The PDR logo
Ion 21. 2021

Sylwadau ar lunio polisïau sy’n canolbwyntio mwy ar y dinesydd gyda Dr Anna Whicher

Mae Dr Anna Whicher yn Gyfarwyddwr Ymchwil Cyswllt yma yn PDR. Bu’n aelod pwysig o'n tîm ers 2009.

Yn 2020, roedd Anna yn un o chwe ymgeisydd llwyddiannus a dderbyniodd Gymrodoriaeth Ymchwil Dylunio uchel ei bri Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Mae'r AHRC yn un o gynghorau ymchwil y DU sy'n meithrin mentrau ymchwil ac astudiaethau ddoethur yn y celfyddydau a'r dyniaethau. Ers 2016, mae wedi buddsoddi £52 miliwn mewn 124 o brosiectau ymchwil dylunio gan gynnwys nifer o brosiectau eraill dan arweiniad PDR.

Nod y cylch hwn o Gymrodoriaethau Ymchwil Dylunio AHRC yw dangos gwerth ymchwil dylunio a'i chyfraniad i'r economi ac i gymdeithas ar draws chwe thema ymchwil graidd:

  • Deallusrwydd Artiffisial a data
  • Twf glân
  • Symudedd
  • Lle
  • Polisi Cyhoeddus
  • Gwasanaethau Cyhoeddus


Dyfarnwyd chwe chymrodoriaeth ddwys pedwar mis o hyd, a phenllanw’r rhain oedd adroddiadau cynhwysfawr ym mhob categori. Ymgysylltodd cymrodyr ag amrywiaeth o randdeiliaid mewn diwydiant, y llywodraeth a'r byd academaidd i wneud canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer ymarfer yn y dyfodol ym maes ymchwil dylunio.

DYLUNIO AR GYFER POLISI CYHOEDDUS

Canolbwyntiodd ymchwil Anna ar ddefnyddio dylunio fwyfwy i adfywio prosesau polisi cyhoeddus. Mae llywodraethau'n arbrofi mwy a mwy gyda gwahanol ddulliau arloesi, gan gynnwys dylunio, er mwyn gwella cyfranogiad dinasyddion wrth lunio polisïau.

"Yn draddodiadol," esbonia Anna, "economegwyr sy’n datblygu polisïau. Byddant yn defnyddio tystiolaeth yn seiliedig ar setiau data mawr i gyfiawnhau ymyrraeth polisi. Trwy ddefnyddio'r dulliau hyn, gall economegwyr sicrhau dealltwriaeth glir o broblemau 'darlun mawr'.

"Ond mae'r dull hwn yn aml yn anwybyddu profiadau bywyd unigolyn a dyma lle mae dylunio’n camu i’r adwy. Mae’n rhoi pobl yn gyntaf ac yn dysgu o'u profiadau yn y byd go iawn er mwyn helpu i greu polisïau a gwasanaethau ar y cyd sy'n mynd i'r afael yn well â'u hanghenion. Nod sylfaenol dylunio ar gyfer polisi yw rhoi wyneb dynol i'r rhifau."

CANFYDDIADAU YMCHWIL

Mae ymchwil Anna yn dangos tuedd gref tuag at dimau llywodraeth amlddisgyblaeth, neu labordai, yn arbrofi gyda dulliau dylunio o ymdrin â pholisi. Mae o’r farn y dylai llywodraethau canolog a datganoledig rannu eu gwybodaeth fel mater o drefn er mwyn cyflwyno dulliau gweithio sy’n canolbwyntio’n fwy ar y dinesydd o fewn y broses bolisi.

Mae'n nodi bod y pandemig Covid-19 wedi cyflymu rhai o ddulliau'r llywodraeth o lunio polisïau. "Yn ystod y pandemig rydym wedi gweld dull cyflym o brototeipio polisïau, lle mae polisïau a gwasanaethau'n cael eu datblygu'n gyflym i ddiwallu anghenion a ddaw i’r fei ac yna’u gwella yn y fersiynau diweddarach, yn ôl eu heffeithiolrwydd. Dyna'n union sut y dylid mynd ati i ddylunio polisïau, ac mae wedi bod yn ddatblygiad cyffrous i'w weld."

Ond, mae Anna yn nodi bod yn rhaid i'r DU wneud mwy i greu deialogau mwy dilys rhwng dinasyddion a'r wladwriaeth, a chyflwyno newidiadau i brosesau'r sector cyhoeddus yn seiliedig ar y rhyngweithio hyn. Mae hi'n esbonio,

"Mae’r cyhoedd wedi colli hyder mewn prosesau llywodraethu cyhoeddus gwaetha’r modd. Rydyn ni angen ailgyflwyno empathi i’r broses o wneud polisïau ac mae hynny’n cychwyn drwy wrando ar y bobl sydd angen y gwasanaethau hyn fwyaf."

BETH NESAF?

Dosbarthwyd adroddiad Anna yn eang ymhlith swyddogion y llywodraeth, ac yna fe'i gwahoddwyd i gynorthwyo gyda’r gwaith o lunio ymgynghoriad y llywodraeth ganolog ymysg gweision sifil ar ddiwygio'r Proffesiwn Polisi er mwyn sicrhau bod mwy o ffocws ar y defnyddiwr wrth lunio polisïau.

Roedd cymrodoriaeth yr AHRC yn gyfle pellach i Anna sefydlu ei hun fel un o nifer fach iawn o arbenigwyr sy'n ymwneud ag ymchwil ac ymarfer ar ddylunio ar gyfer polisi.

Bellach, gobaith Anna yw cael grantiau pellach ar gyfer prosiectau ymchwil dylunio ar raddfa fawr, gyda’r nod o’u harwain fel prif ymchwilydd ar ran PDR.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darllen adroddiad llawn Anna, gallwch ei gyrchu yma - neu ddysgu mwy am brosiectau Polisi Dylunio PDR.

Yn ystod y pandemig rydym wedi gweld dull cyflym o brototeipio polisiau, lle mae polisïau a gwasanaethau'n cael eu datblygu'n gyflym i ddiwallu anghenion a ddaw i’r fei ac yna’u gwella yn y fersiynau diweddarach, yn ôl eu heffeithiolrwydd. Dyna'n union sut y dylid mynd ati i ddylunio polisïau, ac mae wedi bod yn ddatblygiad cyffrous i'w weld.

DR ANNA WHICHER | PENNAETH DYLUNIO POLISI | PDR