The PDR logo
Ebr 20. 2022

PDR yn cipio 3 Gwobr Dylunio iF ar gyfer 2022!

Blwyddyn arall, buddugoliaeth arall i PDR – 3, i fod yn fanwl gywir. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod ni wedi ennill 3 Gwobr Dylunio iF ar gyfer 2022 – dau ohonynt ar gyfer cynhyrchion arloesol ac un ar gyfer prosiect cwbl gyfrinachol!

Nyfasi sy’n cipio ein gwobr ddylunio gyntaf, crib datod clymau moethus y’i datblygwyd yn benodol ar gyfer y gymuned gwallt Affro a Du. Ychydig o gynhyrchion sydd wedi'u dylunio ar gyfer eu gofynion penodol, sydd wedi arwain atynt yn cael eu hanwybyddu gan frandiau harddwch mawr i raddau helaeth. Nod Nyfasi yw ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i ofalu ar ôl gwallt affro, trwy gyfuno dau gam pwysig mewn un: cyflyru a datod clymau. Mae ei fecanwaith, sydd â phatent i’w enw, yn gorchuddio gwallt defnyddwyr â chyflyrydd wrth ddatod clymau’n hawdd heb anesmwythder. Mae'r cynnyrch wedi’i ddylunio a'i brofi'n helaeth gan y defnyddwyr eu hunain i ddathlu a chefnogi gwallt naturiol ac iach Affro a Du.

Enillydd ein gwobr dylunio arall yw Cercle, y’i lluniwyd a’i datblygwyd â phroffil cynaliadwyedd llawn mewn golwg. Fe'i dyluniwyd i fynd i'r afael â gwaith cymhleth ac aml-ddeunydd adeiladu olwynion llywio sy'n rhwystro ailgylchu ac sydd felly'n dod yn rhan allweddol o'r 25% o bob cerbyd sy'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

Cercle yw'r olwyn lywio fodurol gyntaf i fabwysiadu dull economi gylchol llawn o ddylunio sy'n golygu y gellir ei datgysylltu a’i hailgylchu’n llwyr ac yn hawdd ar ddiwedd ei hoes, wrth ymgorffori rheolaethau cymhleth ac adborth cyffyrddiadol i ffurf draddodiadol o ansawdd uchel.

Roedd Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR, yn rhan o'r rheithgor yng Ngwobrau Dylunio iF eleni. Mewn datganiad, dywed:

"Os unrhyw beth, mae fy ymwneud â phroses reithgor Gwobrau Dylunio iF eleni wedi atgyfnerthu fy nghred yn annibyniaeth, tegwch ac, yn bwysicach oll, ansawdd Gwobrau Dylunio iF. Cafwyd dros 10,000 o geisiadau eleni o bob cwr o'r byd yn arddangos y gorau oll o ddylunio yn 2022. Roedd tîm y rheithgor a gynullwyd yn cynrychioli llawer o ddoniau a phrofiad dylunio gorau'r byd ac nid oeddem mewn unrhyw hwyliau i adael i safonau eithriadol o uchel Gwobr Dylunio iF lithro.

"Mae ennill 3 gwobr felly'n anhygoel ac yn syfrdanol, yn dilyn llwyddiannau blaenorol tebyg gan gynnwys Gwobrau Aur olynol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae'r tîm yma yn PDR yn fach ond o ansawdd uchel, ac mae iF yn parhau i’n hystyried y gorau yn y DU ac ymhlith y 25 asiantaeth ddylunio a chanolfan dylunio dyfeisiau meddygol gorau’n fyd-eang."

Os unrhyw beth, mae fy ymwneud â phroses reithgor Gwobrau Dylunio iF eleni wedi atgyfnerthu fy nghred yn annibyniaeth, tegwch ac, yn bwysicach oll, ansawdd Gwobrau Dylunio iF.

JARRED EVANS | CYFARWYDDWR | PDR

Er na allwn rannu manylion un o'n prosiectau eto, gallwn yn sicr rannu ei fuddugoliaeth yng Ngwobrau Dylunio iF eleni. Yr oll y gallwn ei ddweud am y tro yw ein bod wedi bod wrthi’n gweithio ar brosiect ar gyfer cwmni dyfeisiau meddygol yn yr Almaen, felly cadwch eich llygaid ar agor am ddiweddariadau!

Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan am eu gwaith caled a'u hymrwymiad diwyro at ddylunio pwrpasol!

Darllenwch ragor o newyddion am wobrau PDR neu cysylltwch â ni i drafod prosiect.