targed a rhwydweithiau newydd posibl.

Mae’r broses o gael eich dyfarnu’n annibynnol gan gyfoedion, ar sail teilyngdod, yn erbyn ein cystadleuwyr ar lwyfan byd-eang yn un anodd dros ben. Ein llwyddiant parhaus eleni yw’r rheswm y mae PDR wedi'i enwi fel y Sefydliad Dylunio Gorau yn y DU yn safleoedd Dylunio’r Byd iF ar gyfer 2021.

Hoffem ddiolch i’n timau am eu gwaith caled yn sicrhau’r braint anhygoel hwn a hoffem longyfarch y cleientiaid y mae eu cynhyrchion arloesol wedi cyrraedd y brig mewn gwaith dylunio rhagorol.

Gallwch ddarllen mwy o newyddion am wobrau PDR neu gysylltu i drafod prosiect.